Mae鈥檙 ENDS Report wedi cyhoeddi ei restr ddiweddaraf o'r 100 o weithwyr proffesiynol amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cael yr effaith fwyaf yn y sector dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae'r Athro Christian Dunn, o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ym Mhrifysgol 黑料不打烊, wedi ei enwi'n un o'r 10 academydd gorau ar y rhestr am ei waith ar wyddoniaeth gwlyptiroedd ac atebion sy'n seiliedig ar natur.
Mae'r rhai sydd ar restr ENDS yn cael eu henwebu gan eu cydweithwyr a'u cyfoedion, ac maent yn cynnwys prif swyddogion gweithredol sefydliadau amgylcheddol, gweithwyr proffesiynol blaenllaw a gweithwyr y llywodraeth.
Tynnwyd sylw at waith yr Athro Christian Dunn am ddylanwadu ar wyddoniaeth amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig.
Meddai鈥檙 Athro Dunn, a ymddangosodd hefyd yn rhestr 2024: 鈥淒ydw i ddim yn hollol si诺r sut ydw i wedi cyrraedd rhestr ENDS am yr ail dro, yn enwedig pan welwch chi rai o鈥檙 bobl wirioneddol ddylanwadol sydd ar y rhestr 鈥 mae鈥檔 anrhydedd wirioneddol.
鈥淥nd y peth pwysicaf oll, yw beth mae鈥檔 ei ddweud am bwysigrwydd cynyddol gwyddor amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig.
鈥淒deng mlynedd yn 么l, roedd pethau fel gwlyptiroedd, bioamrywiaeth ac atebion seiliedig ar natur yn aml yn cael eu hystyried yn ddiddordebau arbenigol.
鈥淗eddiw maen nhw鈥檔 cael eu trafod mewn ystafelloedd bwrdd, yn adrannau鈥檙 llywodraeth ac mewn cymunedau ledled y Deyrnas Unedig oherwydd bod pobl yn cydnabod fwyfwy nad delfryd yw adfer natur 鈥 mae鈥檔 hanfodol i fynd i鈥檙 afael 芒 heriau fel llifogydd, llygredd d诺r, newid hinsawdd a lles y cyhoedd,鈥 meddai鈥檙 Athro Dunn.
Mae'r Athro Christian Dunn yn wyddonydd gwlyptiroedd ac mae鈥檔 ymchwilio i ddefnyddio gwlyptiroedd fel atebion sy'n seiliedig ar natur.
Ef hefyd yw Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd y brifysgol, ac mae鈥檔 ymddiriedolwr i鈥檙 WWT, yr elusen gwlyptiroedd, a Chymdeithas Ecolegol Prydain.
Sefydlwyd yr ENDS Report ym 1978, ac mae鈥檔 gylchgrawn sy'n ymdrin 芒 pholisi amgylcheddol a busnes a newyddion.
Mae Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol 黑料不打烊 yn cynnig amrywiaeth o raddau israddedig ac 么l-radd i fyfyrwyr sydd 芒 diddordeb gweithio yn y sector amgylcheddol.