
Jahnavi Nair Cyfrifeg a Chyllid BSc - Bahrain
Mae Jahnavi, o Bahrain, yn un o'n llysgenhadon UniBuddy sydd yma i'ch helpu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cwrs Cyfrifeg a Chyllid BSc ym Mhrifysgol 黑料不打烊.

Pam wnest di ddewis Prifysgol 黑料不打烊?
Roedd yna ychydig o bethau mewn gwirionedd a dynnodd fi at Fangor. Yn gyntaf, mae'r rhaglen Cyfrifeg a Chyllid yma yn cael ei pharchu'n fawr. Roeddwn i'n chwilio am raglen a fyddai'n rhoi sylfaen gref i mi mewn cyfrifeg a chyllid, ac roedd 黑料不打烊 yn ymddangos fel dewis perffaith.
Mae'r lleoliad hefyd yn gwbl syfrdanol! Mae bod wedi'ch amgylchynu gan Barc Cenedlaethol Eryri yn gwireddu breuddwyd i rywun sy'n caru'r awyr agored fel fi.
Yn olaf, apeliodd yr ymdeimlad o gymuned sydd ym Mangor ataf yn fawr. Fel myfyriwr rhyngwladol o Bahrain, roeddwn i eisiau rhywle byddwn i'n teimlo鈥檙 croeso a chefnogaeth. Mae gan Fangor boblogaeth ryngwladol fawr, a gwn fod digonedd o adnoddau ar gael i'm helpu i addasu i fywyd yn y DU.
Beth yw'r rhan gorau o'r cwrs hyd yn hyn?
Harddwch Naturiol Godidog: Mae 黑料不打烊, sydd yn agos at Barc Cenedlaethol Eryri, yn cynnig golygfeydd syfrdanol ar stepen eich drws. Dychmygwch gymryd egwyl i ddringo ar draws y mynyddoedd neu archwilio'r arfordir syfrdanol, neu astudio ar gyfer eich arholiad terfynol. Llawenydd i garwyr natur!
Cymuned Ryngwladol Gref: Mae gan Fangor nifer sylweddol o fyfyrwyr rhyngwladol, sy'n cyfrannu at amgylchedd bywiog ac amlddiwylliannol y ddinas. Byddwch yn ehangu eich gorwelion, yn cwrdd 芒 phobl o bob cwr o'r byd, ac efallai hyd yn oed yn ffurfio cyfeillgarwch oes.
Pwyslais ar Ddysgu Ymarferol: Mae rhan o raglenni gradd Prifysgol 黑料不打烊 yn cynnwys profiadau gwaith. Mae hwn yn ffordd wych o ategu eich astudiaethau academaidd gyda phrofiad ymarferol, a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd.
Unrhyw gyngor i fyfyrwyr Lefel A sy'n poeni am eu canlyniadau?
Rwy'n cofio鈥檙 straen ond hefyd pa mor awyddus oeddwn i wybod fy nghanlyniadau. Dyma'r ychydig gamau a ddysgais i'w cymryd i dawelu fy nerfau. Byddwch yn barod ar gyfer canlyniadau amrywiol; edrychwch ar y system Clirio; ymchwiliwch i'r system Clirio tra'ch bod yn disgwyl eich canlyniadau. Mae hyn yn eich galluogi i ddod o hyd i gyrsiau gyda lleoedd ar gael yn dilyn diwrnod y canlyniadau. Gall fod yn gysur gael cynllun wrth gefn.
Ystyriwch opsiynau eraill: ystyriwch ddewisiadau eraill fel blwyddyn i ffwrdd o addysg, prentisiaethau, neu flynyddoedd sylfaen. Bydd llai o bwysau os fyddwch chi'n gwybod pa opsiynau sydd ar gael i chi.
Hunanofal: bwyta yn dda, cysgu yn dda, ac ymarfer corff yn rheolaidd. Mae straen yn cael ei amsugno'n well gan gorff a meddwl iach.
I leddfu straen, rhowch gynnig ar weithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar, myfyrio, neu anadlu'n ddwfn.
Cymerwch ran mewn gweithgareddau lleddfu straen, hob茂au, neu amser ansawdd gyda'ch anwyliaid. Cofiwch fod posibiliadau bob amser, beth bynnag fo'r canlyniad.
Nid diwedd eich taith yw hwn; dim ond un cam. Byddwch yn falch o'r holl ymdrech rydych chi wedi'i rhoi eisoes. Rydych chi wedi dod yn bell! Os ydych chi'n teimlo'n llawn straen, siaradwch 芒'ch anwyliaid, ffrindiau, neu gynghorydd ysgol.
Trefnwch eich diwrnod canlyniadau - beth bynnag fo'r canlyniad, dewiswch pwy fydd gyda chi a beth fyddwch chi'n ei wneud nesaf.
Byddwch yn ymwybodol o'r sut byddwch yn cael eich canlyniadau - ar-lein neu'n mewn person - a chadwch fanylion cyswllt eich ysgol neu UCAS wrth law.
Unrhyw gyngor i fyfyrwyr newydd?
Cr毛wch gynllun astudio sy'n addas i'ch anghenion a dilynwch ef. Defnyddiwch y ganolfan sgiliau academaidd a'r llyfrgell yn ogystal ag adnoddau eraill i helpu gyda'ch addysg.
Mae eich tiwtoriaid a darlithwyr yno i gefnogi eich llwyddiant academaidd. Os oes gennych unrhyw amheuon, peidiwch ag oedi i ofyn cwestiynau yn y dosbarth neu yn ystod eu horiau swyddfa.
Defnyddiwch yr adnoddau arbenigol a ddarperir gan yr Ysgol Busnes, megis cyrsiau modelu ariannol a digwyddiadau siaradwyr gwadd.
Mae Wythnos y Glas yn llawn digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau yn y rhan fwyaf o sefydliadau. Mae hyn yn gyfle gwych i rwydweithio, gweld y campws, a phrofi bywyd coleg.
Mae'r ddinas yn lle hyfryd gyda'i hamgylchoedd syfrdanol. Defnyddiwch eich amser hamdden i ymweld 芒'r henebion hanesyddol a'r amgueddfeydd yn yr ardal, cerdded ar hyd yr arfordir neu archwilio Barc Cenedlaethol Eryri.
Mae 黑料不打烊 yn cynnig amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau i siwtio i amrywiaeth eang o ddiddordebau. Gall clwb fod yn lle gwych i gwrdd 芒 phobl sy'n rhannu eich diddordebau ac i ddilyn diddordebau y tu allan i'r dosbarth.
Sefydlwch gyllideb a monitro eich gwariant. Dysgwch sut i baratoi prydau rhad a manteisio ar ddisgowntiau myfyrwyr.
Er y gall coleg fod yn amser prysur, cofiwch ofalu am eich iechyd. Bwytewch fwydydd iach, cael digon o orffwys, ac ymarfer yn rheolaidd.
Peidiwch ag ofni gofyn am gefnogaeth os ydych chi'n cael problemau iechyd meddwl, yn teimlo'n bryderus, neu'n cael anhawster yn eich ymdrechion academaidd. Mae yma amrywiaeth o wasanaethau cymorth, megis cymorth academaidd, cyngor ariannol, a chwnsela.