Ymunwch 芒 Raluca Radulescu, Athro Llenyddiaeth Ganoloesol, ar gyfer Sesiwn Blasu ar-lein AM DDIM.
Sut gall llenyddiaeth ganoloesol, o gyfnod mor bell yn 么l, wedi'i hangori mewn cymdeithas a chyd-destun gwleidyddol gwahanol, siarad 芒 ni o hyd? Pam mae awduron cyfoes blaenllaw fel y Bardd Llawryfog Simon Armitage yn dal i gyfieithu testunau mor hen ar gyfer cynulleidfa fodern? Mae'r sesiwn hon yn edrych ar ap锚l llenyddiaeth mor h欧n a'r strategaethau a ddefnyddir gan awduron canoloesol a chyfieithwyr modern i ymgysylltu 芒 materion cyfoes, bryd hynny a nawr, wrth weithio gyda hunaniaeth bersonol a chenedlaethol, balchder lleol mewn cymuned ac arferion, a phwysigrwydd y berthynas 芒'r tir. Mae'n ystyried cyfieithiadau modern o'r gerdd ac addasiad ffilm diweddar er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd ein hastudiaeth barhaus o lenyddiaeth gynnar.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno 芒 thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu 芒 ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn 么l neu newid eich dewisiadau cydsyniad.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Archwiliwch y gyfres Sesiynau Blasu:
