拢1 miliwn o hwb ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer prosiect arbrofol i gynnal ymchwil i newid ymddygiad y diwydiant
Mae Alun Davies, y Dirprwy Weinidog dros Raglenni Ewropeaidd, wedi cyhoeddi y bydd prosiect peilot sy鈥檔 cynnal ymchwil arloesol er mwyn helpu busnesau i ddatblygu cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd yn cael 拢1 miliwn o arian Ewropeaidd.
Dr Carl Hughes o'r Ganolfan efo'r Dirprwy Weinidog Alun Davies, wedi'r cyhoeddiadBydd arian yr UE yn helpu Prifysgol 黑料不打烊 i ddefnyddio ymchwil newydd fel rhan o鈥檌 hastudiaeth arbrofol sy鈥檔 werth 拢2 filiwn i greu Canolfan Newid Ymddygiad Cymru.
Y nod yw sefydlu canolbwynt yn y Brifysgol fydd yn helpu busnesau i wella eu cynhyrchiant a chryfhau eu cadwyni cyflenwi trwy ddefnyddio ymchwil mewn newid ymddygiad. Disgwylir datblygu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd mewn meysydd fel iechyd a diogelwch yn ogystal 芒 chynhyrchiant a lles yn y gweithle. Hefyd, bydd yr ymchwil yn annog busnesau i gydweithio er mwyn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau fydd yn gallu defnyddio apps symudol, gwaith 3-D a gemau gan eu helpu i fod yn fwy cystadleuol ar lwyfan rhyngwladol.
Gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad am yr arian yn ystod ei ymweliad 芒鈥檙 Gogledd, yn y cyntaf o bedwar digwyddiad ymgynghori rhanbarthol ar ddyfodol Cronfeydd Strwythurol a Rhaglenni Datblygu Gwledig 2014-2020 yng Nghymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Raglenni Ewropeaidd, Alun Davies:
鈥淩wy鈥檔 falch iawn ein bod, trwy reoli ein cronfeydd Ewropeaidd yn llwyddiannus, yn gallu buddsoddi mewn gweithgareddau sy鈥檔 torri tir newydd ym maes ymchwil ac arloesedd ac sy鈥檔 helpu i greu economi 鈥榮mart鈥 a chystadleuol ar lefel ryngwladol i Gymru.
鈥淲rth edrych ymlaen, rydym yn benderfynol o wneud y mwyaf y gallwn ni o unrhyw arian Ewropeaidd a gawn yn y dyfodol ac rwy鈥檔 annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar sut i fuddsoddi cronfeydd Ewropeaidd yn y dyfodol er mwyn creu twf a swyddi.
鈥淢ae llawer o ansicrwydd yn bodoli o hyd am swm yr arian y bydd Cymru鈥檔 debygol o鈥檌 gael am fod cynigion i dorri cyllideb bresennol yr UE yn cael eu trafod yn ogystal a sut i ddosbarthu鈥檙 arian ymysg yr Aelod Wladwriaethau.
鈥淩wy鈥檔 poeni鈥檔 arw am hyn gan fod cronfeydd Ewropeaidd wedi bod ac yn parhau i fod yn hanfodol i droi Cymru鈥檔 wlad hyderus, uchelgeisiol ac entrepreneuraidd a chanddi economi amaethyddol gref. Yng Ngogledd Cymru yn unig, mae鈥檙 Cronfeydd Strwythurol eisoes wedi helpu 4,500 o bobl i gael gwaith a dros 17,000 o bobl i ennill cymwysterau, gan greu bron 3,520 o swyddi a 1,250 o fusnesau.
Rydym wedi bod yn pwyso am gael bargen decach i Gymru fel bod rhanbarthau 鈥榣lai datblygedig鈥 fel y Gorllewin a鈥檙 Cymoedd, sy鈥檔 cynnwys siroedd Gwynedd, Ynys M么n, Conwy a Sir Ddinbych, yn cael lefelau digonol o arian fel bod prosiectau ymchwil a datblygu fel Canolfan Newid Ymddygiad Cymru yn gallu parhau i helpu busnesau a rhoi hwb i鈥檙 economi.
