Cronfa ºÚÁϲ»´òìÈ yn Cefnogi Gweithdy Gregynog ar gyfer Cymuned Ddoethurol y Sefydliad
Ar y 5ed a'r 6ed o Fehefin 2025, daeth carfan doethurol a graddedigion doethurol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ynghyd yn ar gyfer gweithdy deuddydd oedd yn cynnwys sesiynau hyfforddi a chyfnewid gwybodaeth. Gwnaed y gweithdy yn bosibl diolch i grant gan Gronfa ºÚÁϲ»´òìÈ, sy'n cynnwys rhoddion gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ. Yma, mae'r ymchwilydd doethurol Bethan Scorey yn disgrifio'r digwyddiad.
Mae ymchwilwyr doethurol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru wedi'u lleoli ledled Cymru a thu hwnt, felly mae cyfleoedd i ddod at ein gilydd bob amser yn cael eu croesawu. Un o gryfderau'r Sefydliad fel canolfan ymchwil yw natur amlddisgyblaethol a chwmpas daearyddol eang ein prosiectau doethuriol – mae yna 14 ar y gweill ar hyn o bryd – felly mae gweithdai fel y rhain sy'n cynnig cyfle i wneud cysylltiadau rhwng ein prosiectau bob amser yn ffrwythlon iawn. Heb sôn, maen nhw'n meithrin ymdeimlad o gymrodoriaeth fel carfan! Ymunodd tri o raddedigion doethurol y Sefydliad â ni hefyd, yn ogystal ag ymgeisydd doethurol bydd yn cychwyn ei phrosiect ym mis Medi ac ymgeisydd doethuriaeth ddarpar.

Roedd Neuadd Gregynog yn Nhregynon, Sir Drefaldwyn, yn gyrchfan perffaith, nid yn unig oherwydd ei lleoliad canolog yng Nghymru ond hefyd fel plasty sydd â hanes hir ac ysbrydoledig fel canolfan ddiwylliannol. Mae Gregynog yn arbennig i'n Sefydliad, gan mai'r ystâd oedd pwnc ymchwil Dr Mary Oldham, a gwblhawyd ei phrosiect yn 2024, a diolch i'r drefn roedd Mary gyda ni i rannu ei gwybodaeth.

Roedd diwrnod cyntaf y gweithdy yn cynnwys tair sesiwn hyfforddi, a gynlluniwyd yn arbennig gan Dr Shaun Evans, Dr Lowri Ann Rees, a Dr Mari Wiliam mewn ymateb i'n hawgrymiadau fel carfan.
Canolbwyntiodd y sesiwn gyntaf ar ysgrifennu crynodebau papurau cynhadledd. Dechreuon ni drwy drafod sut mae cynadleddau yn ffordd ardderchog o rannu ymchwil barhaus a chyflwyno dadleuon newydd mewn amgylchedd cefnogol ac adeiladol. Gofynnwyd i bawb baratoi crynodeb 200 gair ymlaen llaw, gweithgaredd defnyddiol a'n heriodd i gyflwyno ein hymchwil mewn modd cryno a chlir ac i feddwl am ein cyfraniad ehangach at wybodaeth a dealltwriaeth. Yn ddiweddarach yn y sesiwn, fe wnaethon ni rannu'n barau i feirniadu a gwella'r crynodebau hyn.

Nesaf daeth sesiwn hynod addysgiadol ar baratoi ar gyfer eich arholiad viva voce. Mynegodd llawer ohonom ba mor frawychus oedd y viva ac nad oeddem yn gwybod beth i'w ddisgwyl mewn gwirionedd, ond taflodd y sesiwn hon oleuni ar y math o gwestiynau a ofynnwyd a chywiriadau cyffredin i'r traethawd ymchwil. Cawsom y fantais ychwanegol o allu gofyn i'n goruchwylwyr a'r tri graddedigion doethurol a oedd yn bresennol am eu profiadau personol. Ar ddiwedd y sesiwn, fe wnaethom unwaith eto rhannu'n barau gyda thaflen o gwestiynau enghreifftiol i'w trafod.

Canolbwyntiodd y drydedd sesiwn hyfforddi ar gyhoeddi er mwyn lledaenu ein hymchwil doethurol. Yn gyntaf, trafodwyd cyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion a rhinweddau cyfnodolion hanes sirol. Cyfeiriwyd at y posibilrwydd o gyhoeddi penodau o'n traethodau hir fel erthyglau mewn cyfnodolion, a'r posibilrwydd o addasu ymchwil na ellid ei chynnwys yn ein traethodau hir i mewn i erthyglau ar wahân. Nesaf, trafodwyd cynigion llyfrau, gan gynnwys dewis y cyhoeddwr a'r golygydd cywir a manteision ac anfanteision gweisg academaidd ac anacademaidd. Clywsom gan gydweithwyr sydd wedi cyflwyno cynigion llyfrau yn y gorffennol am y broses a'r math o gwestiynau i'w disgwyl mewn cynigiad. Yn olaf, trafodwyd y broses o addasu traethawd doethuriaeth i mewn i fonograff. Er canolbwyntiodd y sesiwn ar gyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd a chyda gweisg academaidd, cawsom ein hannog hefyd i feddwl am ffyrdd eraill o rannu ein hymchwil, megis erthyglau mewn cylchgronau hanes cyffredinol, blogiau, podlediadau, a sgyrsiau.
Roeddem wrth ein bodd i gael Dr Kayla Jones a Dr Matthew Rowland, a gwblhaodd eu prosiectau doethurol yn 2023, yn bresennol. Archwiliodd prosiect Kayla sut y gellir defnyddio podlediadau i gyfleu naratifau aml-haenog ystadau Cymru. Ers cwblhau ei phrosiect, mae Kayla wedi cael ei phenodi'n Gymrawd Stori ar gyfer Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau fel rhan o . Archwiliodd prosiect Matthew ddehongliad plastai gwledig yng Nghymru. Yn 2024, cafodd ei benodi'n Swyddog Treftadaeth yng Nghyngor Sir Dinbych, ac mae'n gweithio i ysgogi nifer yr ymwelwyr ac ymgysylltiad ar draws safleoedd treftadaeth y Cyngor, gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd (Llangollen) a Nantclwyd y Dre.
Ar gyfer sesiwn olaf y dydd, cyfwelodd Dr Shaun Evans â Kayla a Matthew am eu gyrfaoedd ers y doethuriaeth. Roedd hon yn drafodaeth hynod addysgiadol, gyda awgrymiadau ar sut i ddod o hyd i ôl-ddoethuriaethau a swyddi, ac i gofleidio cyfleoedd annisgwyl. Disgrifiodd Kayla a Matthew sut roedd sgiliau a gafwyd yn ystod eu prosiectau doethurol, megis rhannu ymchwil hanesyddol gyda chynulleidfaoedd eang a chydweithio ag eraill, wedi'u paratoi ar gyfer eu rolau presennol. Awgrymasant hefyd rai syniadau ar gyfer sesiynau hyfforddi yn y dyfodol, fel ysgrifennu ceisiadau am grantiau. Roedd hon yn arddangosiad rhagorol o sut mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn cyfrannu at y sector treftadaeth yng Nghymru a gweddill y DU, y tu hwnt i'n cyfraniad deallusol.

