Eigionegydd o Brifysgol 黑料不打烊 yn dod yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru聽
Mae eigionegydd o Brifysgol 黑料不打烊 wedi cael ei gyflwyno fel Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae Tom Rippeth, sy鈥檔 Athro mewn Eigioneg Ffisegol yn Ysgol Gwyddorau Eigion y brifysgol, ymhlith y ffigurau blaenllaw i ymuno ag Academi Genedlaethol Cymru.
Cenhadaeth ei Chymrodoriaeth yw hyrwyddo a datblygu cymuned ymchwil ac arloesi Cymru, a chefnogi鈥檙 defnydd o ymchwil rhagorol ac amrywiol i ddatrys yr heriau a wynebir yng Nghymru a ledled y byd.
Mae鈥檙 Athro Rippeth, y mae ei waith yn canolbwyntio ar dyrfedd a chymysgu yn y cefnfor gan gynnwys effaith y llanw a gwynt ar i芒 m么r yr Arctig yn toddi, yn un o'r 56 Cymrawd newydd a 4 Cymrawd er Anrhydedd sy'n ymuno 芒 Chymdeithas Ddysgedig Cymru
Daw鈥檙 Cymrodyr newydd o鈥檙 byd academaidd, y cyhoedd a鈥檙 gwasanaeth iechyd, a bywyd dinesig a diwylliannol ehangach Cymru. C芒nt eu hethol oherwydd eu harbenigedd a'u profiad, a'u harweinyddiaeth o ran ymchwil a gwybodaeth.
Mae cryfder cyfunol y Gymrodoriaeth gyfan yn helpu鈥檙 sefydliad i gyflawni ei nod elusennol i hybu鈥檙 defnydd o ymchwil ac arloesi er budd economi a chymdeithas Cymru.
Dywedodd yr Athro Tom Rippeth, 鈥淢ae鈥檔 anrhydedd mawr bod Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cydnabod fy ngwaith fel hyn. Mae hefyd yn dangos cydnabyddiaeth gynyddol o'r ymchwil hinsawdd sy'n digwydd yma ym Mhrifysgol 黑料不打烊."
Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, 鈥Rydym yn wynebu nifer enfawr o heriau, o newid hinsawdd i gythrwfl gwleidyddol a bygythiadau iechyd sy'n dod i'r amlwg. Bydd yr ateb i gynifer o'r problemau hyn i鈥檞 canfod mewn ymchwil a sefydliadau dinesig cadarn. Mae鈥檙 arbenigedd hwnnw鈥檔 amlwg yn ein Cymrodyr newydd. Mae鈥檔 bleser eu croesawu i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.鈥
Dywedodd Olivia Harrison, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, 鈥淢ae cyhoeddi ein Cymrodyr newydd bob amser yn ddiwrnod i ddathlu ehangder yr arbenigedd sydd gennym yng Nghymru. Rydym wedi gweithio drwy gydol y flwyddyn i ehangu鈥檙 ystod o bobl sy鈥檔 ymuno 芒鈥檙 Gymrodoriaeth. Mae amrywiaeth Cymrodyr newydd o ddiwydiant, masnach, y celfyddydau a phroffesiynau鈥檔 galonogol ac yn adlewyrchu cryfderau Cymru. Mae 23% o Gymrodyr newydd yn dod o gefndiroedd lleiafrif ethnig, tra bod 34% o Gymrodyr newydd yn ferched ac yn cyfrif am ddim ond 30% o'r Gymrodoriaeth yn gyffredinol. Rydyn yn benderfynol o weld y ffigur hwnnw鈥檔 codi鈥檔 sylweddol dros y blynyddoedd i ddod.鈥