Pwrpas cyffredinol y diwrnod yw ennyn diddordeb a difyrru disgyblion a myfyrwyr a鈥檙 gobaith yw y bydd yn eu hysgogi i ystyried gyrfa ym maes plismona, y gyfraith, seicoleg fforensig a鈥檙 system cyfiawnder troseddol. Gwahoddwyd myfyrwyr o bob rhan o ogledd Cymru a myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 i gymryd rhan a dysgu am y broses o ddatrys trosedd ddifrifol.
Agorwyd y digwyddiad gan Gareth Evans, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, a chyn-fyfyriwr Prifysgol 黑料不打烊, a gyflwynodd y myfyrwyr i strwythur y diwrnod a鈥檙 Ditectif Ringyll Mike Taggart MBE hefyd o Heddlu Gogledd Cymru a roddodd gipolwg ar y gefnogaeth sydd ei angen i gefnogi teuluoedd trwy ymchwiliadau. Arweiniwyd y myfyrwyr trwy gliwiau a thystiolaeth o nifer o safleoedd trosedd ar draws gogledd Cymru a'r heddluoedd cyfagos. Cefnogwyd y diwrnod gan nifer o siaradwyr gwadd allweddol a oedd wrth law i gynorthwyo鈥檙 myfyrwyr a rhoi cipolwg go iawn iddynt ar heriau ymchwiliad o鈥檙 fath:
Dr Anya Hunt, sy鈥檔 bennaeth Cefnogaeth Wyddonol Heddlu Gogledd Cymru, a arweiniodd y myfyrwyr trwy鈥檙 dewisiadau niferus wrth gasglu tystiolaeth wyddonol a chliwiau fel rhan o鈥檙 ymchwiliad.
Ditectif Ringyll Laura Griffiths, arbenigwraig mewn cyfweld rhai a ddrwgdybir a thystion a rhan o D卯m Digwyddiadau Mawr Heddlu Gogledd Cymru sy'n delio ag ymchwiliadau i lofruddiaeth.
Mr Richard Jones, sy'n arbenigwr cudd-wybodaeth a oedd ar gael i drafod olrhain a thracio cerbydau wedi eu dwyn.
Bu鈥檙 diwrnod yn llwyddiant ysgubol ac mae wedi cael adborth cadarnhaol sylweddol - dyma ddywedodd Josh Baxter, myfyriwr o Ysgol Uwchradd Penarl芒g:
鈥淩wy鈥檔 siarad drosof fy hun a鈥檓 cyd-fyfyrwyr wrth ddweud bod y diwrnod ymchwiliad i lofruddiaeth ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn llawer o hwyl ac yn rhyngweithiol, a hefyd yn hynod ddiddorol ac wedi dysgu llawer i ni am y broses o ymchwilio i lofruddiaeth gyda鈥檙 heddlu. Fel rhywun sydd eisoes 芒 diddordeb ymuno 芒鈥檙 heddlu, gallaf ddweud yn hyderus bod y digwyddiad hwn wedi cadarnhau fy niddordeb, ac i鈥檓 ffrindiau nad oeddent yn ystyried ymuno, mae wedi gwneud iddynt ystyried a allai fod yn ddewis addas iddyn nhw. Ar y cyfan, roedd y digwyddiad yn anhygoel i bob un ohonom, a heb amheuaeth gallaf ddweud y buaswn yn achub ar y cyfle i gymryd rhan unwaith eto. Diolch i bawb a fu'n rhan o'r diwrnod.鈥

Os oes gennych chi neu eich ysgol ddiddordeb mewn digwyddiad tebyg, cysylltwch 芒 ni neu ewch i鈥檔 tudalen we am sesiynau academaidd i ysgolion a cholegau: /cy/CCDGC/sesiynau-i-ysgolion