Siarter y Brifysgol
Charles y Tryddyd trwy ras Duw, Brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a’n Teyrnasoedd a’n Tiriogaethau Eraill, Pennaeth y Gymanwlad, Amddiffynnydd y Ffydd:
I bawb y bo a wnelont â hyn, henffych!
Ar y 4ydd o Fehefin 1885 dyfarnodd Ei Mawrhydi y Frenhines Victoria Siarter yn sefydlu a sylfaenu Coleg yn Ninas ϲ o’r enw “Coleg Prifysgol Gogledd Cymru” gydag olyniaeth dragwyddol a sêl gyffredin, gyda’r grym i erlyn a chael ei erlyn yn yr enw hwnnw:
Yn 1922, 1951, 1977 a 1998 rhoddwyd Siarteri Atodol i’r Coleg ac yn 2007 newidiwyd enw’r Coleg i “Prifysgol ϲ” neu “ϲ”:
Tra bod y Brifysgol wedi deisyf yn wylaidd ar y Frenhines Elizabeth yr Ail ei bod yn ddymunol gwneud darpariaeth newydd mewn perthynas â’i dibenion, ei thrafodion a’i dyletswyddau trwy Siarter Atodol.
GAN FOD, ar 16 Chwefror 2022, y Frenhines Elizabeth yr Ail yn falch iawn o gymeradwyo Gorchymyn yn rhoi Siarter Atodol i Brifysgol ϲ;
A CHAN y bu marwolaeth Ei diweddar Fawrhydi cyn y gellid gweithredu Ei gwarant i ganiatáu pasio’r Siarter Atodol dan y Sêl Fawr gan roi iddi rym cyfreithiol;
A CHAN mai ein dymuniad yw dwyn dymuniadau Ei diweddar Fawrhydi i rym:
YN AWR GWYBYDDER CHWI, o gofio dymuniadau Ei diweddar Fawrhydi, y cadarnhawn drwy hyn roddi Siarter Atodol i Brifysgol ϲ a thrwy rinwedd Ein Huchelfraint Frenhinol a’r holl bwerau eraill sy’n ein galluogi Ni yn hynny o beth, drwy Ein gras arbennig, y wybodaeth benodol y meddwn arni ac o’n llwyr wirfodd, yn rhoddi ac yn datgan ar ein cyfer Ein Hunain, Ein Hetifeddion a’n Dilynwyr Siarter Atodol i Brifysgol ϲ yn unol â’r telerau a nodir isod:
- Y bydded corff corfforedig gydag olyniaeth dragwyddol a Sêl Gyffredin o’r enw “Prifysgol ϲ” neu “ϲ” (“y Brifysgol”).
- Caiff Siarter 1977 (ac eithrio i’r graddau y mae’n ymgorffori’r Brifysgol ac yn rhoi olyniaeth dragwyddol a sêl gyffredin iddi), ei dirymu drwy hyn, ond ni fydd dim yn y dirymiad hwn yn effeithio ar gyfreithlondeb na dilysrwydd unrhyw weithred, gweithgarwch nac unrhyw beth a wnaed neu a gyflawnwyd yn gyfreithlon o dan ddarpariaethau Siarter 1977.
- Amcanion y Brifysgol fydd hyrwyddo a lledaenu dysg a gwybodaeth trwy addysgu ac ymchwil a, thrwy ei bywyd corfforaethol yn ogystal â’i gwaith academaidd, galluogi myfyrwyr i gael manteision llawn addysg Brifysgol.
- Bydd gan y Brifysgol holl bwerau person naturiol i wneud pob gweithred gyfreithlon sy’n ffafriol neu’n arwain at gyflawni amcanion y Brifysgol, sy’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r grym i ddyfarnu a dirymu graddau arhagoriaethau eraill (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: diplomâu, graddau ar y cyd, graddau deuol, tystysgrifau, cymrodoriaethau, graddau er anrhydedd, cymrodoriaethau er anrhydedd, aelodaeth ac aelodaeth gyswllt) yn ei henw ei hun a/neu ar y cyd â sefydliadau addysg eraill.
- Ni fydd y Brifysgol yn rhoi unrhyw ddifidend, rhodd, rhaniad na bonws mewn arian i neu rhwng unrhyw aelodau o’r Cyngor neu swyddogion y Brifysgol, ac eithrio ar ffurf gwobr, grant arbennig neu ddyfarniad gan gynnwys fel taliad cydnabyddiaeth resymol a phriodol am nwyddau neu wasanaethau a gyflenwir i’r Brifysgol.
- Ieithoedd swyddogol y Brifysgol fydd y Gymraeg a’r Saesneg
- Bydded cyngor (“y Cyngor”), a hwn fydd corff llywodraethu goruchaf y Brifysgol a fydd yn gyfrifol am arfer grymoedd y Brifysgol. Bydd swyddogaethau’r Cyngor yn cynnwys, heb gyfyngiad:
- gofalu am y Sêl Gyffredin a’r defnydd ohoni;
- goruchwylio rheolaeth a gweinyddiad refeniw ac eiddo’r Brifysgol; a
- goruchwylio’r ffordd y caiff materion y Brifysgol eu cynnal.
- Gall y Cyngor ddirprwyo’r cyfan neu unrhyw rai o’i swyddogaethau heblaw:
- penderfynu ar gymeriad a chenhadaeth y Brifysgol, gan gynnwys penodi’r Is-ganghellor;
- y cyfrifoldeb am sicrhau diddyledrwydd y Brifysgol ac am ddiogelu ei hasedau, gan gynnwys penodi archwilwyr, sefydlu pwyllgor archwilio a chymeradwyo cyfrifon archwiliedig blynyddol y Brifysgol; neu
- wneud, newid, diwygio neu ychwanegu at y cyfryw Siarter hon.
- Bydd y Cyngor yn cynnwys y personau canlynol, sef:
- Hyd at ddeuddeg o bobl y tu allan i’r Brifysgol, (“Aelodau Annibynnol”), gan gynnwys y Cadeirydd a hyd at ddau Ddirprwy Ganghellor;
- Dau aelod o’r Senedd;
- Un aelod a enwebir gan y staff academaidd;
- Un aelod a enwebir gan y staff anacademaidd;
- Yr Is-ganghellor;
- Y Dirprwy i’r Is-ganghellor;
- Llywydd Undeb y Myfyrwyr; ac
- Un swyddog etholedig arall o Undeb y Myfyrwyr a benodir gan bwyllgor gweithredu’r sefydliad hwnnw.
- Cyfnod gwasanaeth yr aelodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 9.1, 9.2, 9.3, a 9.4 fydd pedair blynedd a byddant yn gymwys i’w hailbenodi fel arfer am un cyfnod pellach o hyd at bedair blynedd, oni bai bod darpariaethau paragraff 12 yn berthnasol.
- Cyfnod gwasanaeth yr aelodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 5, 9.6, 9.7, a 9.8 yn aelodau o’r Cyngor fydd cyhyd ag y byddant yn eu swyddi priodol oni bai y collant eu swyddogaeth yn unol â’r Ordinhadau.
- Gellir ailbenodi’r cadeirydd yn Gadeirydd y Cyngor am un cyfnod arall o bedair blynedd, yn amodol bob amser ar uchafswm cyfnod o wyth mlynedd.
- Bydd deg aelod o’r Cyngor yn ffurfio cworwm, a bydd y mwyafrif ohonynt yn Aelodau Annibynnol.
- ydd y Cyngor yn penderfynu ar ba gyfryw swyddogion yn y Brifysgol i fod yn aelodau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Y Canghellor, a fydd yn bennaeth seremonïol y Brifysgol; ac
- Yr Is-ganghellor, a fydd yn brif swyddog academaidd a gweinyddol y Brifysgol.
- Bydd gan Lys y Brifysgol (“y Llys”) y pwerau a’r swyddogaethau hynny a ddirprwyir iddo gan y Cyngor.
- Bydded senedd o’r Brifysgol (“y Senedd”), a honno fydd awdurdod academaidd y Brifysgol yn amodol ar reolaeth a chymeradwyaeth gyffredinol y Rhoddir cyfle i’r Senedd wneud sylwadau ar unrhyw newid arfaethedig i’r cyfryw Siarter hon. Caiff y Senedd weithredu unrhyw swyddogaethau eraill a roddir iddi gan yr Ordinhadau.
- Bydded undeb myfyrwyr y Brifysgol (“Undeb Myfyrwyr”) a fydd yn cynnal ac yn rheoli ei materion a’i chronfeydd ei hun yn unol â chyfansoddiad a gymeradwyir gan y Cyngor. Ni fydd unrhyw newid neu ddirymiad o’r cyfansoddiad hwnnw yn ddilys oni chymeradwyir hynny gan y Cyngor.
- Atal, Disgyblu, Diswyddo a Chwynion Staff
- Rhagarweiniad
- Mae’r 18fed paragraff hwn yn ymwneud ag atal, disgyblu, diswyddo a chwynion staff. Ac eithrio lle nodir i’r gwrthwyneb, mae’r 18fed paragraff hwn yn berthnasol i bob aelod o staff.
- Egwyddorion Cyffredinol Adeiladu a Chymhwyso
- Caiff y 18fed paragraff hwn ac unrhyw Ordinhadau neu reolau eraill a wneir oddi tano eu cymhwyso a’u dehongli ym mhob achos gan roi sylw i’r egwyddorion arweiniol a ganlyn:
- sicrhau bod gan aelodau staff academaidd ryddid o fewn y gyfraith i gwestiynu a phrofi’r ddoethineb a dderbyniant, ac i gyflwyno syniadau newydd a safbwyntiau dadleuol neu amhoblogaidd, heb roi eu hunain mewn perygl o golli eu swyddi neu unrhyw freintiau a all fod ganddynt yn y Brifysgol;
- galluogi’r Brifysgol i ddarparu addysg, hyrwyddo dysgu a chymryd rhan mewn ymchwil yn effeithlon ac yn ddarbodus; ac
- i gymhwyso egwyddorion cyfiawnder a thegwch.
- Dylid ystyried unrhyw gyfeiriad yn y 18fed paragraff hwn at ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y gall fod wedi ei diwygio neu ei disodli o bryd i’w gilydd.
- At ddibenion y 18fed paragraff hwn bydd yr ystyron a ganlyn i’r termau canlynol:
- yr un ystyr fydd i “diswyddo” ag sydd iddo yn adran 95 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996; a
- yr un ystyr fydd i “diswyddo drwy golli gwaith” ag sydd iddo yn adran 95 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996; a
- Ni fydd y grym i ddiswyddo staff drwy golli gwaith, a’r ordinhadau a ragnodir mewn perthynas â grym o’r fath, o dan y 18fed paragraff hwn yn berthnasol i’r staff hynny a ddiffinnir yn is-adrannau (3) i (6) o adran 204 Deddf Diwygio Addysg 1988 (staff academaidd a benodwyd cyn 20 Tachwedd 1987 ac nas dyrchafwyd ar ôl hynny) a fydd at y diben hwn yn parhau yn ddarostyngedig i’r grymoedd, os o gwbl, a gymhwyswyd iddynt cyn cyflwyno’r Statud a wnaed gan Gomisiynwyr y Brifysgol wrth arfer eu grymoedd o dan adrannau 203 a 204 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.
- Atal
- Gall yr Is-ganghellor, neu berson neu bersonau dynodedig eraill, atal unrhyw aelod staff o’i waith.
- Disgyblu
- Gall yr Is-ganghellor, neu berson neu bersonau dynodedig eraill, ddisgyblu unrhyw aelod
- Pan fo aelod staff wedi’i ddisgyblu yn unol â pharagraff 7, caiff yr aelod hwnnw o staff apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i berson dynodedig.
- Diswyddo
- Gall yr Is-ganghellor, neu berson neu bersonau dynodedig eraill, ddiswyddo unrhyw aelod staff naill ai gyda rhybudd neu heb rybudd, yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos.
- Pan fo aelod staff wedi’i ddiswyddo yn unol â pharagraff 18.9, caiff yr aelod hwnnw o staff apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i berson dynodedig.
- Cwynion
- Caiff unrhyw aelod staff wneud cais i unioni unrhyw gwynion sy’n ymwneud â chyflogaeth yr aelod hwnnw o staff.
- Pan fo aelod staff yn anfodlon â chanlyniad cwyn yn unol â pharagraff 7, caiff yr aelod hwnnw o staff apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i berson dynodedig.
- Ordinhadau
- Bydd y Cyngor o bryd i’w gilydd (yn dilyn trafodaeth gyda’r undebau llafur perthnasol) yn gwneud ac yn diwygio Ordinhadau sy’n pennu personau dynodedig i’w penodi a pholisïau a gweithdrefnau i’w dilyn wrth arfer y grymoedd a’r dyletswyddau a gynhwysir yn y 18fed paragraff hwn, gyda’r cyfryw Ordinhadau yn cwmpasu ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- Diswyddiadau;
- Peidio ag adnewyddu contractau tymor penodol a diswyddo trwy derfynu contractau cyllido tymor penodol;
- Ymddygiad a rhesymau sylweddol eraill dros ddiswyddo;
- Gallu a pherfformiad;
- Analluogrwydd ar sail iechyd;
- Terfynu penodiadau prawf;
- Terfynu ar sail anghyfreithlondeb;
- Terfynu swyddi nad ydynt yn rhai parhaol;
- Cwynion staff; ac
- Yr Is-ganghellor
- Os nad yw Ordinhadau wedi’u gwneud eto gan y Cyngor ar y dyddiad y daw’r Siarter Atodol hon o’n heiddo i rym, arferir y pwerau disgyblu, diswyddo a gwrando ar gwynion a nodir yn y 18fed paragraff hwn yn unol â’r gyfraith gyffredinol a chodau ymarfer statudol hyd nes y gwneir Ordinhadau.
- Gall y Cyngor ddiwygio, ychwanegu at, neu ddiddymu’r Siarter hon drwy benderfyniad a basiwyd mewn cyfarfod o’r Cyngor gan fwyafrif o ddim llai na thair rhan o bedair o’r rhai sy’n bresennol ac yn pleidleisio. Bydd y cyfryw ddiwygiad, ychwanegiad neu ddiddymiad, pan ganiateir gennym Ni, Ein Hetifeddion neu Olynwyr yn y Cyfrin Gyngor, yn dod i rym fel y gweithredo’r cyfryw Siarter hon fel pe’i dyfarnwyd yn wreiddiol a hynny fel y’i diwygiwyd, yr ychwanegwyd ati neu y’i diddymwyd.
- Ein Hewyllys a’n Dymuniad Brenhinol yw y dehonglir y cyfryw Siarter hon yn rhadlon ac ym mhob achos yn fwyaf ffafriol i’r Brifysgol ac er hyrwyddo amcanion y cyfryw Siarter hon.
YN DYSTIOLAETH o hynny yr Ydym wedi peri gwneud y rhain, Ein Llythyrau, yn Agored.
TYSTIED Ein Hunain yn San Steffan ar y dydd o
yn blwyddyn Ein Teyrnasiad.
TRWY WARANT O DAN LOFNOD Y BRENIN