Economeg iechyd mewn perthynas 芒 lles a meithrin lles, newid hinsawdd a'r angen am feddylfryd system drawsddisgyblaethol
Awdur: Rhiannon Tudor Edwards.
Gan fod 24 o baneli solar ynghlwm wrth ein to, a dau fatri enfawr yn cael eu gosod ynghyd 芒 system gwresogi ffynhonnell aer, o鈥檙 diwedd, rwy鈥檔 dechrau darllen am yr argyfwng hinsawdd. Yn ei llyfr arloesol, This changes everything, (2015) mae Naomi Klein yn trafod troi ein pennau oddi wrth yr argyfwng hwn, gan ei adael i鈥檙 amgylcheddwyr a gwyddonwyr newid hinsawdd. Bydd ein paneli solar, ein batris a'n system wresogi ffynhonnell aer yn cynhyrchu hanner ein hanghenion trydan, a bydd ein defnydd o olew鈥檔 gostwng 85 y cant. Rydym yn byw yng nghefn gwlad Ynys M么n, ac yn gyrru hen Land Rover, yr wyf yn rhagweld y bydd mewn amgueddfa ymhen 20 mlynedd. Rwy'n cofio hafau braf a sych cyson pan oeddem yn trin gwair ar y caeau 鈥 yn gwneud beliau gwair bach go iawn; erbyn heddiw, rydyn ni, fel pawb arall, yn lapio silwair llaith yn fyrnau plastig crwn. Rwy'n cofio eira ar y traeth, i lawr at y llanw, a sledio i lawr cae hynod serth gyda'r plant. Nid ydym wedi gweld eira o鈥檙 fath ers pymtheg mlynedd. Nid ymgais i geisio ymddangos yn wyrdd yn unig yw fy mhaneli solar. I'r gwrthwyneb yn llwyr. Rwy鈥檔 teimlo鈥檔 siomedig ei bod wedi cymryd mor hir i mi ddeffro a dechrau darllen am y newid yn yr hinsawdd, a throi fy niddordebau ymchwil yn y maes atal ac iechyd y cyhoedd tuag at fygythiad enfawr y newid yn yr hinsawdd. O ran fy ngwaith fel economegydd iechyd, rwyf wedi ymroi dros ddeng mlynedd ar hugain i gymhwyso economeg iechyd i iechyd y cyhoedd ac atal afiechydon cronig y gellir ei osgoi, anabledd a marwolaeth gynamserol, ond dim ond nawr yr wyf yn sylweddoli maint yr effeithiau negyddol y mae鈥檙 newid yn yr hinsawdd, yr ydym eisoes yn ei brofi, yn eu cael ar iechyd.
Mae adroddiad o鈥檙 Deyrnas Unedig yn rhestru deuddeg prif fygythiad iechyd yn sgil y newid yn yr hinsawdd (a ddangosir yn y ffeithlun isod). Yn eu plith mae eithafion gwres ac oerfel, llifogydd, ansawdd aer gwael, alergeddau, clefydau heintus, clefydau a gludir gan fector, tanau gwyllt, sychder a diogelu鈥檙 cyflenwad bwyd, a thai gwael (Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig, 2023).
Ffigur 1. Bygythiadau iechyd i鈥檙 Deyrnas Unedig yn sgil y newid yn yr hinsawdd (Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig, 2023)

Fel economegydd iechyd, rwyf wedi bod yn eithaf hwyr i ddarllen y llenyddiaeth Iechyd Cyfunol, sy'n cysylltu iechyd dynol ag anifeiliaid a'r blaned (Leandri & Dalmas, 2024). Mae pennod olaf ein llyfr newydd, Health economics of well-being and well-becoming across the life-course (Edwards & Lawrence, 2024) yn trafod bygythiadau鈥檙 newid yn yr hinsawdd, ond rwyf bellach yn sylweddoli y dylai鈥檙 bygythiadau hyn fod wedi鈥檜 cynnwys yn y bennod gyntaf yn 么l pob tebyg, o ystyried eu pwysigrwydd.
