Eleni, roedd ºÚÁϲ»´òìÈ yn sefyll allan am ei chydbwysedd cryf rhwng fforddiadwyedd a phrofiad myfyrwyr, gyda chostau byw cymharol isel ynghyd â sgôr uchel ar gyfer bywyd cymdeithasol a chynaliadwyedd hefyd. O gyfradd troseddu isel i gost taith Uber, pryd o fwyd yn McDonald’s, a hyd yn oed peint o gwrw, sgoriodd ºÚÁϲ»´òìÈ yn uchel ym mhob categori. Seiliodd y llunwyr eu canlyniadau ar sefydliadau yn y Deyrnas Unedig sydd wedi’u rhestru yn The Complete University Guide.
Cipiodd ºÚÁϲ»´òìÈ y safle uchaf yn yr un tabl hefyd yn 2023. Mae cipio’r un teitl yn 2026 yn atgyfnerthu enw da’r brifysgol fel lle cymharol resymol a diogel i astudio.
Yn wahanol i dablau cynghrair traddodiadol sy’n canolbwyntio ar raddau, cofrestru, a rhagolygon graddedigion, mae safle Unifresher yn cymharu ffactorau sy’n adlewyrchu bywyd go iawn myfyrwyr, gan gynnwys costau byw, cyfraddau troseddu, ymdrechion cynaliadwyedd, ac ansawdd bywyd cymdeithasol.
Mae agwedd Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ at gynaliadwyedd, a’i huchelgais i arwain y maes o ran cynaliadwyedd wedi ennill sgôr uchel i’r brifysgol, a’i gosod ar frig y rhestr. Gosodwyd y Brifysgol ar y brig hefyd am fod yn lle cymharol rad a diogel i astudio, yn ôl y canllaw amgen. Roedd yr elfen olaf yn ychwanegu gwybodaeth o ffynonellau sy’n dangos barn y myfyrwyr eu hunain am fywyd cymdeithasol.
Cyflawnodd Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ y sgôr uchaf o 539, gan ei gosod yn gadarn ar frig y tabl o flaen Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Newcastle.