Yn dilyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau鈥檔 comisiynu鈥檙 Gwir Anrhydeddus Alan Milburn i gynnal adolygiad annibynnol o bobl ifanc a gwaith, cyhoeddwyd yr adroddiad ar 28 Mai 2026. Mae'n tynnu sylw at y ffaith nad yw bron i filiwn o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ledled y Deyrnas Unedig mewn gwaith, addysg na hyfforddiant (NEET) ar hyn o bryd, ffigur sy'n tanlinellu maint a brys yr her genedlaethol sylweddol hon.
Yng Ngogledd Cymru, mae'r heriau hyn yn arbennig o amlwg yn y sector cyfreithiol, lle mae cwmn茂au'n parhau i wynebu anawsterau gyda recriwtio a chadw staff, yn enwedig ymhlith gweithwyr proffesiynol Cymraeg eu hiaith. Er bod ysgolion a phrifysgolion yn gweithio'n weithredol i hyrwyddo cyfleoedd o fewn y proffesiwn, mae cydnabyddiaeth bod angen gweithredu pellach i gysylltu pobl ifanc 芒 llwybrau gyrfa posibl.
Mewn ymateb, bydd cymuned gyfreithiol Gogledd Cymru鈥攕y'n adnabyddus am ei dull cydweithredol a chefnogol鈥攜n dod ynghyd ar 12 Mehefin ym Mhrifysgol 黑料不打烊 i gynnal digwyddiad gyrfaoedd pwrpasol i 300 o ddisgyblion Blwyddyn 9 o ysgolion y wladwriaeth Cymraeg a Saesneg eu hiaith ar draws y rhanbarth. Mae'r fenter wedi'i sbarduno gan aelodau o'r farnwriaeth leol, yn enwedig Ei Hanrhydedd y Barnwr Owen, mewn partneriaeth 芒 Gyrfa Cymru a Suzanne Roberts, athrawes yn Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys darlithoedd gwadd gan uwch aelodau o'r farnwriaeth, ac yna gweithdai rhyngweithiol lle bydd disgyblion yn archwilio achos llofruddiaeth hanesyddol go iawn. Bydd cyfranogwyr yn archwilio'r achos drwy safbwyntiau'r farnwriaeth, cyfreithwyr a bargyfreithwyr, yn ogystal 芒 chynrychiolwyr o'r gwasanaeth carchardai, y gwasanaeth prawf a Heddlu Gogledd Cymru. Mae rhaglen Ymestyn yn Ehangach yw cefnogi dysgwyr i gael mynediad at addysg bellach ac addysg uwch yn bartner yn y digwyddiad.
Nod y diwrnod yw ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfaoedd yn y gyfraith a phroffesiynau cysylltiedig, wrth ehangu eu dealltwriaeth o'r system gyfiawnder. Gobeithir y daw鈥檙 fenter hon yn ddigwyddiad blynyddol.
Dywedodd Ei Hanrhydedd y Barnwr Owen, barnwr blaenllaw yng Ngogledd Cymru sy'n arwain y digwyddiad, 鈥淔el Barnwr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol, cysylltodd Suzanne Roberts (Pennaeth Astudiaethau Crefyddol yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog) 芒 mi gyda鈥檙 syniad o drefnu diwrnod gyrfaoedd i ddisgyblion sydd 芒 diddordeb mewn proffesiynau cyfreithiol a phroffesiynau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 gyfraith. Er fy mod i鈥檔 ymweld ag ysgolion yn rheolaidd i siarad am reolaeth y gyfraith a r么l barnwyr, roedd hyn yn gyfle gwerthfawr i wneud rhywbeth mwy cynhwysfawr.
"Ychydig iawn o gysylltiad 芒'r proffesiwn cyfreithiol sydd gan lawer o bobl ifanc, neu ddim cysylltiad o gwbl, a bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle unigryw iddyn nhw glywed gan gyfreithwyr, bargyfreithwyr, barnwyr, swyddogion yr heddlu, ditectifs, swyddogion prawf a staff carchardai, ac ymgysylltu 芒 nhw. Rydym ni angen mwy o eiriolwyr sy'n Gymraeg eu hiaith, yn arbennig i gynrychioli unigolion yn llysoedd Gogledd Cymru, a dwi鈥檔 gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn annog rhai o'r disgyblion hyn i ddilyn gyrfa yn y proffesiwn cyfreithiol. Hoffwn ddiolch i bawb sydd yn rhan o wneud y diwrnod hwn yn bosibl.鈥
Ychwanegodd Tracey Horton, Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol 黑料不打烊, 鈥淩oeddwn i wrth fy modd yn cael fy ngwahodd i gefnogi鈥檙 project hwn. Mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu 芒 phobl ifanc ac yn dangos bod gyrfa ym maes y gyfraith yn bosibl i bawb, waeth beth fo'u cefndir. Mae'n arbennig o bwysig gweithio gyda disgyblion yn y cam hwn yn eu haddysg. Drwy eu cyflwyno i鈥檙 cyfleoedd hyn yn gynnar, gallwn eu helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am eu hastudiaethau yn y dyfodol a鈥檜 dyheadau gyrfa. Mae'r fenter gydweithredol hon yn adlewyrchu ymrwymiad a rennir ar draws cymuned gyfreithiol Gogledd Cymru i fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf a chryfhau mynediad at yrfaoedd yn y gyfraith.鈥