黑料不打烊

Fy ngwlad:

Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr

Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol 黑料不打烊 yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Gwleidyddiaeth ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.

Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Gwleidyddiaeth

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Yn yr ysgol rydym yn cynnal nosweithiau pitsa, cwis a mynd ar dripiau allan i lefydd gwahanol, yn ddiweddar aethom ar drip i farchnad Nadolig Manceinion.

Gwyliwch ein fideo

Mari William - Gwleidyddiaeth
Fideo: Mari William - Gwleidyddiaeth

Helo Llongyfarchiadau mawr i chi, fy enw i ydi Dr Mari Wiliam ac rwy'n ddarlithydd Hanes Modern yma ym Mhrifysgol 黑料不打烊.

Fel rhan o hyn rwy'n cyfrannu at nifer o fodiwlau Gwleidyddiaeth ni'r modiwlau sydd ar gael ar ein cwrs gradd Gwleidyddiaeth, a dwi'n meddwl rhan nodedig o'n cwrs gradd Gwleidyddiaeth ni ydi pa mor rhyngddisgyblaethol ydi o, rydym ni'n ffeindio synthesis rhwng gwahanol feysydd fel Hanes, Cymdeithaseg, Athroniaeth, Astudiaethau Cyfryngau a'r Gyfraith.

Felly mae yna ddarpariaeth eang iawn i chi sydd yn eich gwreiddio chi mewn dealltwriaeth o wahanol fathau o Wleidyddiaeth, achos mae Gwleidyddiaeth yn derm eang mae o yn gallu golygu lot o bethau ond beth sydd yn bwysig ydi eich bod yn cael eich yn y cwrs Gwleidyddiaeth yma ym Mangor efo dealltwriaeth o gymdeithas gyfredol a digwyddiadau cyfredol yn y newyddion ac mewn Gwleidyddiaeth byd eang.

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ff么n symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Ymunwch 芒 'Campus Connect'

Byddwch yn gallu ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o gymuned 黑料不打烊 cyn cyrraedd hyd yn oed! Byddwch yn gallu cofrestru i ymuno 芒 'Campus Connect' pan fydd yr ap yn mynd yn fyw ym mis Chwefror. Yn yr ap, bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno 芒'r ap dros e-bost, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol 黑料不打烊, y byddwch ei angen i gofrestru.

Cwestiynau Cyffredin

Bydd wythnos arferol yn cynnwys mynychu鈥檙 darlithoedd a鈥檙 seminarau ar gyfer pob un o鈥檙 3 modiwl y byddwch yn eu hastudio ym mhob semester. Bydd darlithoedd yn cyflwyno pynciau tra bod seminarau鈥檔 rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod gwaith darllen gosod a gweithgareddau ymchwil. Byddwch hefyd yn treulio amser yn y llyfrgell neu fannau astudio, yn paratoi at ddosbarth neu'n gweithio ar aseiniadau.

Tua 6-10 awr yr wythnos yn dibynnu ar y modiwl a ddewiswch. Mae rhai wedi eu strwythuro'n wahanol felly efallai y bydd dosbarthiadau鈥檔 wythnosol.

Byddwch yn siapio'ch gradd trwy'r modiwlau a ddewiswch. Mae modd canolbwyntio ar hanes gwleidyddol, athroniaeth wleidyddol a syniadau, neu gymryd diddordeb penodol mewn materion polisi cymdeithasol.

Byddwch hefyd yn datblygu nifer o sgiliau yn y modiwlau y byddwch yn eu hastudio. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a sgiliau dadansoddi ffynonellau鈥檔 feirniadol, ochr yn ochr 芒 chyfathrebu ysgrifenedig a chyfathrebu llafar trwy gyflwyno asesiadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth. Yn bwysicach na dim, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a'ch ymwybyddiaeth o faterion gwleidyddol ac yn gwerthuso'n feirniadol sut mae'r llywodraeth a sefydliadau eraill yn gweithredu.

Mae nifer o fyfyrwyr wedi cael profiad gwaith gydag awdurdodau lleol, megis Cyngor Dinas 黑料不打烊 a gydag Aelodau Seneddol lleol. Roeddent yn aml yn ymgymryd 芒'r lleoliadau hynny wrth astudio modiwl Lleoliad Gwaith yr Ysgol.

Cwrdd 芒 rhai o'ch darlithwyr

Dr Marc Collinson

Dr Marc Collinson

Dwi wedi bod 芒 diddordeb mewn hanes a gwleidyddiaeth erioed, a hanes gwleidyddol oedd fy mhrif ddiddordeb. Gall rhai pobl droi eu trwynau ar y cymysgedd o uchelgais bonheddig a thwyll isel, ond i unigolion sydd 芒 diddordeb, mae'n bell o fod yn sych.

Y gallu i edrych ar y newyddion a meddwl: Pam ddigwyddodd hynny? Pwy wnaeth hynny? Pam?

Mae fy ngwaith diweddar ar isetholiadau ac etholiadau cyffredinol wir wedi gwneud i mi gwestiynu sut mae system wleidyddol y Deyrnas Unedig yn gweithio, pwy sydd 芒 ph诺er, a pham mae'r byd fel y mae.

Peidiwch 芒 gadael i berffeithrwydd fod yn elyn i鈥檙 da. Rydym yn gallu gosod nodau anghyraeddadwy i'n hunain.