Sut allwn ni, fel economegwyr iechyd, fod o unrhyw ddefnydd i鈥檙 her fyd-eang hon? Rydym wedi arfer canolbwyntio鈥檔 drylwyr ar gyfrifo cost-effeithiolrwydd cyffuriau a gwasanaethau iechyd newydd ar systemau iechyd. Drwy ddatblygiadau ym maes economeg iechyd y cyhoedd, yr wyf yn falch o fod wedi cyfrannu atynt (gweler Edwards & MacIntosh, 2019), rydym wedi ehangu鈥檙 gofod gwerthusol i gymryd safbwynt mwy cymdeithasol ar draws sectorau, ynghyd 芒 gwaith pobl eraill (Walker et al., 2019). Nid yw fframweithiau o鈥檙 fath yn ystyried anferthedd y newid yn yr hinsawdd a鈥檜 heffaith ryngwladol wrth werthuso costau a chanlyniadau pan fyddant yn cwmpasu llawer o wahanol sectorau鈥檙 economi.
Yr wythnos diwethaf oedd y tro cyntaf i mi deimlo fy mod yn gallu cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth fel economegydd iechyd i ddadlau鈥檙 achos dros weithredu ar y cyd yn rhyngwladol ar fygythiadau鈥檙 newid yn yr hinsawdd o ran iechyd a llesiant. Ynghyd 芒 fy nghydweithiwr, Dr Sofie Roberts, ymunais 芒 gweminar a gynhaliwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd i ymgynghori ar effeithiau鈥檙 newid yn yr hinsawdd ar iechyd. Roeddwn yn rhyfeddu wrth i alwr ar 么l galwr, o bedwar ban byd, ymuno 芒'r gweminar. Daeth cwestiynau a sylwadau gan ymarferwyr iechyd cyhoeddus ym Mhacistan, cyrff anllywodraethol yn Nigeria, academyddion yn Llundain, a myfyrwyr yn yr Almaen. Cefais fy synnu o weld Sofie a minnau ymhlith dim ond llond llaw o academyddion o鈥檙 Deyrnas Unedig, a鈥檙 unig economegwyr iechyd ar yr alwad. Yn dilyn yr alwad, cawsom gyfle i weld yr adroddiad drafft sy'n cael ei baratoi gan d卯m Sefydliad Iechyd y Byd i'w gyflwyno i COP29 yn Azerbaijan. Treuliais y diwrnod wedyn yn cwblhau taenlen yn gofyn am dystiolaeth, cyfeiriadau a ffynonellau data sy'n berthnasol i bob adran o'r adroddiad drafft. Ar 么l deng mlynedd ar hugain yn y byd academaidd, prin yw'r adegau sy'n fy ysbrydoli a'm cyffroi. Roedd hwn yn un ohonynt. O bosibl, roeddem yn anfon deunydd a allai ei gynnwys yn adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer COP29. Yn yr un wythnos, cyfrannodd Sofie a minnau at Ford Gron Newid Hinsawdd y Gymdeithas Ewropeaidd er Ymchwil i Atal ar Sbarduno Cymunedau i Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd: Strategaethau ar gyfer ffyrdd Effeithiol o Ymgysylltu ac Atal. Unwaith eto, ni oedd yr unig economegwyr iechyd ar yr alwad.
Fel economegwyr iechyd, gallwn ddewis gweithio o fewn ein maes diddordeb proffesiynol agos, ond o bosibl, gallwn gael effaith fwy cadarnhaol ar ymchwil ac iechyd a lles y boblogaeth trwy weithio gydag ymchwilwyr ar draws gwahanol ddisgyblaethau. Gallwn wneud hyn mewn sawl ffordd wahanol. Gallwn weithio mewn ffordd amlddisgyblaethol, lle mae pobl o wahanol ddisgyblaethau鈥檔 cydweithio, pob un yn tynnu ar eu gwybodaeth ddisgyblaethol. Gallwn weithio mewn ffordd ryngddisgyblaethol, lle rydym yn cyfrannu at integreiddio gwybodaeth a dulliau o wahanol ddisgyblaethau, gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau. Ac yn fwyaf anturus oll, gallwn weithio mewn ffordd drawsddisgyblaethol, lle gallwn greu undod o fframweithiau deallusol y tu hwnt i鈥檔 fframweithiau disgyblaethol penodol.
