ºÚÁϲ»´òìÈ

Fy ngwlad:

Mae Dr May Silveira Bianchim yn Swyddog Ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar hyrwyddo iechyd y boblogaeth trwy gyfranogiad cyhoeddus ystyrlon ac ymchwil wedi’i gyd-gynhyrchu. Mae arbenigedd amlddisgyblaethol May yn cwmpasu poen cronig ymysg plant, gweithgarwch corfforol, a chyflyrau hirdymor, megis ffibrosis cystig a chlefyd Parkinson. Mae hi'n cydweithio â sefydliadau gan gynnwys Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Stirling, ac yn cyfrannu at Grŵp Dulliau Ansoddol a Gweithredu Cochrane.

Mae Dr Winnie Courtene-Jones yn Ddarlithydd mewn Llygredd Morol yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion. Mae Winnie yn angerddol am gyfathrebu gwyddoniaeth ac effeithio ar newid amgylcheddol cadarnhaol, ac mae ei hymchwil amlddisgyblaethol yn archwilio graddfa, ymddygiad ac effeithiau ecolegol llygredd microblastigion i lywio ymyriadau effeithiol, sy'n seiliedig ar wyddoniaeth. Mae hi'n gweithio'n agos gyda llunwyr polisi i gefnogi trafodaethau Cytundeb Plastigion y Cenhedloedd Unedig.

Mae Dr Laura Richardson yn Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion. Mae Laura yn arbenigo mewn ecoleg forol a gwyddor pysgodfeydd. Mae hi'n ymchwilio i'r rhesymau pam mae riffiau cwrel trofannol wedi'u trefnu'n ecolegol fel y maent – gan ddatod effeithiau prosesau naturiol sy'n digwydd dros amser a gofod oddi wrth effeithiau dynol sydd, gyda'i gilydd, yn achosi i riffiau cwrel fod yn wahanol mewn gwahanol leoliadau. Mae hi hefyd yn gweithio ar ddatrysiadau ymarferol ar gyfer pysgodfeydd cynaliadwy, gyda phwyslais ar ddyfroedd arfordirol Cymru.

Mae Dr Jessica Kevill yn Ymchwilydd Ôl-ddoethurol mewn Firoleg Amgylcheddol yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol. Mae ymchwil Jessica yn ymchwilio i dynged firysau sy'n gysylltiedig â charthffosiaeth ddynol mewn dyfroedd o dan amodau newid hinsawdd, ac yn archwilio'r risgiau y mae'r firysau hyn yn eu peri i iechyd dynol. Mae ei gwaith yn amlddisgyblaethol ac yn ymestyn i astudio sut mae firysau'n rhyngweithio â ffactorau amgylcheddol, megis tyrfedd a microblastigion. Mae ei chanfyddiadau'n llywio polisi ansawdd dŵr, gan helpu i ddatblygu rheoliadau ar sail tystiolaeth mewn ymateb i’r newid hinsawdd.

Mae Dr Jennifer Roberts yn Swyddog Ymchwil yng Nghanolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd. Mae ganddi ddiddordeb mewn ystyried ffyrdd o gefnogi pobl â dementia i fyw bywyd cystal â phosibl gyda’r diagnosis. Mae cyd-gynhyrchu, a sicrhau bod lleisiau unigolion sydd â phrofiad byw’n cael eu clywed, yn ganolog i’w gwaith.

Dywedodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil, "Mae Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ wedi ymrwymo i rymuso ymchwilwyr i ddod yn arweinwyr ac arloeswyr y dyfodol. Mae cael eu dewis ar gyfer Crwsibl Cymru yn tynnu sylw at eu potensial a'r ethos cydweithredol sy'n sbarduno ein diwylliant ymchwil. Bydd y profiad hwn yn eu helpu i ddatblygu syniadau newydd, arwain mentrau arloesol, ac atgyfnerthu eu gallu i fynd i'r afael â heriau cymhleth ar lefelau cenedlaethol a byd-eang."

Mae Crwsibl Cymru’n fenter gydweithredol a ariennir gan gonsortiwm o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.