Yn cystadlu yn y categor茂au i ferched bydd Catrin Jones (55kg), cyn-fyfyrwraig seicoleg a Chynorthwyydd Recriwtio gyda Th卯m Recriwtio a Derbyniadau鈥檙 Deyrnas Unedig yn y Brifysgol, a Hannah Powell (49kg), cyn-fyfyrwraig gwyddorau chwaraeon. Bydd Mikey Farmer (73kg), cyn-fyfyriwr daearyddiaeth, hefyd yn cystadlu yng nghategori鈥檙 dynion.
Bob blwyddyn mae Prifysgol 黑料不打烊 yn cefnogi athletwyr el卯t trwy gynnig ysgoloriaethau chwaraeon i fyfyrwyr, ac i athletwyr lleol dawnus.
Mae鈥檙 tri fydd yn cymryd rhan yn Gemau鈥檙 Gymanwlad wedi derbyn yr ysgoloriaethau hyn. Mae Catrin wedi cipio rhywfaint o fedalau cenedlaethol a rhyngwladol dros y blynyddoedd diwethaf. Hi yw pencampwr Cymru a Phrydain ac yn ei chystadleuaeth ryngwladol ddiweddaraf yn 2021 enillodd y fedal efydd Ewropeaidd dan 23 oed, ac enillodd ei gr诺p yn y Grand Prix Codi Pwysau yn Luxembourg yn gynharach yn y mis.
Caiff Catrin ei hyfforddi gan ei thad Dave Jones, sy鈥檔 rheolwr iechyd a ffitrwydd yng Nghanolfan Brailsford. Ar gais trefnwyr y Gemau, mae Dave ar secondiad o鈥檌 r么l bresennol i fod yn gyfrifol am y cyfleusterau codi pwysau ym Mirmingham.

Dywedodd Catrin, 鈥淢ae bob amser yn anrhydedd cael fy newis i gynrychioli Cymru, a dw i鈥檔 edrych ymlaen at y cystadlu. Hwn fydd yr ail dro i mi gael mynd i Gemau鈥檙 Gymanwlad. Myfyrwraig o鈥檔 i鈥檙 tro cyntaf i mi fynd yn 2018. Mae'r brifysgol wedi chwarae rhan enfawr yn fy nhaith ym myd y campau, yn enwedig dros y pedair blynedd ddiwethaf ers y gemau diwethaf. Mae fy sgiliau wedi datblygu'n aruthrol trwy gael mynediad at y cyfleusterau chwaraeon penigamp sydd i鈥檞 cael yng Nghanolfan Brailsford. Hoffwn ddiolch i鈥檙 holl staff yn y brifysgol sydd wastad wedi bod mor gefnogol i mi yn fy ngwaith ac wrth weithio ar fy nghamp.鈥
Dywedodd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol, Prifysgol 黑料不打烊, 鈥淒ymunwn bob lwc i'n hathletwyr yn y Gemau. Mae bod 芒 chyn-fyfyriwr yn Nh卯m Cymru yn anrhydedd enfawr i ni ac yn adlewyrchu鈥檙 buddsoddiad rydym wedi gallu ei wneud i gefnogi ein myfyrwyr ein hunain a鈥檙 gymuned chwaraeon yng Ngogledd Cymru. Rydym wrth ein boddau bod y cyfleusterau arbenigol sydd gennym yng nghampfa Platfform81 wedi helpu ein myfyrwyr i ddatblygu a chyflawni eu potensial.鈥