Mae astudio modiwl sengl yn cynnig ffordd hyblyg o ddatblygu eich arbenigedd a chefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus. Mae鈥檔 gyfle delfrydol i adnewyddu eich gwybodaeth, meithrin mewnwelediad arbenigol, a pharatoi ar gyfer astudio pellach ar lefel 么l-raddedig.
Gellir trosglwyddo鈥檙 credydau a enillir tuag at gymhwyster 么l-raddedig Addysg Weithredol. Gyda chwblhau 180 o gredydau, ac yn amodol ar aliniad modiwlau 芒 chwricwlwm yr MBA, gallwch symud ymlaen i ennill gradd MBA lawn.
Mae ein modiwlau sengl 么l-raddedig wedi鈥檜 cynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol ar wahanol gamau yn eu gyrfa, yn enwedig y rhai sy鈥檔 gweithio ym maes gwasanaethau ariannol, rheoleiddio a chydymffurfio. Rydym hefyd yn ystyried ceisiadau gan unigolion sydd 芒 phrofiad neu gymwysterau cyfyngedig ond sy鈥檔 gallu dangos cymhelliant a photensial i lwyddo.
Pam dewis astudio modiwl sengl?
Astudio ar-lein gyda darpariaeth rhan-amser hyblyg
Datblygu eich gyrfa tra鈥檔 cydbwyso gwaith a bywyd personol
Profi astudio 么l-raddedig cyn ymrwymo i gymhwyster llawn
Casglu credydau tuag at gymhwyster 么l-raddedig cydnabyddedig
Mae Addysg Weithredol, Ysgol Fusnes Albert Gubay yn cadw'r hawl i gynnig modiwlau naill ai mewn semester Hydref neu Ebrill. Am ddisgrifiad llawn o'r modiwl, cliciwch ar yr enwau isod.
Modiwlau Hydref 2026
Agweddau Diogelwch Cenedlaethol Troseddau Ariannol