ºÚÁϲ»´òìÈ

Fy ngwlad:

98%

Boddhad Cyffredinol ar gyfer Busnes

Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2025

5 Uchaf

o holl brifysgolion y DU ar gyfer ymchwil ym maes Bancio

RePEc, Hydref 2025

100%

Boddhad Cyffredinol ar gyfer Astudiaethau Rheolaeth

Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2025

Croeso i'r Ysgol Fusnes Albert Gubay

Ymunwch â ni i gael profiad o fod mewn amgylchedd bywiog a chefnogol lle mae eich syniadau'n bwysig, lle mae eich uchelgeisiau'n cael eu meithrin a lle mae eich gyrfa yn y dyfodol yn flaenoriaeth i ni. 
 

Yr Athro Bruce Vanstone,  Pennaeth yr Ysgol
Yr Athro Enlli Thomas yn cyflwyno Ysgol Fusnes Albert Gubay
Fideo: Amdan yr Ysgol Fusnes Albert Gubay
Delwedd gysyniadol o adeilad newydd Ysgol Fusnes Albert Gubay
Delweddau gysyniad yn dangos tu allan Adeilad Ysgol Fusnes Albert Gubay. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio.

Wedi'i Ddylunio O Amgylch Eich Dyfodol Ysgol Fusnes Albert Gubay: Creu Arweinwyr Busnes Yfory

Yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, mae eich addysg wedi'i hadeiladu o'ch cwmpas - gyda mannau ysbrydoledig, rhaglenni arloesol a chyfleoedd cydweithredol byd-go-iawn sy'n eich paratoi i ffynnu mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym. 

Cyrsiau Israddedig

Darganfyddwch ein meysydd pwnc israddedig.

Cyrsiau Ôl-raddedig

Darganfyddwch ein meysydd pwnc ôl-raddedig.

Darganfyddwch ein meysydd pwnc ôl-raddedig.

Skyscrapers modern looking buildings

Addysg Weithredol

Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn ysgol fusnes blaenllaw sy’n canolbwyntio ar addysgu ac ymchwil ac mae’n cynnig MBA Addysg Weithredol flaengar ac arloesol i’r sector gwasanaethau ariannol byd-eang. Yma ceir amrywiaeth o raglenni dysgu o bell arloesol sydd wedi eu cynllunio i gynorthwyo datblygiad proffesiynol arweinwyr a rheolwyr cwmnïau.

Cyfleoedd Ymchwil

Rydym yn cynnig amryw o raddau ymchwil ôl-radd sy'n rhoi cyfleoedd diddiwedd i raddedigion ddyfnhau eu gwybodaeth a'u harbenigedd yn eu priod feysydd. Byddwch yn rhan o dîm o arbenigwyr, yn ymwneud ag ymchwil arloesol a chryno a all wneud gwahaniaeth go iawn, o farchnadoedd ariannol i dwristiaeth, ymddygiad defnyddwyr i lywodraethu, mae ein gwaith yn cwmpasu cyd-destunau lleol a byd-eang.

Canolfannau Ymchwil

Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn gartref i ddwy ganolfan ymchwil ddeinamig sy'n dod ag arbenigwyr, myfyrwyr a phartneriaid ynghyd i fynd i'r afael â heriau mawr a chreu effaith yn y byd go iawn. Darganfyddwch mwy am eu gweithgareddau, eu cyflawniadau a'u cyfleoedd i gymryd rhan.
 

Themâu Ymchwil

Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn gartref i ddwy ganolfan ymchwil ddeinamig sy'n dod ag arbenigwyr, myfyrwyr a phartneriaid ynghyd i fynd i'r afael â heriau mawr a chreu effaith yn y byd go iawn. Darganfyddwch mwy am eu gweithgareddau, eu cyflawniadau a'u cyfleoedd i gymryd rhan.
 

A group around a table with laptops and phones

Y Clinig Busnes a'n Partneriaethau

Mae'r Clinig Busnes yn adeiladu ar gysylltiadau cryf Ysgol Fusnes Albert Gubay â diwydiant ac yn creu cyfleoedd newydd i gydweithio. Mae'n cynnig cyfle i fusnesau sefydledig a busnesau newydd uchelgeisiol fanteisio ar gyfoeth arbenigedd yr ysgol. Mae busnesau'n cael mynediad at wybodaeth arloesol, atebion ymarferol, a meddwl arloesol, tra bod myfyrwyr yn cael profiad ymarferol, yn datblygu sgiliau gwirioneddol ac yn cydweithio ar brojectau byw. Gyda'n gilydd, rydym yn troi heriau'n gyfleoedd ac yn sbarduno twf a llwyddiant.

Myfyrwyr yn cerdded tuag at Hen Goleg

Ysbrydoli'r Dyfodol: Allgymorth yn Ysgol Fusnes Albert Gubay

Mae ein Tîm Allgymorth yn gweithio gydag ysgolion a cholegau ledled gogledd Cymru i greu cyfleoedd sy'n mynd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth — gan helpu pobl ifanc i ddarganfod eu potensial, cael profiad o fywyd prifysgol, a dychmygu'r dyfodol sy'n disgwyl amdanynt. Os ydych chi’n ddisgybl sy'n chwilfrydig am beth i’w wneud nesaf, yn athro sy'n chwilio am gyfleoedd i gyfoethogi eich addysgu, neu'n gynghorydd sy'n cynnig arweiniad i ddisgyblion sy’n ystyried addysg uwch, mae ein rhaglenni ni wedi cael eu cynllunio i ysbrydoli, addysgu a grymuso.

Myfyriwr a darlithydd yn edrych ar wybodaeth fasnachu ar un o derfynellau Bloomberg yn y Llawr Masnachu.

Cyfleusterau ac Adnoddau sy'n Pweru Cynnydd

Cewch fynediad at gyfleusterau o safon i helpu chi gyda'ch astudiaethau a pharatoi ar gyfer y byd go iawn. Darganfyddwch ein Hystafell Fasnachu sydd â therfynellau Bloomberg safonol, a defnyddiwch rai o'r cronfeydd data busnes gorau'r byd. Mae ein mannau astudio cydweithredol wedi'u hadeiladu i ysbrydoli arloesi, gwaith tîm, a syniadau mawr.

Albert Gubay Business School, Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, ºÚÁϲ»´òìÈ LL57 2DG

Cysylltwch

Albert Gubay Business School, Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, ºÚÁϲ»´òìÈ LL57 2DG

Cysylltwch â ni ar Gyfryngau Cymdeithasol

Facebook

LinkedIn

Instagram

Twitter