Dyma rai enghreifftiau diweddar:
Ymchwil cysylltiedig â COVID-19 a gweithgareddau cefnogi polisi
Roedd Grŵp Ymchwil Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol , ynghyd â staff yn y Ganolfan Ymchwil Gofal Cychwynnol Gogledd Cymru, fel rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol ºÚÁϲ»´òìÈ ac wedi darparu cefnogaeth adolygu cyflym i'r .
Roedd adolygiadau tystiolaeth a gynhaliwyd fel rhan o’r rhaglen waith beilot gynnar hon wedi darparu atebion cyflym i rai o’r blaenoriaethau parhaus pwysicaf a galluogi Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru i brofi, mireinio a gwella eu prosesau cyn canlyniadau’r ymgynghoriad blaenoriaethu cwestiwn ymchwil rhanddeiliaid. Cyfrannodd y gwaith hwn at nodau craidd y Ganolfan: gwella ansawdd a diogelwch darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol trwy sicrhau bod ymchwil COVID-19 yn amserol ac yn berthnasol i Gymru.
Hosbis Dewi Sant
Mae staff Grŵp Ymchwil Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol wedi bod yn gweithio'n agos gyda ar ddadansoddi cyllid hosbis yng ngogledd Cymru a rhagweld gofynion gwelyau hosbis ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys dadansoddiad o'r ffyrdd yr oedd hosbisau yng ngogledd Cymru yn cael eu hariannu, i wella gofal diwedd oes ac argaeledd gofal hosbis yng Ngwynedd wledig.
Gardd Fotaneg Treborth
Mae'r Ganolfan Gwerth Cymdeithasol yng , a Chanolfan Newid Ymddygiad Cymru yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, yn ymchwilio i'r buddion lles a'r gwerth cymdeithasol y mae Gardd Fotaneg Treborth yn ei greu i’r bobl sy'n ymweld â'r ardd ac yn gwirfoddoli yno, gan gynnwys staff a myfyrwyr Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ ac aelodau o'r gymuned leol.
rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth yma
Rhaglen 'Agor Drysau i'r Awyr Agored' y Bartneriaeth Awyr Agored
Mae'r rhaglen hon wedi'i hanelu at unigolion anweithgar sy'n profi lles meddyliol isel yng ngogledd Cymru. Mae’n ymyriad cerdded a dringo 12 wythnos sy’n rhoi cyfle i bobl â lles meddyliol isel gynyddu gweithgarwch corfforol, hyder, hunan-barch ac ansawdd bywyd mewn amgylchedd cefnogol sy’n galluogi cymdeithasu gyda chyfoedion.
Darparodd y Ganolfan Gwerth Cymdeithasol yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau werthusiad o’r rhaglen, i amcangyfrif yr adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad Agor Drysau i’r Awyr Agored trwy gymharu costau cyflwyno’r rhaglen â’r canlyniadau ariannol a brofwyd gan gleientiaid Agor Drysau i’r Awyr Agored o ran gwell lles meddyliol, gweithgarwch corfforol, ymddiriedaeth gymdeithasol ac iechyd cyffredinol.
Mae’r adroddiad adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad wedi'i gyhoeddi a gellir ei weld .
Mae 80% o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn dioddef o boen cefn. Ers 2013 mae ymchwil ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ wedi bod yn edrych ar ffyrdd o fynd i'r afael â'r broblem. Mae’r rhaglenni ioga therapiwtig wedi’u gwerthuso mewn tri threial clinigol sy’n deillio o Brifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ ac wedi’u datblygu’n Rhaglen Cefn Iach chwe wythnos.
Dangosodd ymchwil a oedd yn cynnwys gweithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod staff a gymerodd ran yn y Rhaglen Cefn Iach wedi cymryd llai o ddiwrnodau absenoldeb salwch yn ymwneud â phoen cefn a chyflyrau cyhyrysgerbydol (fel yr adroddwyd yn ). Dywedodd 87% o weithwyr eu bod yn cael llai o boen cefn a dywedodd 83% fod eu lles wedi cynyddu.
Mae'r gwerth cymdeithasol a gynhyrchir o'r Rhaglen Cefn Iach tua £16 ar gyfartaledd am bob £1 a fuddsoddir. Darllenwch fwy am sut mae’r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn mesur gwerth cymdeithasol
Bu’r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) yn tynnu sylw’r cyhoedd, hen ac ifanc at economeg iechyd drwy gymryd rhan yn y Pentref Gwyddoniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd (5-12 Awst 2023). Trefnwyd gweithgareddau i gael y cyhoedd i gymryd rhan ac i ddysgu mwy am y ffyrdd y gwneir penderfyniadau a blaenoriaethau iechyd. Roedd gweithgareddau yn cynnwys: ‘Her y Cwch' lle'r oedd yn rhaid i gyfranogwyr greu cwch gweithredol gan ddefnyddio adnoddau cyfyngedig, ac 'Uwch neu Is’, gêm cardiau a oedd yn golygu ystyried cost ymyriadau meddygol. Roedd y tasgau llawn hwyl hyn yn rhannu gwybodaeth am yr heriau o ddyrannu darpariaeth iechyd o fewn cyllideb gyfyngedig. Roedd yn gyfle gwych i ymgysylltu â’r cyhoedd yn Gymraeg, i drafod economeg iechyd. Roedd y tasgau'n boblogaidd ac wedi cael derbyniad gan yr ymwelwyr â’r Eisteddfod a bydd CHEME yn trefnu gweithgareddau tebyg mewn digwyddiadau yn y dyfodol.
Mae CHEME yn ddiolchgar am gefnogaeth cydweithwyr ym Mhrifysgol Bryste a ddatblygodd Her y Cwch, a addaswyd i'w defnyddio mewn lleoliad gŵyl ac i'w chyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg.