A all planhigion gymryd lle cyfansoddion sy'n deillio o olew?
Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn ymateb i鈥檙 cynnydd parhaus ym mhris olew a鈥檙 modd y dihysbyddir cyflenwadau tanwyddau ffosil yn fyd-eang, drwy gynnal ymchwil arloesol i ddefnydd cyfansoddion defnyddiol sydd i鈥檞 cael mewn planhigion cyffredin. Y gobaith yw y bydd y gwaith yn rhoi鈥檙 genhedlaeth nesaf o fio-gynhyrchion a thanwydd, ac efallai hyd yn oed leihau ein dibyniaeth ar olew.
ch-dd:Claire-Marie Grizaud, Sederma; Athro Mark Baird, Dr Vera Thoss, Ysgol Cemeg ; Andrew Gallagher, Phynova; Athro Monique Simmonds, Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew; Athro Ed Kosier, Nextec; Dr Rob Elias, Canolfan BioGyfansoddion; Dianne Irwin, Syngenta Cynhaliwyd ail gynhadledd: 'Plants as Providers of Fine Chemicals' er mwyn tynnu sylw at ddatblygiadau diweddar yn y maes hwn ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Croesawyd arbenigwyr ym maes beioburo planhigion i鈥檙 Ysgol Cemeg. Rhoddwyd prif anerchiad y gynhadledd gan yr Athro Monique Simmonds FRES, Dirprwy Geidwad Labordy Jodrell a Phennaeth Gr诺p Defnyddio Planhigion yn Gynaliadwy, Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew.
Mae Prifysgol 黑料不打烊 eisoes yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o fusnesau lleol sy'n gweithio yn y maes. Roedd rhai o鈥檙 rhain yn bresennol i gyflwyno鈥檜 gwaith cyfredol i'r gynhadledd. Fe wnaeth rhoi sylw i鈥檙 gwaith hwn trwy鈥檙 gynhadledd hefyd amlygu cyfleoedd eraill i gydweithio sy'n bodoli yn y maes arloesol a chyffrous yma.
Un enghraifft o鈥檙 cydweithio yw鈥檙 berthynas rhwng Superfix Supplements ltd a'r Ysgol Cemeg. O ganlyniad i dair blynedd o gydweithio, mae鈥檙 cwmni wedi gwella rheoli ansawdd eu cynnyrch gan arwain at gynnydd yn hyder eu cwsmeriaid yn eu cynnyrch.
Adnabod y planhigion brodorol sy鈥檔 cynnwys y cyfansoddion biolegol gweithgar yw鈥檙 agwedd fwyaf heriol ar y maes hwn. Y nod yw ehangu鈥檙 ystod o blanhigion a ddefnyddir a gwneud y gadwyn gyflenwi yn fwy gwydn.
Trefnwyd y gynhadledd gan Dr Vera Thoss, academydd yn yr Ysgol Cemeg, gan dynnu sylw at y datblygiadau diweddar mewn cemeg planhigion ac, yn arbennig, y defnydd o gyfansoddion wedi鈥檜 puro a geir o blanhigion. Maent yn cael eu defnyddio fel cyfryngau amddiffyn planhigion, fel cynhwysion cosmetigau ac at amrywiaeth o ddibenion fferyllol neu ddiwydiannol.
Cyflwynwyd posteri鈥檔 esbonio ymchwil wyddonol yn y gynhadledd. Enillydd y wobr am y poster gorau oedd Mohammad Elahmar, myfyrwyr PhD ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Roedd y poster yn disgrifio鈥檌 waith yn ymwneud 芒 thynnu cemegau defnyddiol o eithin.
Am fwy o fanylion am raglen y gynhadledd ac i weld y cyflwyniadau ewch i'r wefan:
Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2012