Yn ystod y sioe fyw roedd y cyflwynydd bywyd gwyllt arobryn a鈥檙 uwch ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn dod 芒 byd cyfareddol siarcod yn fyw i鈥檙 gynulleidfa. Roedd y sioe yn cyfuno straeon diddorol, gwybodaeth wyddonol, a phrofiadau o'r byd go iawn er mwyn cynnig profiad addysgol trochol.
Cafodd myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 fynychu鈥檙 sioeau yn rhad ac am ddim, a oedd yn rhoi cyfle gwerthfawr iddynt wneud cysylltiad rhwng yr hyn y maent yn ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a ffyrdd o gyfathrebu gwyddoniaeth yn y byd go iawn a gweithgareddau allgymorth ym maes cadwraeth. Mae'r fenter yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Brifysgol i wella profiad myfyrwyr drwy bartneriaethau allanol a chyfleoedd dysgu ymarferol.
Roedd y digwyddiad yn edrych ar esblygiad siarcod o鈥檜 dechreuadau cynharaf hyd y rhywogaethau a geir heddiw, gan gynnig cyfle i gynulleidfaoedd archwilio replic芒u, dannedd a genau go iawn, a ffilmiau hanesyddol. Bu Steve Backshall MBE hefyd yn s么n am ei ymwneud ei hun 芒 rhai o ysglyfaethwyr mwyaf brawychus y cefnfor, gan roi cipolwg prin i'r mynychwyr o natur gwaith maes a heriau cadwraeth.
Yn 2023 sy鈥檔 uwch ddarlithydd er anrhydedd yn Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol y Brifysgol. Mae ganddo berthynas hirhoedlog 芒'r Brifysgol ac mae鈥檔 frwd ei gefnogaeth i ymdrechion i ennyn diddordeb yn y maes ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr amgylcheddol.
Dwi bob amser wrth fy modd yn cyfarfod 芒 myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊. Maen nhw wastad mor frwd ac yn llawn egni, a chan fod gan Brifysgol 黑料不打烊 gymaint o enw da ym maes gwyddorau amgylcheddol a naturiol - dwi'n teimlo'n ffodus iawn cael bod yn Uwch Ddarlithydd er Anrhydedd. Mae wedi bod yn wych gallu cydweithio efo Sw Caer i gynnig cyfle i fyfyrwyr ddod draw i鈥檙 sioe fyw, treulio鈥檙 diwrnod yn y sw, a gadael, gobeithio, wedi eu hysbrydoli hyd yn oed yn fwy am fyd natur.
Tynnodd yr Athro Christian Dunn o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol 黑料不打烊 sylw at bwysigrwydd profiadau o'r fath wrth gyfoethogi dysgu myfyrwyr a meithrin brwdfrydedd dros yrfaoedd amgylcheddol.
Dywedodd yr Athro Dunn, 鈥淏u Steve nid yn unig yn gweithio gyda Sw Caer i drefnu tocynnau am ddim i鈥檔 myfyrwyr, ond fe wnaeth hefyd gadw lle iddyn nhw bob dydd yn ei sioe orlawn, a threulio amser yn cyfarfod 芒 nhw ar ddiwedd y dydd. Roedd yn brofiad arbennig iawn i'n myfyrwyr.
"Mae'n wych gweld y myfyrwyr yn rhyngweithio 芒 Steve. Bu鈥檔 arwr i lawer ohonyn nhw ers iddyn nhw fod yn blant, felly mae cael ei gyfarfod yn y cnawd yn gallu bod yn brofiad go emosiynol, ond mae Steve yn wych ac yn cynnal sgwrs ddifyr efo nhw bob amser. Dan ni鈥檔 ffodus iawn o鈥檌 gael yn Uwch Ddarlithydd er Anrhydedd."
Mae鈥檙 myfyrwyr wedi canmol yr ymweliad gan ddweud iddo fod yn brofiad addysgiadol ac ysbrydoledig, a disgrifio sioe Steve Backshall fel sioe hwyliog a diddorol a oedd yn llawn mewnwelediadau diddorol. Yr hyn a wnaeth y diwrnod yn arbennig o gofiadwy oedd y cyfle i gwrdd 芒 Steve a chael treulio amser yn crwydro Sw Caer a chael gweld rhai o鈥檙 anifeiliaid mwyaf newydd.
I ambell un, roedd y profiad yn teimlo'n arbennig o arwyddocaol. Soniodd un myfyriwr am ei angerdd fel plentyn at waith Steve Backshall a dweud bod y cyfle i鈥檞 gyfarfod wrth astudio ym Mangor wedi gwneud iddo deimlo yn hapus ac yn llawn balchder.