Derbyniodd Julia ei MBE am wasanaethau i'r amgylchedd, yn dilyn ei chydnabyddiaeth yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Brenin Siarl III yn 2026.
Dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is ganghellor, 鈥淟longyfarchiadau i Julia am yr anrhydedd haeddiannol hon. Mae ei harweinyddiaeth ym maes cadwraeth bioamrywiaeth, o fewn y byd academaidd ac ym maes polisi cyhoeddus, wedi cael effaith fawr yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Rydym yn ffodus iawn i gael arweinydd mor uchel ei pharch yn ei maes ym Mhrifysgol 黑料不打烊."
Mae Julia yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei hymchwil i sut y gellir gwneud polis茂au ac ymyriadau cadwraeth yn fwy effeithiol i bobl a'r amgylchedd. Mae ei gwaith wedi helpu i lunio dulliau o ddiogelu bioamrywiaeth, cadwraeth coedwigoedd a pholisi amgylcheddol sydd wedi鈥檌 seilio ar dystiolaeth yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Ochr yn ochr 芒'i gwaith academaidd, mae hi'n gwasanaethu fel cyd-gadeirydd Gr诺p Prif Wyddonwyr y pum corff cadwraeth natur statudol yn y Deyrnas Unedig ac mae'n ymddiriedolwr WWF UK.
Wrth siarad ar 么l y seremoni, dywedodd Julia, 鈥淩ydw i mor lwcus i allu gwneud y gwaith rydw i鈥檔 ei wneud gyda chymaint o gydweithwyr gwych ym Mhrifysgol 黑料不打烊 a thu hwnt, er mwyn ceisio gwella effeithiolrwydd cadwraeth natur. Mae heddiw wedi bod yn hynod o arbennig. Diolch enfawr i鈥檙 rhai a鈥檓 henwebodd ac i鈥檙 holl bobl ymroddedig rydw i鈥檔 cael y fraint o weithio gyda nhw.鈥
Roedd y seremoni wobrwyo鈥檔 ddathliad addas o ymrwymiad hirhoedlog yr Athro Jones i wyddor yr amgylchedd a'i hymroddiad parhaus i sicrhau bod cadwraeth yn cyflawni canlyniadau ystyrlon i natur a chymdeithas.
Pan gyhoeddwyd gwobr Julia gyntaf, dywedodd y cyn-fyfyriwr ac enillydd Strictly Come Dancing, Hamza Yassin, 鈥淎lla i ddim meddwl am unrhyw un mwy haeddiannol. Mae'n fraint ac yn anrhydedd cael fy addysgu gan Julia. Ar fy rhan i, a鈥檙 holl fyfyrwyr eraill rydych chi wedi eu haddysgu yn ystod eich amser, hoffwn ddweud, diolch yn fawr.鈥
/cy/newyddion/2026-01-06-mbe-i-athro-o-brifysgol-bangor-neges-annisgwyl-gan-enillydd-strictly
Cadwraethwraig sydd wedi cael 鈥榚ffaith eithriadol鈥 yn derbyn gwobr yng Nghastell Windsor
Cyflwynwyd MBE i Julia Jones, Athro Gwyddor Cadwraeth ym Mhrifysgol 黑料不打烊, mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Nghastell Windsor gan Siawnsri Canolog Urddau'r Marchogion ddydd Mawrth, 5 Mai.