Arbenigwraig yn cyfrannu at lansio stampiau chwedlau Arthur gan y Post Brenhinol
Mae cymeriadau chwedlau Arthur yn amlwg mor boblogaidd ag erioed wrth i鈥檙 Post Brenhinol gyhoeddi casgliad newydd o stampiau heddiw (16.3.21).
Comisiynwyd y dyluniadau newydd gan yr artist Jaime Jones, ac mae鈥檙 testun sy鈥檔 cyd-fynd 芒 nhw wedi ei lunio gan yr Athro Raluca Radulescu, o Brifysgol 黑料不打烊, sy鈥檔 arbenigo yn chwedlau Arthur.
Mae comisiynu i鈥檞 casglu yn gyfle i archwilio ap锚l Ewropeaidd chwedlau Arthur yn y Canol Oesoedd yn 么l yr Athro Radulescu.
O wreiddiau Cymraeg chwedlau鈥檙 Arthur Celtaidd i ddehongliadau cyfoes, megis cyfres Cursed a ymddangosodd ar Netflix y llynedd, neu鈥檙 ffilm Sir Gawain and the Green Knight, sydd eto i鈥檞 rhyddhau, ac yn serennu Dev Patel, mae鈥檙 chwedlau鈥檔 parhau i ysbrydoli awduron ledled y byd.
Gwenhwyfar, Myrddin, Marchogion y Ford Gron, Syr Lawnslot yn gorchfygu鈥檙 ddraig a Syr Gal芒th yn canfod y Greal Sanctaidd sydd i鈥檞 gweld ar y stampiau.
Meddai鈥檙 Athro Raluca Radulescu o Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淧rin fod blwyddyn yn mynd heibio heb ail-weithiad o鈥檙 chwedlau Arthuraidd, boed yn gyfres teledu neu ffilm newydd.
Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael cyfrannu at lunio cyflwyniad i鈥檙 gyfres yma o stampiau, a鈥檙 erthygl sy鈥檔 cyd-fynd 芒 nhw ym Mlwyddlyfr y Post Brenhinol, a fydd yn cyflwyno鈥檙 cyhoedd i straeon canoloesol amlieithog, aml-hil, a鈥檜 pwysigrwydd i wleidyddiaeth a diwylliant ar draws y canol oesoedd a thu hwnt.鈥
A hithau鈥檔 arbenigwraig o fri rhyngwladol ar lenyddiaeth Arthuraidd, yr Athro Raluca Radulescu sy鈥檔 arwain yr unig gwrs MA mewn Astudiaethau Arthuraidd sy鈥檔 bodoli鈥檔 unman.