Fel rhan o gynllun Ysgoloriaethau Mynediad 黑料不打烊, mae oddeutu 20 Ysgoloriaeth Ragoriaeth o hyd at 拢3,000 yr un ar gael i'r rheini sy'n rhagori yn arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad blynyddol y Brifysgol.
I gael eich ystyried ar gyfer yr Ysgoloriaethau Teilyngdod ac Ysgoloriaethau Mynediad eraill, mae rhaid i chi:
- lenwi ffurflen gais yr Ysgoloriaethau Mynediad, ceisiadau yn agor 8 Hydref (dyddiad cau Dydd Gwener, 30 Ionawr, 2026)
- sefyll arholiad yn eich dewis bwnc (bydd yr arholiadau'n cael eu cynnal yn eich ysgol/coleg: Dydd Mercher, 11 Chwefror, 2026).
Pynciau Ysgoloriaeth Mynediad
Pynciau sy'n cynnig Ysgoloriaethau Mynediad ar hyn o bryd:
- Almaeneg
- Astudiaethau Busnes
- Astudiaethau'r Cyfryngau
- Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd
- Bioleg
- Cerddoriaeth
- Cyfrifiadureg
- Cymdeithaseg
- Cymraeg (fel Iaith Gyntaf neu Ail Iaith)
- Daearyddiaeth
- Drama
- Dylunio a Thechnoleg
- Economeg
- Eidaleg
- Electroneg
- Ffrangeg
- Ffiseg
- Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
- Hanes
- Iaith Saesneg
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Llenyddiaeth Saesneg
- Mathemateg
- Sbaeneg
- Seicoleg
- Troseddeg
- Y Gyfraith
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr Ysgoloriaeth Ragoriaeth yn y flwyddyn gyntaf gyda鈥檙 wobr yn cael ei thalu ar ddiwedd mis Tachwedd.
Ysgoloriaethau Mynediad sydd ar gael
YSGOLORIAETHAU DR. WILLIAM JONES WILLIAMS (拢1500)*
Cafodd y Dr. William Jones Williams (1841-1920) yrfa lwyddiannus fel Meddyg yng Ngogledd Swydd Gaerefrog. Brodor o Dremadog ydoedd, ac fe'i cofir fel un o gymwynaswyr mwyaf hael y Brifysgol. Y mae dwy ysgoloriaeth yn dwyn ei enw, y naill yn gwbl agored a'r llall yn gyfyngedig i ymgeiswyr sy'n frodorion o Gymru ac a addysgwyd mewn ysgol uwchradd yng Nghymru.
YSGOLORIAETH DR. E.T. DAVIES (拢1500)*
Sefydlwyd yn 1962 yn unol ag ewyllys y Dr. E.T. Davies, Lerpwl, ac y mae'n agored i ymgeiswyr sy'n frodorion o Gymru ac a addysgwyd mewn ysgol uwchradd yng Nghymru.
YSGOLORIAETH JOHN HUGHES (拢1500)*
Sefydlwyd yn 1906 yn unol ag ewyllys yn Henadur John Hughes Y.H., Lerpwl ac y mae'n agored i ymgeiswyr a anwyd yn siroedd M么n, Conwy a Gwynedd neu sy'n byw yn y siroedd hynny.
YSGOLORIAETH RICHARD HUGHES (拢1500)*
Sefydlwyd yn 1904 yn unol ag ewyllys Richard Hughes, o Lanfwrog, Ynys M么n, ac y mae'n agored i ymgeiswyr a anwyd yn siroedd M么n, Conwy a Gwynedd neu sy'n byw yn y siroedd hynny.
YSGOLORIAETH THOMAS HUGHES (拢1500)*
Sefydlwyd yn 1973 yn unol ag ewyllys Thomas Hughes o'r Fali, Ynys M么n, ac y mae'n agored i ymgeiswyr a anwyd yn siroedd M么n, Conwy a Gwynedd neu sy'n byw yn y siroedd hynny.
