ºÚÁϲ»´òìÈ

Fy ngwlad:

Dr Hadia Almahli, uwch ddarlithydd mewn cemeg feddyginiaethol yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru  

Dr Hadia Almahli sy'n arwain y rhaglen ymchwil cemeg feddyginiaethol a darganfod cyffuriau. Cwblhaodd ei MSc a'i PhD ym Mhrifysgol Paris-Sud cyn symud ymlaen i rolau ymchwil ac addysgu mewn sefydliadau sydd gyda’r gorau yn y byd, gan gynnwys Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Caergrawnt, UCL, a Phrifysgol Sussex. Yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn aelod o'r Gymdeithas Frenhinol Cemeg, mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi'n eang ac wedi cael ei gyflwyno mewn dros 50 o gynadleddau rhyngwladol. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu asiantau therapiwtig a diagnostig newydd o ran clefydau heintus, canser, a niwroddirywiad. Mae Dr Almahli yn un o sylfaenwyr tîm rhaglen fferylliaeth Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, yn ddeiliad grant ac yn dderbynnydd gwobr, yn llysgennad STEM gweithredol, ac yn gyfrannwr ymroddedig at adeiladu capasiti gwyddonol yn Syria. Mae hi hefyd yn cefnogi cydraddoldeb a chynhwysiant trwy ei gwaith fel rhan o dîm Athena Swan.

Dr Sarah Cooper, darlithydd mewn ieithyddiaeth yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau  

Cwblhaodd Dr Sarah Cooper PhD mewn ieithyddiaeth cyn mynd ati i weithio ar adnabod lleferydd Cymraeg gydag Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ. Aeth ymlaen i ymgymryd â’i swydd bresennol yn yr Adran Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd, lle mae'n addysgu seineg a dwyieithrwydd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ffoneteg Cymraeg, caffael ail iaith, ac agweddau iaith, gyda diddordeb arbennig yn y ffordd y mae oedolion yn dysgu ynganiadau Cymraeg a sut mae hyn yn siapio hyder ac integreiddiad fel siaradwyr newydd. Mae hi'n parhau i gydweithio â'r Uned Technolegau Iaith ac yn goruchwylio myfyrwyr sy'n gweithio ar dechnolegau ar gyfer ieithoedd sydd â llai o adnoddau. Mae gan Sarah diddordeb mewn datblygu ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n cysylltu iaith, cymdeithas ac ymgysylltiad cyhoeddus. 

Dr Reshma Silvester, swyddog ymchwil ôl-ddoethurol mewn microbioleg amgylcheddol yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol    

Mae gan Dr Reshma Silvester radd BSc mewn Microbioleg, MSc mewn Microbioleg Gymhwysol, a PhD sy'n canolbwyntio ar ymwrthedd i wrthfiotigau. Yn flaenorol, bu’n gweithio gyda’r One Health Trust ar fapio ymwrthedd gwrthficrobaidd byd-eang ar draws gwledydd incwm isel neu ganolig, ac yn ddiweddarach cynhaliodd ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Cochin yn India, ar ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn systemau bwyd môr a dyframaeth. Ymunodd â Phrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn 2023 drwy'r project Gwyliadwriaeth Pathogenau mewn Amaethyddiaeth, Bwyd a'r Amgylchedd (PATH-SAFE), lle mae hi bellach yn arwain mentrau gwyliadwriaeth ymwrthedd gwrthficrobaidd gan ddefnyddio dull Iechyd Cyfunol o fewn y grŵp ymchwil dŵr gwastraff dan arweiniad yr Athro Davey Jones. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar olrhain lledaeniad ymwrthedd gwrthficrobaidd ar draws dŵr gwastraff ysbytai a chymunedau, samplau amgylcheddol, a systemau amaethyddol, gan helpu i ddarparu tystiolaeth at ddibenion polisi iechyd cyhoeddus a gwneud penderfyniadau. Mae Reshma yn defnyddio dulliau cyfrifiadurol a genomig uwch i nodi bacteria niweidiol a'r genynnau ymwrthedd gwrthficrobaidd sy'n cylchredeg o fewn cymunedau. Gyda bron i 15 mlynedd o brofiad mewn ymchwil i ymwrthedd gwrthficrobaidd, mae ei gwaith yn cyfrannu at ymdrechion gwyliadwriaeth cenedlaethol ac yn mynd i'r afael â heriau byd-eang ymwrthedd gwrthficrobaidd. 

Dr Sophie Ward, Cymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion  

Enillodd Dr Sophie Ward ei gradd BSc mewn Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Caerfaddon a gweithiodd fel ymgynghorydd amgylcheddol cyn ailymuno â'r byd academaidd ac ailhyfforddi mewn gwyddor môr. Cwblhaodd ei MSc a'i PhD mewn eigioneg ffisegol ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ. Mae Sophie bellach yn arbenigo mewn defnyddio modelau cefnfor rhifiadol i ddeall sut mae systemau morol yn ymateb i bwysau dynol a naturiol. Mae hi wedi meithrin arbenigedd ymchwil drwy ystod eang o brojectau rhyngddisgyblaethol, yn cwmpasu cadwraeth siarcod, llygredd morol, ynni adnewyddadwy a newid amgylcheddol hirdymor. Wedi ymrwymo i wneud ei hymchwil yn ddefnyddiol y tu hwnt i'r byd academaidd, mae Sophie yn gweithio gyda chynulleidfaoedd cyhoeddus ac yn creu offer ar-lein wrth gydweithio â sefydliadau sy'n ymwneud â pholisi morol at ddibenion penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Mae hi'n ymddiddori mewn sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol i hyrwyddo gwyddor môr ac i ddatblygu dulliau sy'n gwella effaith ymchwil trwy gyfathrebu gwyddoniaeth greadigol.