Cefnogi Didwylledd, Uniondeb ac Atebolrwydd ym Mhrifysgol ϲ
Mae Prifysgol ϲ wedi ymrwymo i'r safonau uchaf posib o ran didwylledd, uniondeb ac atebolrwydd, gan weithredu mewn modd cyfrifol yn unol â gofynion ei chyrff cyllido a disgwyliadau'r . Anogir staff, myfyrwyr, aelodau'r Cyngor, ac aelodau eraill o gymuned y Brifysgol i leisio eu barn am bryderon heb ofni cael eu herlid na'u rhoi dan anfantais.
Mae yn rhoi amddiffyniad cyfreithiol i weithwyr sy'n datgelu gwybodaeth y credant yn rhesymol sy'n tynnu sylw at gamymddwyn, camweddau neu berygl, a hynny er budd y cyhoedd. Ar lafar gwlad, gelwir datgelu yn y modd hwn yn 'chwythu'r chwiban'.
Beth yw Chwythu'r Chwiban?
Chwythu'r chwiban yw'r weithred o godi pryderon ynghylch camwedd, camymddwyn neu beryglon a allai niweidio pobl, yr amgylchedd neu uniondeb y Brifysgol. Mae'r Ddeddf yn cwmpasu pryderon gan gynnwys:
- troseddau, fel camymddwyn ariannol neu dwyll
- gweithgaredd troseddol mewn cadwyni cyflenwi, fel caethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl
- methu â chydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol; yn cynnwys torri siarter y Brifysgol, y ddeddf elusennau neu reoliadau eraill;
- aflwyddiannau cyfiawnder
- peryglu iechyd a diogelwch aelodau'r Brifysgol neu'r gymuned leol;
- niwed i’r amgylchedd
- unrhyw ymgais i gelu unrhyw un o'r uchod.
Ymrwymiad y Brifysgol
Caiff unigolion eu diogelu os ydynt yn codi pryder yn ddidwyll ac yn y gred resymol ei fod yn tueddu i amlygu camymddwyn. Bydd y Brifysgol yn gwneud y canlynol:
- trin datgeliadau yn dringar a, lle bynnag y bo modd, yn gyfrinachol
- cydnabod a chofnodi pob pryder a godwyd
- ymchwilio i unrhyw bryderon yn deg, yn brydlon, ac yn gymesur, a
- rhoi adborth priodol ar yr hyn a wnaed.
Sut i nodi pryder?
Swyddog Chwythu’r Chwiban Prifysgol ϲ yw Ysgrifennydd y Brifysgol.
Dylid cyflwyno pryderon i: whistleblowing@bangor.ac.uk.
Yn ogystal ag Ysgrifennydd y Brifysgol, bydd y Pennaeth Llywodraethu a Risg a'r Swyddog Llywodraethu, Risg a Digwyddiadau Corfforaethol yn cadw golwg ar y cyfeiriad e-bost yma.
Pan fo'r pryder ynghylch un o'r swyddogion a enwir yma gallwch e-bostio'r Is-ganghellor yn lle: vice-chancellor@bangor.ac.uk.
Gellir dod o hyd i ganllaw cam-wrth-gam llawn, gan gynnwys manylion am sut y bydd y Brifysgol yn ymdrin ag unrhyw bryderon chwythu'r wisg, ym Mholisi Chwythu'r Chwiban y Brifysgol.