Mamau Newydd a Mamau Beichiog
Gweler isod cyswllt i'n Safon Polisi Mamau Newydd a Beichiog, a’n canllaw cam wrth gam ar gyfer mamau beichiog neu famau newydd.
Cam 1 – Y Broses Hysbysu
Cemegau, Ymbelydredd, Asiantau Biolegol, Anifeiliaid – Os ydych yn gweithio gydag unrhyw un o’r eitemau hyn, gofynnir i chi hysbysu eich rheolwr llinell, arbenigwr lleol neu’r tîm Iechyd a Diogelwch cyn gynted â phosibl.
Darllenwch Bolisi Absenoldeb Mamolaeth Adnoddau Dynol am fanylion ynghylch hysbysu eich rheolwr llinell, ac am eich hawliau gwyliau a’ch cyflog.
Cam 2 – Asesiad Risg
Cwblhewch yr Asesiad Risg Mamau Newydd a Mamau Beichiog gyda'ch rheolwr llinell cyn gynted â phosibl.
Rhaid cwblhau asesiad risg ar ôl cael gwybod am y canlynol:
- Beichiogrwydd, yn cynnwys adolygiadau bob tri mis
- Newidiadau sylweddol i weithgareddau neu weithle'r fam feichiog
- Bod y fam yn dychwelyd i'r gwaith/astudio os ydy hi wedi rhoi genedigaeth yn ystod y 6 mis diwethaf
- Bod y fam yn dychwelyd i'r gwaith/astudio os ydy hi’n bwydo ar y fron
I gefnogi'r ddau ohonoch yn y broses hon rydym wedi creu Templed Asesiad Risg y gellir ei addasu ar gyfer unigolion yn ôl yr angen. Mae hwn hefyd ar gael yn iTrent (mae cyfarwyddiadau ar gael o dudalen 5 y ).
Rhaid naill ai cadw asesiadau risg wedi eu cwblhau yn lleol am 5 mlynedd os ydynt yn rhai papur, neu drwy gadw'r ffurflen iTrent.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu faterion yr hoffech eu trafod ynghylch y broses hon, neu'n dymuno gwneud hynny’n gyfrinachol, yna mae croeso i chi gysylltu â ni.
Cam 3 – Cyn Dychwelyd i'r Gwaith
Sicrhewch eich bod wedi rhoi gwybod i’ch rheolwr llinell am y dyddiad y byddwch yn dychwelyd i’r gwaith, fel y gallwn sicrhau eich bod yn cael eich talu’n gywir.
Os ydych yn bwriadu godro o’r fron yn y gwaith, gofynnwch i’ch rheolwr llinell i ddod o hyd i ystafell breifat er mwyn godro, a sicrhau bod rhywle i storio’ch llaeth.
Cam 4 – Dychwelyd i'r Gwaith
Os ydych yn dychwelyd i’r gwaith ac wedi rhoi genedigaeth o fewn y 6 mis diwethaf, yn bwydo ar y fron, neu fod newidiadau sylweddol i’ch rôl neu’ch gweithle, cwblhewch yr Asesiad Risg Mamau Newydd a Mamau Beichiog gyda'ch rheolwr llinell.
Os nad yw hyn yn berthnasol, mae'n dal yn ymarfer da cynnal trafodaeth dychwelyd i'r gwaith gyda'ch rheolwr llinell pan fyddwch yn dychwelyd.
Cwblhewch yn ystod eich wythnos gyntaf i sicrhau bod eich gweithfan wedi'i gosod yn gywir ar eich cyfer.
Myfyrwyr
Mae cyngor pellach i fyfyrwyr ar gael ar dudalennau gwe’r Gwasanaethau Myfyrwyr.
Canllawiau/Dolenni Pellach
- Peryglon Cemegau, Ymbelydredd, Asiantau Biolegol i famau beichiog a mamau newydd
- Llawlyfr Mamau Newydd a Mamau Beichiog
- Absenoldeb Mamolaeth (Adnoddau Dynol)
- Polisi Beichiogrwydd a Mamolaeth Myfyrwyr