黑料不打烊

Fy ngwlad:
Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol 黑料不打烊

Datblygu'r Campws

Ehangu ein gorwelion drwy fuddsoddiadau cyfalaf strategol

 

Prosiect Egni

  • Lleoliad:
Entrance to second Science Park building on Angelsey
Credit:FaulknerBrowns Architects

Mae'r cynllun i godi ail adeilad yn cymryd cam ymlaen wrth i ddyluniadau鈥檙 adeilad newydd gael eu datgelu am y tro cyntaf. Nod y project yw defnyddio cryfder academaidd Prifysgol 黑料不打烊 ac arbenigedd busnes M-SParc i greu sylfaen economaidd amrywiol a ffyniannus, i helpu鈥檙 rhanbarth sicrhau dyfodol carbon isel. Mae鈥檙 ffocws ar greu swyddi o ansawdd uchel a chyfleoedd i uwchsgilio. Bydd y project, sef Project Egni, yn sbarduno datblygiad economaidd.

Bydd yr ail adeilad yn ganolbwynt i fusnesau bach a chanolig (BBaCh) a gweithgynhyrchwyr mwy o faint yn y sector carbon isel. Mae llwyddiant M-SParc yn deillio o allu rhoi cefnogaeth bwrpasol ac arbenigol i鈥檞 cwmn茂au tenant i鈥檞 helpu nhw dyfu, ac yn ei dro eu helpu nhw i greu gyrfaoedd sy鈥檔 talu cyflogau da yn y rhanbarth.  Cafodd dros 200 o gyfleoedd cyflogaeth newydd a 60 o leoliadau uwchsgilio gwaith eu creu ers i鈥檙 parc agor yn 2018. 

Agwedd allweddol ar y project yw twf ymchwil carbon isel y Brifysgol, gan gynnwys y Sefydliad Dyfodol Niwclear (NFI). Bydd y buddsoddiad yn creu ecosystem arloesi bwerus i bontio鈥檙 bwlch rhwng ymchwil academaidd a chymwysiadau鈥檙 byd go iawn, a bydd yn denu鈥檙 doniau gorau a buddsoddiadau pellach trwy gynnwys neuadd arloesi fawr a labordy dadansoddi deunyddiau pwrpasol. 

Dywedodd Michael Flanagan, Prif Swyddog Gweithredu Prifysgol 黑料不打烊 ac arweinydd y project Egni, 鈥淭rwy fanteisio ar gryfder academaidd ac arbenigedd busnes, bydd yr adeilad newydd yn creu swyddi o ansawdd uchel, cyfleoedd uwchsgilio, ac yn meithrin ecosystem arloesol sy鈥檔 pontio ymchwil academaidd 芒 chymwysiadau鈥檙 byd go iawn, ac yn sbarduno datblygiad economaidd yn y rhanbarth鈥.

Ychwanegodd Dr Debbie Jones, Rheolwr Arloesi Carbon Isel M-SParc, 鈥淢ae'n wych gallu rhannu dyluniadau cychwynnol  yr ail adeilad fel hyn. Bu t卯m y project yn gweithio'n galed i ddylunio adeilad ymarferol sy'n cyd-daro 芒 phrif adeilad eiconig M-SParc ond sy鈥檔 meddu ar ei hunaniaeth ei hun. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod 芒 chyfleoedd newydd i'r rhanbarth i sicrhau gyrfaoedd cyffrous sy'n talu cyflogau da i bobl Gogledd Cymru.鈥

Mae Egni yn rhan o . Bydd y datblygiad yn canolbwyntio ar greu swyddi newydd gwerth uchel, gan ddenu buddsoddiad i'r rhanbarth, yn ogystal 芒 chyfrannu at gyrraedd targedau sero-net. Mae 拢3.94m wedi'i ddyrannu gan Uchelgais Gogledd Cymru i gefnogi'r prosiect yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol ar 么l caffael.

Disgwylir i'r gwaith o adeiladu adeilad Egni ddechrau yn 2026 ac mae disgwyl y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn 2027. 

Ysgol Fusnes Albert Gubay

  • Lleoliad:
  • Cyllid:
Concept image of the new Albert Gubay Business School exterior
Concept images showing the exterior of the Albert Gubay Business School Building.
Subject to planning permission.

