拢1.8m ar gyfer yr adnodd ar-lein i roi sylw i Gymraeg cyfoes ar raddfa fawr
Fel awdurdod blaenllaw ar dechnolegau iaith Gymraeg, bydd Prifysgol 黑料不打烊 y cymryd rhan mewn prosiect aml-sefydliad i ddatblygu'r corpws torfol cyntaf erioed i gofnodi a hysbysu鈥檙 defnydd o鈥檙 iaith Gymraeg yn y gorffennol, y presennol a鈥檙 dyfodol yr iaith Gymraeg .
O dan arweiniad Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd bydd y prosiect rhyngddisgyblaethol 拢1.8m gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau (AHRC) o鈥檙 enw Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC yn cynnwys set ddata o 10 miliwn o eiriau Cymraeg yn y lle cyntaf.
Bydd y prosiect tair blynedd a hanner yn dechrau ym mis Mawrth 2016 ac yn manteisio ar arbenigedd o Brifysgolion 黑料不打烊, Abertawe a Lancaster. Bydd CorCenCC yn torri tir newydd fel adnodd iaith ac fel model o adeiladu corpws.
Bydd yr Athro Enlli Thomas o Prifysgol 黑料不打烊, sydd eisoes yn gartref i'r , yn cyd-arwain ar y gwaith o ddatblygu a gwerthuso adnodd pwrpasol ar gyfer athrawon a dysgwyr o鈥檙 Gymraeg fydd yn deillio o鈥檙 Corpws fel rhan o鈥檙 ymchwil.
Dywedodd yr Athro Thomas: 鈥淏ydd y gwaith hwn yn gyfraniad mawr i鈥檙 maes. Bydd yn gasgliad sylweddol o batrymau iaith gwahanol fathau o siaradwyr o鈥檙 Gymraeg 鈥 ar lafar ac ar bapur 鈥 ac yn gofnod byw o鈥檙 iaith.鈥
Bydd y corpws - casgliad mawr o destunau, neu gorff o ddeunydd ysgrifenedig neu lafar ar gyfer dadansoddiad ieithyddol - yn cynrychioli'r holl ffyrdd y mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio a'i chyfathrebu. Bydd hyn yn cynnwys iaith lafar, ysgrifenedig a digidol ac yn cwmpasu gwahanol feysydd, amrywiaethau iaith - rhanbarthol a chymdeithasol - a gwahanol gyd-destunau.
Daw鈥檙 cyfranwyr o blith y 562,000 o siaradwyr Cymraeg yn y DU, a byddant yn cyfrannu drwy dechnolegau digidol torfol a chydweithio cymunedol.
Caiff rhagor o fanylion am greu'r prosiect a'r ffyrdd y bydd defnyddwyr yn gallu cyfrannu, eu rhannu ar 么l dechrau'r prosiect yn 2016.
Dywedodd Dr Dawn Knight, o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n arwain y prosiect: "Rydym yn gobeithio datblygu'r corpws byw ac esblygol hwn, y cyntaf ar raddfa fawr, i gynrychioli'r Gymraeg ar draws gwahanol ddulliau cyfathrebu, a chael defnyddwyr cyfredol yr iaith i'w lenwi.
鈥淏yddwn yn ymgysylltu 芒'r cyhoedd mewn sawl ffordd ac yn defnyddio technolegau newydd i wneud hynny. Prosiect yw hwn am y defnydd o'r iaith yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol ledled y DU a bydd yn rhoi gwybodaeth i ni am sut mae鈥檙 defnydd o鈥檙 iaith yn amrywio ac yn newid - boed hynny'n wahaniaethau rhanbarthol neu'r defnydd o dreigladau - dros amser.
"Bydd y prosiect yn cael effaith gadarnhaol ar grwpiau gwahanol o ddefnyddwyr gan gynnwys cyfieithwyr, cyhoeddwyr, llunwyr polisi, datblygwyr technoleg iaith ac academyddion. Bydd pecyn cymorth pwrpasol yn cael ei greu ar gyfer athrawon a dysgwyr, gan gyfuno swyddogaethau sylfaenol corpws er mwyn ymchwilio i ddefnydd iaith."
Mae ystod y rhanddeiliaid ar gyfer y prosiect - gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, Cymraeg i Oedolion, Gwasg y Lolfa a Geiriadur Prifysgol Cymru 鈥 yn cynrychioli perthnasedd ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol y prosiect.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2015