Ymuna a'n cymuned ar Instagram
Fe wnaeth ºÚÁϲ»´òìÈ fy nhrawsnewid. Roeddwn yn berson pryderus a thawel pan gyrhaeddais, ond mi adewais yn llawn hyder, cyfeiriad ac angerdd, sydd wedi fy arwain at gyhoeddi. Rwyf bellach yn Olygydd Comisiynu yn Open University Press, yn llunio llyfrau am Hyfforddi, Cwnsela, Seicotherapi ac Iechyd. Rwyf wrth fy modd bod yn rhan o'r broses sy'n dod â gwaith ystyrlon i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Llenyddiaith Saesneg llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Llenyddiaith Saesneg ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Llenyddiaith Saesneg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Llenyddiaeth Saesneg
Mae’r addysgu a'r oruchwyliaeth yn seiliedig ar ymchwil ac ymarfer creadigol o’r radd flaenaf yn fyd-eang. Mae gennym gryfderau ymchwil mewn llenyddiaeth ganoloesol a modern cynnar; hanes y llyfr a chyhoeddi; ac Ysgrifennu o Gymru yn Saesneg. Mae ein hymchwil yn cyrraedd cynulleidfa ryngwladol ac mae cyswllt clos â'r amgylchedd lleol a'n casgliadau, gan gynnwys archifau rhagorol y brifysgol. Yn y REF diweddaraf, roedd ein hymchwil yn safle 14 yn y Deyrnas Unedig ar gyfer cyhoeddiadau o’r radd flaenaf yn fyd-eang.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.