Crynodeb o鈥檙 Project 

Estyniad newydd arfaethedig i hen adeilad Ysgol Friars ar gyfer Ysgol Fusnes newydd, sy'n cynnwys 2 ddarlithfa fawr, 2 ystafell addysgu fawr, ystafell fasnachu, 2 ystafell gymdeithasol fawr, ystafelloedd gr诺p, swyddfeydd gweinyddol, ystafelloedd ategol, storfa allanol i feiciau a llwybr newydd i adeilad Reichel. 

Ardal i鈥檞 Adnewyddu: 1,329尘虏&苍产蝉辫;

Amcangyfrif o ddyddiad dechrau鈥檙 gwaith ar y safle: Q2 2026 

Amcangyfrif o ddyddiad agor yr adeilad: Medi 2027

Mae鈥檔 bleser gan Brifysgol 黑料不打烊 gyhoeddi rhodd nodedig o 拢10.5 miliwn gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay, sef y rhodd fwyaf yn hanes y sefydliad.

Bydd y cyfraniad hael hwn yn galluogi鈥檙 Brifysgol i sefydlu Ysgol Fusnes Albert Gubay, a fydd yn gyfleuster o鈥檙 radd flaenaf wedi鈥檌 leoli ar safle hen Ysgol Friars. Mae鈥檙 gwaith i drawsnewid y safle ar y gweill, a fydd yn cadw cymeriad allanol a chyfanrwydd hanesyddol yr adeilad gwreiddiol. Bydd y datblygiad newydd yn cysylltu'n uniongyrchol 芒'r campws presennol, sy'n cynnwys adeilad Reichel a safle Ffriddoedd y Brifysgol. Bydd caffael, adnewyddu a datblygu鈥檙 adeilad a鈥檙 safle hanesyddol hwn yn cynnig cyfle cyffrous iawn i greu ysgol fusnes sy鈥檔 arwain y sector, yn ogystal ag adnewyddu adeilad ac iddo arwyddoc芒d hanesyddol ym Mangor.
 
Bydd Ysgol Fusnes Albert Gubay yn esiampl o arloesedd, gan ddarparu cyfleusterau modern i fyfyrwyr mewn lleoliad gwych a fydd yn ysbrydoli ac yn arfogi'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ac arweinwyr.

Bydd y rhodd hon yn golygu y gall Ysgol Busnes y Brifysgol symud i gyfleuster deinamig a modern. Bydd Ysgol Fusnes newydd Albert Gubay yn meithrin rhaglenni arloesol a fydd yn paratoi myfyrwyr i ffynnu yn yr economi fyd-eang sy'n datblygu'n gyflym. Bydd yn cynnwys mannau dysgu blaengar a hybiau cydweithredol a ddyluniwyd i annog creadigrwydd, meddwl beirniadol ac entrepreneuriaeth.
 
Diolchodd Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊, yr Athro Edmund Burke, am y rhodd hael, gan ddweud: 鈥淢ae鈥檙 weithred ryfeddol hon o haelioni yn adlewyrchu ymrwymiad Albert Gubay drwy gydol ei oes i rymuso entrepreneuriaid y dyfodol. Mae鈥檔 briodol iawn y bydd yr Ysgol newydd yn dwyn ei enw, gan sicrhau bod ei etifeddiaeth yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr y dyfodol.鈥
 
Aeth yr Athro Burke yn ei flaen i ddweud: 鈥淏ydd y rhodd hon nid yn unig yn dyrchafu enw da Prifysgol 黑料不打烊 fel canolfan o ragoriaeth academaidd ond hefyd yn cynnig cyfleoedd pellach i fyfyrwyr gael effaith sylweddol ym myd busnes.鈥
 
Ychwanegodd 鈥淓r bod y dirwedd ariannol yn heriol i brifysgolion ar hyn o bryd, mae buddsoddi鈥檔 strategol mewn meysydd allweddol fel hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau cynaliadwyedd a thwf hirdymor ein sefydliad.鈥
 
Wrth siarad ar ran Sefydliad Elusennol Albert Gubay, dywedodd Mrs C Gubay: 鈥淢ae ein Sefydliad yn falch o gefnogi鈥檙 project hwn sy鈥檔 llawn gweledigaeth. Bydd Ysgol Fusnes Albert Gubay yn fan lle gall myfyrwyr dyfu, arloesi, a dod yn entrepreneuriaid y dyfodol. Credwn y bydd yn helpu i lunio dyfodol addysg fusnes, yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. Rhan annatod o鈥檙 penderfyniad hwn i gefnogi Prifysgol 黑料不打烊 oedd ei hymrwymiad i geisio denu myfyrwyr Cymru i aros yn eu mamwlad i astudio.鈥
 
