Gwnaeth genynnau mor hen 芒 2.3 miliwn o flynyddoedd oed helpu'r dolffin trwynbwl i addasu i gynefinoedd newydd trwy newidiadau mewn ymddygiad ac efallai mai dyma鈥檙 gyfrinach i'w goroesiad ac ehangiad eu hamrywiaeth, yn 么l yr ymchwil newydd a arweiniwyd gan Brifysgol St Andrews, gyda chyfranogiad gan Prifysgol 黑料不打烊.
Mae deall y prosesau sy'n caniat谩u i rywogaethau ehangu eu hamrywiaeth ac addasu i amodau amgylcheddol newydd mewn cynefin sydd ar gael o'r newydd, fel cynefinoedd arfordirol newydd ar ddiwedd oes yr i芒 diwethaf, yn gwestiwn hanfodol mewn bioleg.
Roedd yr yn edrych ar hyn mewn perthynas 芒鈥檙 dolffin trwynbwl cyffredin hynod gymdeithasol a hirhoedlog, rhywogaeth sydd wedi addasu dro ar 么l tro o fod yn rhywogaeth y dyfnfor (eigionol) i fyw mewn dyfroedd arfordirol.
Yr hyn sy鈥檔 allweddol i'w gallu i addasu i amgylcheddau cyfnewidiol dros genedlaethau, yw鈥檙 genynnau sy'n gysylltiedig 芒 galluoedd gwybyddol ac ymddygiadau bwydo, sy'n dangos bod gallu dolffiniaid trwynbwl i gymdeithasu wedi eu helpu i addasu a goroesi.
Bu Dr Andrew Foote, y cyd-awdur, yn cyd-oruchwylio鈥檙 project ymchwil pan oedd yn Ysgol Adnoddau Naturiol y Brifysgol. Mae erbyn hyn ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Norwy. Eglurodd:
Mae'r dywediad "hen win mewn poteli newydd", yn cyfeirio at hen syniadau'n cael eu hailbecynnu fel rhai newydd. Mae ein canlyniadau'n awgrymu bod genynnau hynafol sydd wedi'u hail-becynnu mewn cenedlaethau newydd o ddolffiniaid trwynbwl wedi eu helpu i addasu dro ar 么l tro i fywyd mewn dyfroedd arfordirol ym mhob rhan o鈥檙 byd."

Dywedodd y prif awdur, Dr Marie Louis ym Mhrifysgol St Andrews:
鈥淩oedd hen enynnau yn gyfranwyr pwysig at allu dolffiniaid trwynbwl i addasu dro ar 么l tro i ddyfroedd arfordirol ledled y byd.
鈥淎r ben hynny, mae gan nifer o鈥檙 genynnau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 addasiad ailadroddol hwn i gynefinoedd arfordirol, swyddogaethau o ran galluoedd gwybyddol a bwydo, sy鈥檔 awgrymu swyddogaeth ymddygiad cymdeithasol wrth hwyluso gallu dolffiniaid trwynbwl i addasu i amodau newydd.
鈥淔elly, gallai gwarchod hen enynnau fod yn hollbwysig i unrhyw rywogaeth ymdopi 芒鈥檙 newid byd-eang cyflym cyfredol.鈥
Bu鈥檙 t卯m ymchwil yn gwneud ail-ddilyniant a dadansoddiad o genomau cyfan 57 o ddolffiniaid arfordirol ac eigionol o dri rhanbarth: dwyrain Gogledd yr Iwerydd, gorllewin Gogledd yr Iwerydd a dwyrain Gogledd y M么r Tawel i ddarganfod sut mae'r dolffin trwynbwl wedi gallu addasu dro ar 么l tro i ddyfroedd arfordirol.
Gwelsant fod yr ecoteipiau eigionol ac arfordirol o F么r yr Iwerydd a'r M么r Tawel wedi esblygu'n annibynnol, tra bod y rhai yn yr Iwerydd yn gysylltiedig yn rhannol.
Wrth sganio'r genomau ar gyfer patrymau amrywiaeth genetig a gwahaniaethu, gwelodd y t卯m fod rhai ardaloedd ar y genom dan ddylanwad dethol ym mhob un o'r tair poblogaeth arfordirol sy鈥檔 bell yn ddaearyddol ac felly'n debygol o fod yn gysylltiedig ag addasu i gynefinoedd arfordirol.
Hyd yn oed yn fwy trawiadol oedd y ffaith bod yr ardaloedd genomig hyn, o dan addasiad cyfochrog ac yn bresennol ar amledd isel i ganolradd yn y poblogaethau eigionol, yn hen iawn.
Mae hyn yn awgrymu bod yr hen enynnau hyn wedi cael eu hail-becynnu dro ar 么l tro wrth ffurfio poblogaethau arfordirol, pan agorodd cynefinoedd arfordirol newydd, er enghraifft ar ddiwedd oes yr i芒 diwethaf.