A all gogledd Cymru arwain ym maes yr economi werdd?
Gydag un rhan o dair o fusnesau鈥檙 DU yn buddsoddi mewn ymchwil a datblygu cynnyrch a gwasanaethau 鈥榞wyrdd鈥, a all gogledd Cymru fod yn fodel i鈥檙 economi werdd a chael budd ohoni?
Cynhelir digwyddiad pwysig ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ar 20 Tachwedd gydag arweinwyr yn y maes yn cyfarfod i drafod sut y gall gogledd Cymru fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan yr economi werdd. Cyd-Greu Economi Werdd yw鈥檙 gyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau cyffrous i fusnesau, asiantaethau, y llywodraeth, ymgyrchwyr ac entrepreneuriaid cymdeithasol ddod at ei gilydd i helpu i greu newid go iawn. Rhaid cofrestru ymlaen llaw ar wefan y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd cyn dod i鈥檙 digwyddiad yng Nghanolfan Rheolaeth y Brifysgol ym Mangor.
Meddai Peter Davies, Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru, cyn y digwyddiad:
鈥淢ae 鈥榚conomi werdd鈥 yn gwarchod natur, gwella cymunedau ac yn creu gwerth mewn byd lle mae cyfyngu cynyddol ar adnoddau. Mae鈥檔 rhaid i fesurau o鈥檙 fath gyd-fynd 芒 chreu cyfleoedd newydd 鈥 swyddi tymor hir, gwelliannau o ran lles, enillion effeithlonrwydd, lleihau costau yn ogystal 芒 chynnyrch newydd ac arloesi.
Mae defnyddio adnoddau鈥檔 fwy effeithlon a gwarchod ac adnewyddu asedau naturiol yn sicrhau gwelliannau hirdymor i ansawdd ein bywyd, ac yn gweld gwerth yn yr asedau naturiol sydd ddim yn amlwg yn yr economi ond sydd wedi bod yn sail i lwyddiant economaidd dros y canrifoedd.鈥
Yn 么l Oliver Greenfield, o鈥檙 Gynghrair Economi Werdd, un o鈥檙 prif siaradwyr yn y digwyddiad, 鈥淢ae鈥檔 rhaid i bob busnes roi sylw i鈥檙 trawsnewid hwn i economi werdd er mwyn bod ar y blaen a llwyddo mewn dyfodol a fydd yn wahanol iawn. Mae鈥檔 rhaid i ni gyd fod yn ddewr a chreu gweledigaeth economaidd newydd.鈥
Fel yr esboniodd Stuart Bond o鈥檙 Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd ym Mhrifysgol 黑料不打烊, sy鈥檔 cydlynu鈥檙 digwyddiad:
鈥淕all datblygu economi werdd i ogledd Cymru arwain at fuddsoddi sylweddol mewn busnesau a chreu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cynaliadwy. Ond er mwyn cyflawni hyn, mae angen gwneud newidiadau mawr i鈥檔 heconom茂au, polis茂au, technolegau a dulliau cynhyrchu a defnyddio. Er mwyn i ogledd Cymru gyrraedd ei llawn botensial fel arweinydd byd-eang ym maes cynaliadwyedd a鈥檙 economi werdd, mae鈥檔 rhaid i ni feddwl yn strategol yngl欧n 芒 sut i wireddu鈥檙 newid hwn.鈥
Yn y digwyddiad cyntaf hwn, bydd meddylwyr strategol o鈥檙 Gynghrair Economi Werdd, Cynnal Cymru, y Sefydliad Economeg Newydd, Prifysgol 黑料不打烊 a busnesau a diwydiant yn dod at ei gilydd i drafod y manteision a ddaw yn sgil economi werdd, a sut y gallwn fod yn rhan ohoni. Sut fyddai economi werdd yng ngogledd Cymru yn edrych a dychmygu ffyrdd o wireddu鈥檙 manteision hyn yng ngogledd Cymru.
Bydd y gyfres 鈥楥yd-Greu Economi Werdd鈥 yn helpu i roi fframwaith i gyflawni hyn. Yn arbennig, bydd yn helpu i ganfod lle mae鈥檙 angen a鈥檙 potensial mwyaf, yn ffordd o ddysgu o brofiadau blaenorol, adnabod a mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 rhwystrau sydd eisoes yn bodoli, cefnogi datblygu economi gylchol a gwneud gogledd Cymru鈥檔 lle mwy deniadol i fuddsoddiadau gwyrdd.
Mae鈥檙 digwyddiad yn rhan o broject ehangach Rhwydwaith Economi Werdd sydd yn ei dro yn rhan o broject a gyllidir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Ei swyddogaeth yw annog a chynghori busnesau bach a chanolig yn ardal 鈥業nterreg鈥 gogledd orllewin Cymru sydd eisiau gwybod mwy am yr 鈥榚conomi werdd鈥 a sut y gall helpu eu busnesau.
I gael economi werdd bydd rhaid i bob busnes fod yn rhan o鈥檙 trawsnewid hwn. Mae鈥檙 rhwydwaith Economi Werdd yn helpu busnesau i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw wrth ymgymryd 芒鈥檙 agenda gwyrdd, gall nifer ohonynt fod yn gamau bach a syml. Os hoffech ddechrau鈥檙 daith tuag at ddyfodol gwell gyda busnesau a sefydliadau eraill o鈥檙 un meddylfryd, cysylltwch 芒 Sue Francis (s.francis@bangor.ac.uk) i fod yn rhan o鈥檙 project.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2013