ºÚÁϲ»´òìÈ

Fy ngwlad:
Decorative

Adnoddau i Ymchwilwyr

DIRUM

Cronfa Ddata o Offerynnau ar gyfer Mesur Defnydd Adnoddau 

Logo Dirum

Datblygwyd DIRUM trwy gyllid gan Rwydwaith Canolfannau’r Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Ymchwil Methodoleg Treialu. Dan arweiniad Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, ac mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Bryste, Birmingham, British Columbia, ac Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain, mae’r gronfa ddata yn un ymarferol, mynediad agored o holiaduron i fesur y defnydd a wneir o adnoddau i’w defnyddio gan economegwyr iechyd.

dirum.org

BOPPP

Cadwrfa offthalmoleg a gwyddor golwg ºÚÁϲ»´òìÈ o fesurau allbynnau a adroddir gan gleifion, mesurau profiadau a adroddir gan gleifion, a thystiolaeth sy’n cyfrif gan gleifion ar gyfer treialon clinigol a gwerthuso economeg iechyd 

Cadwrfa mynediad agored yw BOPPP o fesurau ansawdd bywyd sy’n gysylltiedig â’r golwg (VRQoL) i’w defnyddio gan offthalmolegwyr, optometryddion, economegwyr iechyd a’r rhai sy’n ymwneud ag ymchwil gwyddor golwg. Mae'r gadwrfa wedi'i datblygu o'r cychwyn cyntaf gyda mewnbwn gan optometryddion sy’n ymarfer, llawfeddygon offthalmig ac ymchwilwyr gwyddor golwg. Mae BOPPP wedi casglu nodweddion mesur a nodwyd fel rhai pwysig i gydweithwyr er mwyn galluogi ymchwilwyr gwyddor golwg yn well i nodi a dewis mesurau addas ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.  Mae'r gadwrfa BOPPP wedi'i galluogi trwy gyllid gan Sefydliad Ymchwil Llygaid St Paul's, Lerpwl fel rhan o gydweithrediad 3 blynedd.