Ers i Goleg Menai adleoli o safle鈥檙 Ffriddoedd a Friars i gampws newydd ym Mharc Menai, mae鈥檙 ffaith fod y Brifysgol wedi prynu adeilad hanesyddol Friars yn golygu mai addysg fydd prif swyddogaeth yr adeilad o hyd.
 
Dywedodd Prif Weithredwr Gr诺p Llandrillo Menai: "Rydym yn falch o allu gwerthu adeilad Friars i Brifysgol 黑料不打烊, partner strategol Gr诺p Llandrillo Menai, i sicrhau bod tirnod mor hanesyddol ym Mangor Uchaf yn parhau i gael ei ddefnyddio at ddibenion addysgol. Rydym yn croesawu'r newyddion y bydd yr adeilad yn cael ei adnewyddu i greu ysgol fusnes o'r radd flaenaf."
 
Disgwylir i'r gwaith o adeiladu Ysgol Fusnes newydd Albert Gubay ddechrau yn 2026 ac mae disgwyl y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn 2027. Unwaith y bydd wedi'i orffen, bydd y Brifysgol yn cynnal seremoni agoriadol i ddathlu'r achlysur pwysig hwn, a chaiff y gymuned o fyfyrwyr a rhanddeiliaid lleol eu gwahodd i ddod ynghyd i nodi lansiad y cydweithio arwyddocaol hwn yn hanes Prifysgol 黑料不打烊.

Wedi鈥檌 eni a鈥檌 fagu yn y Rhyl, roedd Albert Gubay yn ddyn eithriadol ac yn entrepreneur 芒 gweledigaeth a gafodd effaith barhaol ar y sector busnes a鈥檙 sector elusennol. Wrth gael ei ryddhau o鈥檙 fyddin yn 1948, roedd gan Gubay siwt a 拢80, ac aeth ati, gyda chymorth benthyciad o 拢100 yn erbyn gemwaith ei fam, i ddechrau gwerthu 鈥渓osin di-siwgr鈥 (ar adeg pan oedd siwgr yn dal wedi ei ddogni), ac yna鈥檔 ddiweddarach roc Blackpool a melysion eraill, gan wneud hynny o gefn fan ac o stondinau marchnad yng Ngogledd Cymru. Roedd yn arloeswr mewn adwerthu, ac fe ddechreuodd y gadwyn Value Foods yn y Rhyl ym 1959. Aeth ymlaen i sefydlu Kwik Save, ac am hynny y mae'n fwyaf enwog, ac agorodd y siop gyntaf ym Mhrestatyn yn 1965.

Heddiw, mae Sefydliad Elusennol Albert Gubay yn rheoli portffolio eiddo sylweddol trwy ei is-gwmni, Derwent Estates. Mae鈥檙 incwm a ddaw o'r eiddo鈥檔 cefnogi rhaglen grantiau'r Sefydliad. Ers 2016, mae鈥檙 Sefydliad wedi rhoi dros 700 o grantiau, gan ariannu amrywiaeth o brojectau cymunedol ac addysgol ledled Cymru a thu hwnt.

Prosiectau wedi'u cwblhau

  Lleoliad: Parc y Coleg, Ffordd Deiniol
  Cyllid: 'Trawsnewid Trefi' Llywodraeth Cymru a Cyngor Gwynedd
  Dyddiad Cwblhau: Mehefin 2025

Agorodd Parc y Coleg i'r cyhoedd ar ddydd Gwener, 6 Mehefin 2025.

Wedi'i drawsnewid yn ardal heddychlon a hygyrch, mae Parc y Coleg bellach yn fan croesawgar i bawb ei fwynhau.

Mae'r brif fynedfa i'r Parc wedi agor man gwyrdd croesawgar i gysylltu Dinas 黑料不打烊 芒 黑料不打烊 Uchaf. Mae鈥檙 project wedi'i ariannu drwy raglen 'Trawsnewid Trefi' Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad 芒 Chyngor Gwynedd.

