ºÚÁϲ»´òìÈ

Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth yma ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.

Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Gwyliwch ein fideo

Peredur Webb-Davies - Darlithydd Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth
Fideo: Peredur Webb-Davies - Darlithydd Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth

Llongyfarchiadau! Fy enw i ydi Peredur Webb-Davies a dwi'n darlithio mewn Ieithyddiaeth.

Dwi'n rhan o adran lle mae pawb yn astudio Ieithyddiaeth - Linguistics, neu Iaith Saesneg neu Ddwyieithrwydd. Da ni o dan ysgol fwy lle mae pawb yn yr ysgol yn astudio Iaith, Diwylliant a Chelfyddydau.

Fel myfyriwr efo ni yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf mi fyddi di yn dysgu am beth ydi iaith a sut mae iaith yn cael ei ddefnyddio. Fyddi di yn edrych ar amrywiaeth iaith, hanes iaith a manylion gramadeg iaith, sut i ddisgrifio strwythur geiriau a sain iaith.

Mae ºÚÁϲ»´òìÈ yn le gwych i astudio, mai'n ddinas fach a chyfeillgar ac mae wrth gwrs yn ddwyieithog a Chymreig iawn. Felly da ni'n edrych ymlaen iawn i dy weld di yma yn fuan. Llongyfarchiadau eto a hwyl fawr.

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ffôn symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Ymunwch â 'Campus Connect'

Byddwch yn gallu ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o gymuned ºÚÁϲ»´òìÈ cyn cyrraedd hyd yn oed! Byddwch yn gallu cofrestru i ymuno â 'Campus Connect' pan fydd yr ap yn mynd yn fyw ym mis Chwefror. Yn yr ap, bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno â'r ap dros e-bost, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, y byddwch ei angen i gofrestru.

Cwestiynau Cyffredin

Mewn wythnos arferol, bydd gennych gydbwysedd o ddysgu strwythuredig a hyblyg, gydag 8-12 o oriau cyswllt ym mlwyddyn 1 a 2, ynghyd ag amser ychwanegol ar gyfer astudio annibynnol. Yn ogystal â sesiynau wedi eu hamserlennu, byddwch yn gallu cyfarfod â chyd-fyfyrwyr gyda diddordebau tebyg (fel Cymdeithas Ieithyddiaeth ºÚÁϲ»´òìÈ), yn ogystal ag aelodau staff yn ystod eu horiau swyddfa.

Gall oriau cyswllt amrywio pob wythnos yn dibynnu ar eich cwrs penodol, eich blwyddyn astudio a chyfuniad y darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Ar gwrs gradd Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth arferol, mae myfyrwyr fel arfer yn cael tua 8-12 o oriau cyswllt bob wythnos yn eu blwyddyn gyntaf a'u hail flwyddyn.

Na, nid oes rhaid bod yn rhugl mewn ail iaith fel arfer, ond gall fod yn fuddiol, yn enwedig i raglenni TEFL. Mae llawer o raglenni ieithyddiaeth yn cynnwys cyrsiau iaith rhagarweiniol neu fodiwlau a all helpu myfyrwyr i ddeall gwahanol strwythurau ieithyddol yn well.

Gall graddedigion fynd i weithio mewn llawer o wahanol feysydd, gan gynnwys cyfieithu, ymchwil ieithyddiaeth, cyhoeddi, therapi lleferydd, geiriaduraeth, ysgrifennu cynnwys, cyfathrebu, y cyfryngau, addysgu (TEFL, TESOL) a chwmnïau technoleg sy'n arbenigo mewn prosesu iaith naturiol (NLP). Bydd y radd yn eich arfogi gydag amrywiaeth eang o sgiliau sy'n ofynnol mewn llawer o wahanol lwybrau gyrfa - ymhell y tu hwnt i'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag iaith Saesneg ac ieithyddiaeth.

Mae gradd Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth yn canolbwyntio ar astudio iaith ei hun, gan ganolbwyntio ar ymchwil, dadansoddi a deall sut mae iaith yn cael ei llunio a'i defnyddio mewn cyd-destunau amrywiol.

Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Peredur Webb-Davies

Dr Peredur Webb-Davies

Bod y fath beth a 'siarad yn gywir'. Cyn belled a bod rhywun yn gallu cael ei ddeall, yna sut bynnag maen nhw'n siarad - dim ots pa mor safonol neu ffurfiol, neu i'r gwrthwyneb - maen nhw'n siarad yn gywir. Ond mae llawer o bobl (tu allan i ieithyddiaeth, wrth gwrs!) yn credu bod rhywbeth gwell am siarad gan ddefnyddio gramadeg safonol, er enghraifft; y gwirionedd yw mai dim ond un ffurf ar iaith ydi hwnnw, yn briodol ar gyfer rhai sefyllfaoedd ond nid pob un.

Rydw i'n hoffi agor llygaid pobl i amrywiaeth iaith ac i'r holl ffyrdd gwahanol mae pobl yn defnyddio iaith fel Saesneg neu Gymraeg. Mae darganfod a thrafod y rhesymau pam mae pobl yn siarad yn wahanol yn ddiddorol iawn hefyd.

Gwna'n siŵr dy fod ti'n cadw cytbwysedd rhwng dy waith (h.y. dy gwrs) a dy amser hamdden.
  • Diddorol
  • Pwysig
  • Agor llygaid
Eben Muse

Yr Athro Eben Muse

Cefais fy magu mewn siop lyfrau. Astudiais lenyddiaeth yn y Coleg, a diwylliant llyfrau oedd yn fy nenu i.

Mae gan bawb eu stori eu hunain i'w hadrodd am eu profiadau wrth ddarllen a rhannu llyfrau. Dwi’n mwynhau dod â'r straeon hynny at ei gilydd i ddeall sut mae llyfrau'n ymgysylltu â'n diwylliant.

Mae hon yn brifysgol bersonol iawn. Dwi’n gwybod enwau pob un o’m myfyrwyr, a dwi’n dweud helo pan fyddwn yn cyfarfod mewn caffis neu yn y cyntedd.

Nid ydych bob amser yn gwybod i ble yr ydych yn mynd nes i chi gyrraedd pen y daith.