Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi'i henwi fel y brifysgol orau yng Nghymru yn y .
Mae鈥檙 Brifysgol yn parhau i berfformio鈥檔 gryf ar lefel genedlaethol, gan gael ei gosod yn 17eg yn y Deyrnas Unedig a chadw鈥檌 lle ymhlith 20 prifysgol orau鈥檙 wlad. Mae hyn yn adlewyrchu cryfder cyson ar draws agweddau allweddol y profiad myfyrwyr.
Mae safleoedd eleni hefyd yn dangos gwelliant ym maes Bywyd Myfyrwyr, gyda 黑料不打烊 bellach yn safle 13 yn y Deyrnas Unedig, cynnydd o 18 safle, gan adlewyrchu鈥檙 profiad cadarnhaol a gynigir i鈥檙 gymuned fyfyrwyr ehangach.
Mae'r safleoedd yn adlewyrchu adborth gan y gymuned fyfyrwyr. Mae University Compare yn defnyddio methodoleg sy'n seiliedig ar adolygiadau, gan gasglu degau o filoedd o adolygiadau gan fyfyrwyr ar draws pedwar maes allweddol. Mae adolygiadau'n cael eu sgorio ar raddfa o 1 i 5, ac mae safleoedd yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio system bwysol - yn debyg i lwyfannau fel TripAdvisor neu Airbnb.
Mae鈥檙 momentwm cadarnhaol hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y Complete University Guide 2027 a gyhoeddwyd yn ddiweddar, lle mae 黑料不打烊 wedi codi chwe safle i 49ain.
Dywedodd yr Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, 鈥淢ae鈥檔 braf iawn gweld 黑料不打烊 unwaith eto鈥檔 cael ei chydnabod gan ein myfyrwyr fel y brifysgol orau yng Nghymru, ac yn parhau i gadw safle cryf ymhlith 20 uchaf y Deyrnas Unedig. Mae鈥檙 canlyniadau hyn yn dyst i ymroddiad parhaus ein staff, ac i gryfder y gymuned agos a chefnogol sydd gennym yma.
鈥淩ydym yn arbennig o falch o weld cynnydd mor sylweddol o ran bywyd myfyrwyr, sy鈥檔 adlewyrchu鈥檙 profiad bywiog a chynhwysol y mae ein myfyrwyr yn ei fwynhau, o fewn a thu allan i鈥檙 ystafell ddosbarth. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y gefnogaeth i lwyddo, datblygu a theimlo鈥檔 rhan o gymuned 黑料不打烊.鈥