黑料不打烊

Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol 黑料不打烊

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o鈥檔 rhaglenni Addysg yma ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd 芒 ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.

Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Addysg

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Gwyliwch ein fideo

Kate Jones - Darlithydd Addysg
Fideo: Kate Jones - Darlithydd Addysg

Llongyfarchiadau enfawr i chi ar gael ennill lle ym Mhrifysgol 黑料不打烊 i ddod i astudio gyda ni.

Fy enw i yw Kate Jones ac rwy'n Ddarlithydd mewn Addysg yn yr Ysgol Addysg ym Mangor.

Edrychaf ymlaen at eich cyfarfod ag i arwain chi drwy eich blwyddyn gyntaf ar y cwrs i ddysgu i fod yn athrawon y dyfodol.

Edrychwn ymlaen eich croesawu chi yma a welwn ni chi yn fuan.

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ff么n symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Ymunwch 芒 'Campus Connect'

Byddwch yn gallu ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o gymuned 黑料不打烊 cyn cyrraedd hyd yn oed! Byddwch yn gallu cofrestru i ymuno 芒 'Campus Connect' pan fydd yr ap yn mynd yn fyw ym mis Chwefror. Yn yr ap, bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno 芒'r ap dros e-bost, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol 黑料不打烊, y byddwch ei angen i gofrestru.

Cwrdd 芒 rhai o'ch darlithwyr

Headshot of KAte Jones with mountains in backdrop

Kate Jones

Roeddwn i'n athrawes am bron i ugain mlynedd ac roeddwn i wrth fy modd 芒鈥檓 swydd. Roeddwn i鈥檔 teimlo y gallwn drosglwyddo rhywfaint o fy angerdd a'm brwdfrydedd dros addysgu i athrawon y dyfodol.

Fy hoff beth am yr hyn rydyn ni'n ei addysgu yw'r ymchwil rydyn ni'n ei defnyddio ac yn ei greu i gefnogi ein hathrawon wrth eu hyfforddi am eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae dysgu sut i helpu plant i ddysgu yn y ffordd orau bosibl, i deimlo eu bod yn perthyn a'u bod yn bwysig, ymhlith y pethau pwysicaf y gall athro neu athrawes newydd eu dysgu.

Mae pob diwrnod yn wahanol ym myd addysg. Mae cymysgedd o ddarlithoedd, diwrnodau mewn ysgolion rhwydwaith, profiad addysgu a seminarau i gyd yn cyfuno i greu cwrs amrywiol a chyffrous.

Mae gyrfa ym myd addysg yn un o'r gyrfaoedd mwyaf gwerth chweil y gallwch ei chael. Er y gall ymddangos yn heriol ac yn frawychus, mae hynny fel arfer yn wir am y pethau gorau, ac mae'n bendant yn werth chweil bod mewn swydd lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath.

Headshot of Ed Kelly

Ed Kelly

Mae gen i angerdd dros wyddoniaeth, ond sylweddolais yn ystod fy ngradd y gallai hynny arwain at dreulio llawer o鈥檓 hamser ar fy mhen fy hun yn gweithio o flaen sgrin. Fe wnes i sylweddoli hefyd fod gen i angerdd dros bobl, dysgu a rhyngweithio, felly roedd addysgu i'w weld yn cyfuno'r elfennau hynny.

Rydw i wrth fy modd bod fy mhwnc yn caniat谩u i mi fod mor greadigol ag y dymunaf. Mae addysgu yn bwnc lle po fwyaf dyfeisgar y gallwch fod, y mwyaf y byddwch yn ymgysylltu 芒'r myfyrwyr.

I mi, gwyddoniaeth yw sylfeini ein byd. Mae'n bwnc lle rydym yn gyson yn gwthio ffiniau'r hyn rydym yn ei wybod, a chyda'r esboniad cywir, gall unrhyw fyfyriwr ddeall ble rydym ar flaen y gad o ran ein gwybodaeth.

Yr astudiaeth fwyaf diddorol rydw i wedi gweithio arni yw'r project F1 mewn ysgolion, yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd fel rhan o'r cwrs TAR. Mae'n cyfuno rhaglennu, meddalwedd, ffiseg, dylunio a marchnata. Mae mor eang fel na allwn ffitio'r cyfan i mewn!