YSGOLORIAETH WILLIAM PRITCHARD (拢1500)*
Cynigir er cof am y diweddar William Pritchard, ac y mae'n agored i ymgeiswyr a anwyd yn siroedd M么n, Conwy a Gwynedd neu sy'n byw yn y siroedd hynny.
YSGOLORIAETH Y FONESIG GLADSTONE (拢1500)*
Cynigir er cof am y Fonesig Gladstone o Benarla藛g, aelod o Gyngor y Coleg a fu farw yn 1941. Y mae'r ysgoloriaeth yn agored i ymgeiswyr a anwyd yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam Maelor neu sy'n byw yn y siroedd hynny.
YSGOLORIAETH PIERCY (拢1500)*
Sefydlwyd yn 1908 yn unol ag ewyllys Benjamin Piercy o Wrecsam ac y mae'n agored i ymgeiswyr a anwyd yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam Maelor neu sy'n byw yn y siroedd hynny.
YSGOLORIAETH ANNA BOYD (拢300)*
Sefydlwyd yn 1938 yn unol ag ewyllys Miss Anna Frances Elizabeth Boyd o Cheltenham ac y mae'n agored i ymgeiswyr sy'n gyn-ddisgyblion yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr o Gricieth.
YSGOLORIAETH GOFFA ROSA HOVEY (拢1,500)*
Darperir yr ysgoloriaeth yma o incwm rhodd a wnaed i Brifysgol Cymru yn Hydref 1934, ac Ionawr 1949, gan y ddiweddar Miss Ethel M Hovey, Bae Colwyn. Mae鈥檙 wobr yn agored i ferched sydd wedi derbyn eu haddysg uwchradd yng Ngogledd Cymru. Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr o fwrdeistref bresennol Colwyn neu'r ardaloedd cyfagos. Wedi hynny, mae'r wobr yn cael ei hagor i ymgeiswyr o hen siroedd Caernarfon neu Sir Ddinbych ac yna Gogledd Cymru gyfan.
* Nid yw'r ysgoloriaethau a nodir 芒 seren yn cael eu cynnig bob blwyddyn.
|
Ysgoloriaeth |
Swm |
Gofynion |
| Bae Colwyn |
拢1,500 |
Ymgeiswyr o Fae Colwyn, Llanelwy ac Hen-Golwyn |
Ysgoloriaeth |
Swm |
Gofynion |
| Ysgoloriaeth Ysgol y Gyfraith | 拢3000 | Ymgeiswyr sy'n dymuno astudio unrhyw gwrs gradd israddedig yn Ysgol y Gyfraith. |
| Ysgoloriaeth Cronfa'r Normal | 拢500 | Ymgeiswyr sy'n dymuno astudio cwrs israddeig yn yr Ysgol Addysg. |
| Ysgoloriaethau'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig | 拢1500 | Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn cynnig tair ysgoloriaeth i rai sy'n dymuno dilyn unrhyw gwrs gradd israddedig yn yr Ysgol. Mae'r Ysgoloriaethau'n werth 拢1500 ac fe'i delir yn llawn yn y flwyddyn gyntaf. |
| Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol | 拢3000 dros dair blynedd | Mae'r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau gwerth 拢1000 y flwyddyn (拢3000 dros dair blynedd) ar gyfer cyrsiau gradd lle bydd myfyrwyr yn dilyn 240 credyd neu fwy trwy gyfrwng y Gymraeg. I ymgeisio ar gyfer un o'r Ysgoloriaethau hyn ym Mangor, mae gofyn i chi sefyll ein arholiad Ysgoloriaethau Mynediad. |
| Bwrsariaeth y Teulu Glynne (Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd) Mynediad 2023 |
Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn falch o allu cynnig y bwrsariaethau canlynol i gefnogi myfyrwyr sy鈥檔 astudio鈥檙 Gymraeg fel rhan o radd sengl, gradd gyda phwnc arall, neu radd gydanrhydedd. Cewch ragor o wybodaeth yma. |