O ran cyfraniad posibl economegwyr iechyd wrth fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 bygythiadau i iechyd a llesiant yn sgil y newid yn yr hinsawdd anochel, credaf fod angen inni weithio mewn ffordd drawsddisgyblaethol. Mae enghreifftiau o gydweithio amlddisgyblaethol lle mae economegwyr iechyd eisoes yn gwneud cyfraniad yn cynnwys: ymgorffori allyriadau carbon mewn asesiadau technoleg iechyd (gan gynnwys dadansoddiad cost-effeithiolrwydd) (McAlister et al., 2022); amlygu allyriadau carbon systemau gofal iechyd (Pichler et al., 2019), ac yn olaf, y manteision o gynyddu mannau gwyrdd yn yst芒d y system iechyd (Holt et al., 2023).
Yr hyn sy'n fwy cyffrous yw sut mae economegwyr iechyd bellach yn dechrau ystyried, ar lefel systemau, natur gylchol a chwrs bywyd effaith y newid yn yr hinsawdd ar gyfiawnder cymdeithasol a systemau gofal iechyd ar lefel ryngwladol (Borghi & Kuhn, 2024; Edwards, 2022).
Gyda chefndir mewn economeg, dim ond nawr yr wyf yn dechrau gwerthfawrogi鈥檙 berthynas agos rhwng y newid yn yr hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a chyfalafiaeth. Fel Athro Cyfiawnder Hinsawdd ym Mhrifysgol Colombia Brydeinig, Vancouver, mae Naomi Klein yn herio鈥檙 farn y bydd technoleg newydd yn ein hachub. Mae hi鈥檔 ein didwyllo i鈥檙 ffaith bod rhoi gwerth ar allyriadau carbon a鈥檙 amgylchedd naturiol drwy farchnadoedd ar gyfer gwasanaethau ecosystemau, a鈥檙 hawl i鈥檞 difrodi, yn mynd i ddarparu ateb. 鈥淢ae ei datrysiad yn gofyn am ad-drefnu ein system economaidd mewn ffordd radical鈥 (New York Times).
Ddoe, cynhyrchodd ein paneli solar newydd 18 cilowat-awr o ynni. Mae hyn yn ddigon o ynni i redeg peiriant golchi llestri 18 gwaith. Mae anferthedd y newid yn yr hinsawdd yn sydyn o fewn cyrraedd lle mae鈥檔 bosibl i ni wneud rhywbeth bach ein hunain gartref, Mae'n bwysig ein bod yn aros yn bositif, ar lefel broffesiynol a phersonol. Cofiaf ysgrifen Peter Marshall (1902鈥1949; Caplan Senedd yr Unol Daleithiau): ''Gyda chalon gref y gwelwn gyfle ym mhob trychineb, a pheidio ildio i'r besimistiaeth sy'n gweld trychineb ym mhob cyfle''.
Cyfeiriadau
Borghi, J., & Kuhn, M. (2024). A health economics perspective on behavioural responses to climate change across geographic, socio-economic and demographic strata. Environmental Research Letters, 19(8), 081001.
Edwards, R. T. (2022). Well-being and well-becoming through the life-course in public health economics research and policy: A new infographic. Frontiers in Public Health, 10, 1035260.
Edwards, R. T., & Lawrence, C. L. (Gol.). (2024). Health economics of well-being and well-becoming across the life-course. Oxford University Press.
Edwards, R.T., & McIntosh, E. (Gol.). (2019). Applied health economics for public health practice and research.Oxford University Press.
Holt, A., Cowap, C., Johnson, N., & Edwards, R. T. (2023). NatureScot Research Report 1338-Valuing the health and well-being benefits of the NHS outdoor estate in Scotland.
Klein, N. (2015). This changes everything: Capitalism vs. the climate. Simon and Schuster.
Leandri, M., & Dalmas, L. (2024). One Health Economics: why and how economics should take on the interdisciplinary challenges of a promising public health paradigm. Frontiers in Public Health, 12, 1379176.
McAlister, S., Morton, R. L., & Barratt, A. (2022). Incorporating carbon into health care: adding carbon emissions to health technology assessments. The Lancet Planetary Health, 6(12), e993-e999.
Pichler, P. P., Jaccard, I. S., Weisz, U., & Weisz, H. (2019). International comparison of health care carbon footprints. Environmental Research Letters, 14(6), 064004.
UK Health Security Agency. (2023). Health effects of climate change (HECC) in the UK. State of the evidence 2023.
Walker, S., Griffin, S., Asaria, M., Tsuchiya, A., & Sculpher, M. (2019). Striving for a societal perspective: a framework for economic evaluations when costs and effects fall on multiple sectors and decision makers. Applied Health Economics and Health Policy, 17, 577-590.