黑料不打烊 yn yr聽ugain uchaf yn y DU yn 么l yr聽Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr聽
Mae Prifysgol 黑料不打烊 ymysg yr 20 uchaf yn y DU yng nghanlyniadau diweddaraf yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Swyddfa Myfyrwyr.
Mae ein safle wedi gwella, i鈥檙 19eg safle, i fyny 54 safle o gymharu 芒'r llynedd. Yng Nghymru, mae 黑料不打烊 yn ail y tu 么l i Aberystwyth, i fyny bedwar lle ers y llynedd.
Mae ein prifysgol wedi cyrraedd cyfradd boddhad cyffredinol o 81%, i fyny 6% ers y llynedd, a 5% yn uwch na鈥檙 cyfartaledd ar gyfer y sector drwy鈥檙 Deyrnas Unedig (76%). Cyfartaledd sector Cymru yw 77%.
Dywedodd y Dirprwy Is-ganghellor, Yr Athro Oliver Turnbull,: "Prif bwrpas yr NSS yw derbyn adborth myfyrwyr i'n helpu i wella'r profiad i fyfyrwyr y dyfodol. Cafodd myfyrwyr sy'n graddio eleni brofiad prifysgol gwahanol iawn o ganlyniad i'r pandemig. Felly mae鈥檔 wych gweld fod 黑料不打烊 wedi gwneud mor dda. Mae hefyd yn werth nodi ein bod wedi ein gosod yn ail drwy Gymru yn ymarfer y fframwaith rhagoriaeth ymchwil (REF), sy鈥檔 dangos cryfder 黑料不打烊 mewn dau faes pwysig o ran ein huchelgais fel prifysgol.鈥
Cynhelir yr NSS yn flynyddol ar draws prifysgolion y DU ac mae'n casglu barn myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf am eu hamser mewn addysg uwch.
Gwelwyd bod boddhad cyffredinol ym Mangor wedi gwella yn y rhan fwyaf o them芒u:
Thema |
2022 |
2021 |
+/- |
Yr addysgu ar fy nghwrs |
83 |
64 |
19% |
Adnoddau dysgu |
80 |
70 |
10% |
Trefnu a rheoli |
73 |
66 |
7% |
Cyfleoedd dysgu |
80 |
74 |
6% |
Asesu ac adborth |
74 |
68 |
6% |
Boddhad drwyddi draw |
81 |
75 |
6% |
Cefnogaeth academaidd |
77 |
73 |
4% |
Undeb y Myfyrwyr |
63 |
63 |
3% |
Llais myfyrwyr |
73 |
79 |
-6% |
Cymuned ddysgu |
68 |
77 |
-9% |