Sicrhau buddsoddiad o 拢1.4m i ddiogelu dyfodol Adeilad Brambell
Fel rhan o brojectau sylweddol sy鈥檔 cael eu hariannu drwy raglen Digarbon Llywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni mae'r brifysgol wedi sicrhau bron i 拢1.4 miliwn i uwchraddio Adeilad Brambell.
Bydd y buddsoddiad yn talu am osod to newydd ar yr adeilad, uwchraddio systemau mecanyddol a thrydanol a gosod system fodern i reoli鈥檙 adeilad er mwyn lleihau'r defnydd o ynni a lleihau allyriadau carbon.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o gyfres o fuddsoddiadau i gyflwyno isadeiledd adnewyddadwy a mesurau datgarboneiddio gwres ac effeithlonrwydd ynni yng ngholegau a phrifysgolion Cymru.
Dywedodd Lars Wiegand, y Cyfarwyddwr Isadeiledd, 鈥淩ydyn ni ar ben ein digon bod ein cais am gyllid wedi cael ei gymeradwyo. Mae Adeilad Brambell yn adeilad eiconig ac mae'r mesurau uwchraddio hyn yn hanfodol ac yn cyd-fynd 芒'n hymrwymiad hirdymor i gynaliadwyedd.鈥
Cafodd Adeilad Brambell ei gwblhau yn 1971 ac mae鈥檙 adeilad rhestredig Gradd II yn enghraifft nodedig o bensaern茂aeth friwtalaidd. Cafodd ei ddylunio gan gwmni o benseiri o Gymru, Syr Percy Thomas a'i Fab. Mae'r adeilad wedi'i enwi ar 么l Francis W. R. Brambell, Pennaeth Swoleg Prifysgol 黑料不打烊 o 1930 hyd at ei farwolaeth yn y 1960au. Roedd ei ymchwil arloesol yn edrych ar sut mae imiwnedd yn cael ei drosglwyddo o famau i'w hepil yn ystod datblygiad embryonig.