鈥淩wy鈥檔 gobeithio y bydd Ewrop yn penderfynu ar gyllideb decach i Gymru a rhanbarthau tlotach eraill yn Ewrop ddechrau鈥檙 mis nesaf fel gall y rownd nesaf o raglenni ariannu Ewropeaidd yng Nghymru allu dechrau鈥檔 gynnar yn 2014.鈥
Wrth groesawu'r cyllid meddai鈥檙 Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊: "Mae'r cyllid hwn yn fuddsoddiad mawr gan Lywodraeth Cymru ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ac yn ymrwymiad gwirioneddol gan y ddau barti i gynnal yr ymchwil gorau posibl a gaiff effaith fawr yng Nghymru. Mae gan yr Ysgol Seicoleg hanes hir o'r ymchwil mwyaf blaenllaw'r byd i newid ymddygiad mewn meysydd fel bwyta'n iach, anhwylderau ymddygiad, rhianta ac addysg. Bydd y project newydd hwn yn adeiladu ar arbenigedd 黑料不打烊 i ddefnyddio gwyddor newid ymddygiad i ddylanwadu ar ystyriaethau sy'n bwysig i fusnesau lleol a chymdeithas gynaliadwy. Bydd Canolfan Newid Ymddygiad Cymru yn sefydlu t卯m amlddisgyblaethol o arbenigwyr a fydd yn gweithio ochr yn ochr 芒 chwmn茂au bach a chanolig lleol er lles y byd academaidd a'r gymuned leol hefyd. Mae鈥檔 broject cyffroes ac arloesol iawn.鈥
Dywedodd Dr Carl Hughes o Brifysgol 黑料不打烊 sy鈥檔 Ddirprwy Gyfarwyddwr prosiect Canolfan Newid Ymddygiad Cymru bod unrhyw ymchwil a datblygu a wneir yn hanfodol i gynyddu cynhyrchiant ac elw'r cwmn茂au sy鈥檔 cymryd rhan.
Dywedodd:
鈥淩ydym yn hapus iawn ein bod wedi cael help gan Lywodraeth Cymru i sefydlu鈥檙 ganolfan hon. Bydd yn rhoi cyfle i seicolegwyr Ymddygiadol, Gwyddonwyr Chwaraeon, Peirianwyr, Dylunwyr a Gwyddonwyr Cyfrifiadurol ddod ynghyd i helpu i newid ymddygiadau er mwyn ymdopi a heriau鈥檙 byd go iawn. Hefyd, bydd y gymuned a busnesau lleol yn cael helpu i lunio鈥檙 ymchwil.
鈥淢ae鈥檙 ganolfan hon yn enghraifft wych o鈥檔 gallu cynyddol i droi ymchwil o safon rhyngwladol yn rhaglenni ymarferol er lles yr economi leol ac economi Cymru.鈥
Un o鈥檙 sectorau sy鈥檔 debygol o gael budd o鈥檙 cynllun yw鈥檙 diwydiant niwclear a鈥檌 gadwyn gyflenwi o gwmn茂au bach a chanolig yn rhanbarth y Gogledd-orllewin. Disgwylir y bydd ymchwil i newid ymddygiad yn gallu gwella technegau diogelwch a helpu busnesau i weithredu鈥檔 well ac i fod yn fwy cystadleuol.
Elfen arall o鈥檙 prosiect fydd defnyddio ymchwil i hyfforddi staff yn y gweithle. Y nod fydd newid persbectif y staff. Gallai hynny arwain at lai o absenoldebau a chynyddu cynhyrchiant ymysg busnesau bach a chanolig a chyrff mwy.
Mae croeso i unigolion, busnesau bach a chanolig a chyrff eraill sydd 芒 heriau penodol yn eu gweithleoedd i gysylltu 芒鈥檙 ganolfan i gael rhagor o wybodaeth.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan, e-bostiwch David Menichino, Rheolwr Datblygu Busnes.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2013