Ar ôl diwrnod cyntaf prysur, fe wnaethon ni fwynhau swper, diod, a chyfle i ddal i fyny!
Roedd ail ddiwrnod y gweithdy yn cynnwys sesiynnau cyfnewid gwybodaeth, lle rhannodd pedwar aelod o'r garfan ddoethurol eu harbenigedd ymchwil yn ymwneud â mathau penodol o ffynonellau cynradd neu fethodolegau cysylltiedig. Arweiniodd Anna Reynolds a Jeff Childs sesiynau ar gofnodion plwyf a chofnodion maenoraidd yn y drefn honno, gan ddisgrifio sut mae nhw'n ddefnyddio'r ffynonellau cynradd hyn fel rhan o'u hymchwil eu hunain, disgrifio gwerth ehangach y ffynonellau hyn ar gyfer ymchwil hanesyddol, a rhannu awgrymiadau ymarferol ar gyfer gweithio gyda'r deunydd ffynhonnell hwn. Disgrifiodd Anna, sy'n ymchwilio i aneddiadau ar ucheldiroedd Dwyrain y Carneddau, sut y daeth cofnodion plwyf yn fwy safonol a chyson dros y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond sut y gall anodiadau fel achosion marwolaeth, dyfyniadau llenyddol, a hyd yn oed darluniau bach rhoid "mewnwelediad dynol". Dangosodd Jeff, sy'n ymchwilio i Arglwyddiaeth Gŵyr yn y cyfnod 1750-1850, sut mae cofnodion maenoraidd yn rhoi mewnwelediad i themâu mor eang â thirfeddiant, arferion etifeddiaeth, arferion cyfreithiol, hierarchaethau cymdeithasol, masnach, amaethyddiaeth, a digwyddiadau economaidd-gymdeithasol ehangach fel pla, rhyfel, a heriau amgylcheddol.

Arweiniodd Sara Fox, sy'n ymchwilio i gynrychioliadau ffuglennol o'r plasty yng Nghymru, sesiwn ddiddorol ar 'ddarllen archifau fel nofelydd', gan archwilio synergeddau rhwng ymchwil academaidd a nofelau hanesyddol. Pwysleisiodd sut mae ffurf y nofel yn addas ar gyfer "defnyddio dychymyg i lenwi bylchau yn y cofnod hanesyddol", er enghraifft hanesion pobl o ethnigrwydd a rhywioldeb sydd wedi'u hymylu'n hanesyddol. Disgrifiodd Alex Ioannou, y mae ei brosiect rhyngddisgyblaethol yn olrhain newid tirwedd yn Eryri, ei fethodoleg, sy'n cynnwys cyfweliadau, gweithdai, arddangosfeydd a digwyddiadau cymunedol. Rhoddodd fewnwelediad gwerthfawr i foeseg wrth gynnal cyfweliadau llafar, sut i benderfynu ar gyfweleion, ble i gynnal cyfweliadau, a pha fath o gwestiynau i'w gofyn. Disgrifiodd Alex sut mae wedi cynnal perthynas gadarnhaol â'r gymuned y mae'n ymgysylltu â hi trwy fod mor "weladwy" â phosibl, trwy ddefnyddio brandio prosiect cyson drwyddo draw, a thrwy rannu ei ganfyddiadau i sicrhau fod 'na "glo" i'r prosiect.
Cyn i'r gweithdy ddod i ben, cawsom gyfle i glywed gan ein Cyfarwyddwr, Dr Shaun Evans, ar ei ymchwil ddiweddaraf i arddangosfeydd herodrol - paentiadau neu gerfiadau sy'n cynrychioli 15 Llwyth Gwynedd. Mae llawer o enghreifftiau'n gysylltiedig ag eisteddfodau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac wedi dod i mewn i gasgliadau plastai gwledig, sy'n eu gwneud yn rhan o ddiwylliant gweledol nodedig plasty Cymru yn y cyfnod hwn.

Hoffai Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ddiolch i Gronfa ºÚÁϲ»´òìÈ a'i gefnogwyr am wneud y gweithdy arbennig hwn yn bosibl.