9bach a chyfeillion i berfformio yn Pontio yn ystod wythnos yr Eisteddfod
Wrth i wythnos Eisteddfod Genedlaethol M么n agosau, mae Pontio wedi cyhoeddi y bydd 9bach a chyfeillion yn dychwelyd i Theatr Bryn Terfel i berfformio LLECHI, gwaith ar y cyd newydd sbon sy鈥檔 cynnwys agweddau gweledol, cerddorol ac awyrol ac wedi ei ysbrydoli gan thema鈥檙 chwarel a hanes Bethesda .
Cafodd LLECHI ei berfformio yn gyntaf i theatr lawn fel rhan o raglen agoriadol Pontio y llynedd. Daw cyd-gynhyrchiad 9bach a Pontio a 9bach, Lleuwen Steffan, Si芒n James, Caleb Rhys a Ch么r y Penrhyn, yn ogystal 芒 Vertical Dance Kate Lawrence, yr actor sgrin a llwyfan John Ogwen a鈥檙 bardd llafar Martin Daws, Awdur Ieuenctid Cymru 2013-16 at ei gilydd i berfformio cymysgedd electig o gerddoriaeth, dawns awyrol a barddoniaeth.
Dywedodd Lisa J锚n o 9bach, 鈥O'r cychwyn un, mae Llechi 鈥榙i bod yn sbeshal鈥c mi wnaethon ni deimlo fo ar y llwyfan y noson honno, dod allan i'r gynulleidfa a gweld bod nhw 鈥榙i deimlo fo hefyd... nerth ein cyndeidia鈥 a'r teimlad 鈥榥a o ddathliad. Cymuned yn dod at ei gilydd a chreu...popeth o'r galon efo lot o gariad - 鈥榙a ni methu aros i neud o eto.鈥
Ychwanegodd Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig Pontio, 鈥Roedd LLECHI yn un o nifer o uchafbwyntiau i mi yn y rhaglen agoriadol. Daeth a hanes, celfyddyd a thraddodiad y diwydiant llechi a鈥檌 arwyddoc芒d a dylanwadau artistig i genhedlaeth newydd. Ein nod, trwy gynnig dau gyfle arall i brofi LLECHI yn ystod wythnos yr Eisteddfod yw i gyflwyno鈥檙 gwaith cyffrous hwn i gynulleidfa ehangach yn enwedig gan fod yr Eisteddfod ar garreg ein drws.鈥
LLECHI
Theatr Bryn Terfel, Pontio, 黑料不打烊
7 a 9 Awst, 8pm
拢15/拢13 dros 60/拢12 myfyrwyr a rhai dan 18 oed
neu 01248 38 28 28
Fe鈥檌 gwnaed yn bosibl ail-lwyfannu LLECHI drwy gefnogaeth hael Cronfa 黑料不打烊.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017