Sefydlwyd staff Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ a Rhwydwaith LGBTQ ôl-raddedig, yn 2018. Mae'n agored i unrhyw un sy'n gweithio ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ ac unrhyw fyfyrwyr ôl-raddedig sy'n nodi eu bod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, ciwiwr neu gwestiynu, ynghyd â ffrindiau a chynghreiriaid ein cymuned.
Ein pwrpas
Sefydlwyd Rhwydwaith LGBTQ ºÚÁϲ»´òìÈ i ddarparu fforwm ar gyfer rhwydweithio a dulliau cymorth, i gynnig cyfle i gydweithwyr o bob rhan o'r Brifysgol lywio a chydweithio ar weithredu LGBTQ ac i gynyddu gwelededd materion LGBTQ yn y gweithle. Mae croeso i unrhyw staff neu fyfyrwyr ôl-raddedig gymryd rhan yn y gwaith o redeg y Rhwydwaith neu i fynychu'r cyfarfodydd dal i fyny anffurfiol.
Am fwy o wybodaeth am y Rhwydwaith cysylltwch ag arweinydd y rhwydwaith, Marcel Clusa neu Nia Blackwell yn AD yn lgbtq@bangor.ac.uk
Sut mae'r Brifysgol yn ein cefnogi
Mae'r Brifysgol yn cynorthwyo ac yn hwyluso'r Rhwydwaith, gan ddarparu adnoddau, ystafelloedd i gyfarfod ac ati. Mae'r holl staff a myfyrwyr yn cael eu diogelu gan Bolisi Urddas yn y Gwaith ac Astudio y Brifysgol. Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 yn manylu ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn amcanion allweddol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae’r cynllun hwn yn dangos y gwahanol ffyrdd y mae'r Brifysgol yn hyrwyddo cymuned gynhwysol sy'n dathlu ac yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.
Lle a phryd?
Mae Rhwydwaith LGBTQ+ ºÚÁϲ»´òìÈ yn cwrdd ar-lein yn fisol drwy Teams, anfonwch e-bost atom yn lgbtq@bangor.ac.uk am fanylion y cyfarfod nesaf.
Rydym hefyd yn cwrdd yn anffurfiol ar gyfer ein Panad LGBTQ+ (panad yn Gymraeg am baned) ar ddydd Iau cyntaf pob mis rhwng 15:30 a 16:00 yn Cegin, Pontio, yn effeithiol o 05/10/2023. Mae Panad LGBTQ+ yn agored i bawb ac nid oes angen cofrestru na bod yn rhan o'r Rhwydwaith i fynychu.
Dathlu Amrywiaeth ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ
Gweler isod y rhaglen o weithgareddau sydd ar gael i'r holl staff a myfyrwyr i ddathlu Pride ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ ym mis Mehefin 2026:
1 Mehefin | 1pm–2pm
Hanes Ffotograffig Pride – GWEMINAR Am Ddim
Ymunwch â PrideQS i edrych yn ôl ar 50 mlynedd o ymgyrchu dros hawliau sifil LHDTC+ trwy ffotograffiaeth o’r archif ac adfyfyrio ar y cynnydd sydd wedi’i wneud, yr heriau a wynebwyd, a dyfodol cynhwysiant LHDTC+.
Archebwch eich lle yma:
3-18 Mehefin | Dangosiadau lluosog**
Ffilm Madfabulous - Sinema Pontio
* 3 Mehefin - Rhagddangosiad + Sesiwn holi ac ateb – 7pm. Rhagddangosiad o Madfabulous, sef ffilm wedi'i gyfarwyddo gan Celyn Jones o Ynys Môn, cyn y dyddiad rhyddhau swyddogol. Ar ôl y dangosiad, bydd Celyn Jones yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb.
** 9 Mehefin – Sgwrs cyn y ffilm – 7pm. Bydd Dr Lowri Ann Rees a Dr Mari William o Adran Hanes Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn rhoi sgwrs fer ar y 5ed Ardalydd Henry Cyril Paget a Phlas Newydd cyn i'r ffilm ddechrau am 7.30pm.
Archebwch eich lle yma:
4 Mehefin | 3.30pm–4pm
Panad LHDTC+ – Cegin, Pontio
Ymunwch â Rhwydwaith LHDTC+ y Brifysgol yn eu Panad misol a dewch i gwrdd â phobl newydd, rhwydweithio, a dod o hyd i gefnogaeth cwiar gan gydweithwyr ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ. Dim angen archebu eich lle.
18 Mehefin | 2pm–3pm
Grym Balchder: Sgwrs Rhwng y Cenedlaethau – GWEMINAR AM DDIM
Ymunwch â Stonewall am sgwrs rhwng ffigurau allweddol yn y mudiad Pride i archwilio hanes Pride a sut y gallwn gefnogi, dathlu a gwrthsefyll gyda'n gilydd heddiw.
Archebwch eich lle yma:
30 Mehefin | 5.30pm–7pm
Allan ym Myd Natur: Taith gerdded i ddathlu Pride ym Mangor – Digwyddiad am ddim
Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru am dro hamddenol i archwilio rhai o fannau natur gwych ºÚÁϲ»´òìÈ. Mae'r digwyddiad hwn wedi'i drefnu ar y cyd â Rhwydwaith LHDTC+ y Brifysgol a Llyfrau Lliwgar – clwb llyfrau LHDTC+ lleol. Does dim rhaid i chi fod yn aelod o'r naill na'r llall i ymuno!
Mae rhagor o wybodaeth ar gael
Gallwch nawr wylio rhai digwyddiadau blaenorol ar-lein yn y dolenni isod:
Mae'r dudalen hon ar gyfer Rhwydwaith LGBTQ y staff a'r myfyrwyr ôl-raddedig. Os ydych chi'n chwilio am y Gymdeithas LGBTQ+ sy'n fyfyrwyr, dilynwch y dolenni isod: