Trawsnewid yr Oesoedd Canol 2025
Mae ‘Trawsnewid yr Oesoedd Canol’ yn ddigwyddiad rhyngddisgyblaethol y mae’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau wedi’i gynnal yn rheolaidd ers 2005. Mae’n cynnig gofod i fyfyrwyr ôl-radd ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, o bob rhan o’r byd, archwilio’r byd canoloesol a’i effaith, yn ogystal â thrafod dulliau a phosibiliadau astudio newydd.
Mae Trawsnewid yr Oesoedd Canol 2025 yn gynhadledd hybrid undydd sy'n canolbwyntio ar ystyriaeth tawelwch. Bydd yn cael ei chynnal ar y 24 Mai 2025, yn y cnawd ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ ac ar-lein.
Mae tawelwch yn treiddio i astudiaethau’r canoloesol, ac yn aml, yn peri rhwystredigaeth i ymchwilwyr. Rydym yn aml yn dod ar draws testunau anorffenedig, testunau sydd wedi'u difrodi neu destunau coll, adroddiadau gwrthgyferbyniol, a diffyg eglurder cyffredinol. Rydym hefyd yn rhyngweithio â thawelwch llai diriaethol: ystyriaethau emosiynau a phrofiadau anesboniadwy, cynrychioliadau o unigedd a diarddeliad, lleisiau sydd wedi'u hatal a'u hymyleiddio. Sut allwn ni ystyried y tawelwch hwn, ac, yn baradocsaidd, beth allai’r tawelwch hwn ei ddweud wrthym am yr Oesoedd Canol a mwy?
Mae’r gynhadledd hon yn croesawu papurau gan fyfyrwyr MA a PhD, ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i thema tawelwch mewn astudiaethau canoloesol. Bydd papurau’n 20 munud o hyd, ac mae croeso mawr i gyflwyniadau poster hefyd. Anogir unrhyw fyfyrwyr israddedig sydd â diddordeb i ddod i’r digwyddiad hefyd.
Instagram: bangormtc