 
  Caroline Cartmill
BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC a Blwyddyn Profiad Rhyngwladol, 2021
 
  Pam dewis Prifysgol 黑料不打烊?
Cefais fy magu ym Manceinion ac rydw i wedi bod yn agos iawn at fy nheulu erioed, felly roedd y syniad o symud i ffwrdd i fynd i'r brifysgol yn teimlo'n gyffrous ond hefyd ychydig yn frawychus. Roeddwn i'n gwybod bod angen i mi ennill annibyniaeth a phrofi byw i ffwrdd o adref, ond doeddwn i ddim eisiau bod mor bell fel na allwn i ddychwelyd yn hawdd pe bai gen i hiraeth am adref.
Es i ddau ddiwrnod asesu prifysgol arall cyn ymweld 芒 黑料不打烊, ac ar y ddau achlysur roedd y tywydd yn wlyb ac yn ddiflas. Yn fwy na hynny, roedd rhywbeth am bob lle ddim yn teimlo'n iawn. Dw i'n hoffi ymddiried yn fy ngreddf, ac ni roddodd yr un o'r prifysgolion hynny'r teimlad i mi eu bod nhw lle roeddwn i i fod.
黑料不打烊 oedd y lle diwethaf i mi ymweld ag ef, ac o'r eiliad y cyrhaeddais roedd rhywbeth yn teimlo'n iawn. Roedd yr haul yn tywynnu dros Afon Menai ac roedd campws Safle'r Normal yn edrych yn syfrdanol gyda'i olygfa o Bont Menai. Roedd y staff a roddodd gyfweliad i mi - a ddaeth yn diwtoriaid i mi yn ddiweddarach - yn gynnes ac yn groesawgar, ac fe wnaethon nhw egluro鈥檙 cwrs mewn ffordd a wnaeth i mi deimlo鈥檔 gyfforddus ar unwaith. Mi wnes i hyd yn oed gyfarfod ag ymgeiswyr eraill y diwrnod hwnnw a aeth ymlaen i ddod yn ffrindiau da. Ymddiriedais yn fy ngreddf a derbyniais fy nghynnig cyn gynted ag y daeth drwodd.
Dywedwch wrthym am eich amser ym Mangor.
Pan gyrhaeddais gyntaf, fel roeddwn i wedi'i ragweld, roedd gen i hiraeth ofnadwy. Yn hytrach na gadael i hynny fy nal yn 么l, defnyddiais hynny fel cymhelliant i gymryd rhan a dod yn rhan o'r gymuned leol a鈥檙 gymuned o fyfyrwyr. Ymunais 芒 phapur newydd y myfyrwyr fel golygydd, deuthum yn ymddiriedolwr sy鈥檔 fyfyriwr ar gyfer UNDEB 黑料不打烊, ac yn ddiweddarach cymerais seibiant o 12 mis o fy nghwrs i gwblhau Blwyddyn Ryngwladol, gan weithio yn y Ganolfan Addysg Ryngwladol mewn recriwtio a marchnata rhyngwladol ar gyfer y brifysgol. Rhoddodd hyn y cyfle anhygoel i mi fynd i ddigwyddiadau recriwtio ledled y Dwyrain Canol, gan ymweld 芒'r Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar, yr Aifft, a Thwrci - ychydig cyn i COVID dorri fy nhaith yn fyr ac roedd yn rhaid i mi hedfan yn 么l o Dubai cyn i'r ffiniau gau a鈥檙 cyfnod clo ddechrau! Fe wnaeth pob un o'r profiadau hyn feithrin fy hyder, fy sgiliau proffesiynol, a'm safbwynt byd-eang.
Gwirfoddolais hefyd i Childline, gan gefnogi plant a phobl ifanc trwy wasanaeth gwrando, a chwblheais interniaeth yn CAIS, elusen sydd wedi'i lleoli ym Mae Colwyn. Rhoddodd y profiadau hyn ddealltwriaeth fanwl i mi o bwysigrwydd llesiant ac ymgysylltu 芒'r gymuned - sgiliau sy'n amhrisiadwy yn fy ngyrfa addysgu.
Yn academaidd, roedd y gefnogaeth a gefais yn eithriadol. Ar y dechrau, doedd gen i ddim llawer o hyder mewn ysgrifennu traethodau na defnyddio iaith academaidd a chyfeirio. Mi anes i ddefnydd llawn o鈥檙 darlithoedd sgiliau astudio am ddim, treuliais oriau lawer yn y llyfrgell, a threfnais sawl apwyntiad un-i-un gyda鈥檙 ymgynghorwyr sgiliau astudio. Roedden nhw bob amser yn hapus i ateb cwestiynau a'm harwain drwy'r broses o gynhyrchu gwaith academaidd cadarn. Erbyn diwedd y cwrs roeddwn i nid yn unig yn teimlo'n hyderus yn fy ysgrifennu, ond graddiais gyda gradd Dosbarth Cyntaf - rhywbeth rwy'n hynod falch ohono.
Creodd fy nhiwtoriaid amgylchedd dysgu bach, cynnes a chroesawgar lle nad oedd unrhyw gwestiwn byth yn teimlo'n hurt. Erbyn i ni orffen ein gradd, roedden ni fel teulu bach. Byddwn yn argymell y cwrs yn galonnog am ei addysgu o ansawdd uchel, ei ddarlithoedd ysbrydoledig a'r amrywiaeth o leoliadau ysgol ledled Gogledd Cymru.
Beth wnaethoch chi ar 么l i chi raddio?
Gogledd Cymru oedd y lle perffaith i ddechrau fy ngyrfa. Arhosais am dair blynedd ar 么l graddio, gan fyw ym Mae Colwyn a gweithio mewn ysgolion yng Nghymru. Roedd yn gyfnod cyffrous ymuno 芒 sector addysg Cymru wrth i'r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno. Roedd ysgolion yn awyddus am raddedigion a oedd yn deall y newidiadau yn fanwl, ac roeddwn i'n mwynhau rhoi'r Gymraeg roeddwn i wedi'i dysgu a'm gwybodaeth am y cwricwlwm ar waith.
Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuais weithio mewn ysgol breifat hefyd a sylweddolais yn gyflym fy mod wedi dod o hyd i fy niche. Roeddwn i wrth fy modd 芒'r amgylchedd, y dull addysgu a'r cyfleoedd yr oedd yn eu darparu. Pan symudais yn 么l i Fanceinion yn y pen draw, cefais y fraint o ddod o hyd i swydd wych yn Ysgol Baratoadol Ysgol Uwchradd i Ferched Manceinion, lle rwyf bellach yn dod 芒 phopeth a ddysgais yng Nghymru i mewn i'm haddysgu.
Beth ydych yn ei wneud yn awr?
Ochr yn ochr 芒'm gyrfa addysgu, rydw i wedi parhau i feithrin y cariad at ddysgu gydol oes y bu i Fangor ei ysgogi ynof. Wrth fyw yng Ngogledd Cymru, darganfyddais gymuned gyfannol anhygoel - yn llawn therapyddion, encilfeydd a dosbarthiadau - yn wahanol i unrhyw beth rydw i wedi dod ar ei draws yn unman arall. Mae'r bobl yno wir yn gwybod sut i fyw bywyd cytbwys, treulio amser ym myd natur a blaenoriaethu llesiant, ac mae'r ethos hwnnw wedi aros gyda mi.
Yn 么l ym Manceinion, rydw i wedi bod yn hyfforddi mewn therap茂au cyfannol, ac ar hyn o bryd rydw i'n gweithio tuag at ddod yn ymarferydd sain a gong cymwysedig, ac rydw i wedi ennill ardystiadau mewn tylino pen Indiaidd a Reiki Lefel 1 a 2. Rwyf nawr yn datblygu fy brand lles fy hun, Caroline Cartmill Wellness and Sound, gan gynnig sesiynau 1:1 a gr诺p i helpu pobl i ddod o hyd i gydbwysedd a thawelwch yn y byd cyflym sydd ohoni heddiw. Mae heriau iechyd meddwl yn fwy cyffredin nag erioed a鈥檓 nod yw rhoi鈥檙 sgiliau a鈥檙 strategaethau i bobl ymdopi 芒 bywyd modern.
Yn ogystal ag addysgu'n llawn amser, rwyf hefyd yn aelod o staff tymhorol Carnival UK, yn gweithio ar longau P&O a Cunard yn adran adloniant y plant yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae'r swydd hon wedi caniat谩u i mi deithio i lefydd anhygoel, gwneud ffrindiau oes, a manteisio i'r eithaf ar y gwyliau ysgol rydw i mor ffodus i鈥檞 cael.
Sut wnaeth 黑料不打烊 eich helpu i gyrraedd lle rydych chi heddiw?
Nid gradd yn unig a roddodd 黑料不打烊 i mi - rhoddodd hyder, gwytnwch a chred mewn dysgu gydol oes i mi. Gwnaeth y tiwtoriaid i bob myfyriwr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi, a helpodd yr amrywiaeth eang o gyfleoedd y tu allan i'r ystafell ddosbarth fi i dyfu fel unigolyn. Gadewais nid yn unig fel athrawes gymwysedig ond fel rhywun sy'n barod i gyfrannu at fy nghymuned.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried astudio ym Mangor?
Ni allwn argymell 黑料不打烊 ddigon. Mae'r addysgu'n rhagorol, mae'r lleoliad yng Ngogledd Cymru yn syfrdanol, ac mae'r ymdeimlad o gymuned yn hollol wahanol i unman arall. Fy nghyngor i yw ymroi i bopeth - ymuno 芒 chymdeithasau, gwirfoddoli, ymgymryd 芒 rolau y tu allan i'ch cwrs. Bydd y profiadau hynny鈥檔 aros gyda chi cymaint 芒鈥檆h darlithoedd ac aseiniadau.
Dysgodd 黑料不打烊 i mi na all bywyd fod yn waith i gyd - mae'n rhaid gwneud amser i fwynhau鈥檙 hamdden hefyd. Mae'r wers honno'n parhau i'm harwain fel athrawes ac ymarferydd lles, ac mae'n rhywbeth rwy'n gobeithio ei drosglwyddo i bob plentyn a phob person rwy'n gweithio gyda nhw.