Mae'r gwelliannau allweddol i seilwaith y parc yn cynnwys:

  • Creu llwybr hygyrch newydd ar draws y parc sy'n cysylltu 芒 Pontio
  • Creu mynedfa fwy diogel newydd oddi ar L么n Deiniol sy'n cysylltu 芒 chanol y ddinas, tra bod y gi芒t hanesyddol wreiddiol wedi'i symud yn ofalus i leoliad gwarchodedig yng Ngerddi Treborth
  • Creu ardaloedd lawnt y gellir eu defnyddio i annog gweithgareddau newydd, digwyddiadau ar raddfa fach, ymlacio, a dysgu yn yr awyr agored
  • Darparu goleuadau newydd i wella diogelwch pan mae hi鈥檔 dechrau nosi
  • Rheoli a theneuo detholus llystyfiant presennol i agor y golygfeydd a gwella diogelwch ar hyd y llwybrau troed.
  • I annog glaswellt a phlanhigion i dyfu, gellid diogelu rhai ardaloedd gyda ffiniau am gyfnod dros dro.

Dywedodd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor:

"Mae'n fraint i ni gael man gwyrdd mor sylweddol yn cysylltu'r Brifysgol 芒 chanol y ddinas. Rhoddwyd y tir hwn i'r Brifysgol yn wreiddiol gan y ddinas dros ganrif yn 么l, ac rydym yn falch o anrhydeddu'r etifeddiaeth honno trwy drawsnewid y parc yn ofod adfywio, croesawgar.

鈥淲rth i Fangor ddathlu 1500 mlynedd fel dinas, credwn y bydd yr ailddatblygiad hwn yn chwarae rhan ystyrlon yn adfywio canol y ddinas ac yn darparu mwynhad i genedlaethau i ddod.

"Mae'r gwaith a wnaed wedi cynyddu gwelededd, wedi creu golygfeydd gwell, gofod mwy hygyrch a defnyddiol, ac wedi annog twf planhigion a blodau gwyllt. 

"Rydym yn gwerthfawrogi amynedd y gymuned yn ystod y gwaith adeiladu, ac yn diolch i'r contractwr lleol, John Kelly Construction Services Ltd. am eu proffesiynoldeb, sylw i fanylion, ac ymrwymiad i ddarparu canlyniad o ansawdd uchel i'r gymuned a'n myfyrwyr ei fwynhau."

 

 

 

  Lleoliad: Bloc Deiniol, Ffordd y Coleg
  Dyddiad Cwblhau: Ebrill 2025

Cwblhawyd Ystafell Fferylliaeth newydd Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ddechrau mis Ebrill eleni ar lawr cyntaf Bloc Deiniol ar Ffordd y Coleg. Trodd y gwaith adnewyddu le gwag yn Ystafell Fferylliaeth at ddibenion ymgynghori ac efelychu. Bu honno鈥檔 fodd i鈥檙 Brifysgol ennill achrediad y Cyngor Fferyllol Cyffredinol a galluogi鈥檙 myfyrwyr i ennill gradd Fferylliaeth yng Ngogledd Cymru o fis Medi 2025 ymlaen.

  Lleoliad: Henfaes, Abergwyngregyn
  Dyddiad Cwblhau: Ebrill 2025


Wedi cwblhau yn Ebrill ar safle yn Abergwyngregyn, mae'r  Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol a Mwy (CEB+) yn ymchwilio i ensymau unigryw a sut y gallant droi鈥檔 gynhyrchion sydd 芒 llai o effaith ar yr amgylchedd na鈥檙 deunyddiau a鈥檙 cemegau diwydiannol cyfredol. 

Gobeithiwn y bydd catalog ensymau CEB yn mynd i'r afael 芒 nifer o brosesau diwydiannol, ac y bydd eu defnydd masnachol yn gyfle i greu swyddi newydd da i economi Gogledd Cymru. Cafodd y project ei ariannu'n bennaf gan Fargen Twf Gogledd Cymru. Roedd y project yn cynnwys adnewyddu un o鈥檙 labordai, adeiladu labordy newydd, a fydd yn effeithlon o ran ynni, yn un o鈥檙 siediau presennol ac ychwanegu d么l newydd o flodau gwylltion, a gwneud yn fawr o鈥檙 gofod presennol ar y safle.