A yw pobol yn cael eu geni鈥檔 brynwyr ynteu eu gwneud yn brynwyr?
A yw pobol yn cael eu geni鈥檔 brynwyr ynteu eu gwneud yn brynwyr?
A yw pobl yn cael eu denu at yrfa mewn prynu oherwydd eu sgiliau neu eu tueddfryd? Pa nodwedd yw鈥檙 pwysicaf ar gyfer prynwr: deallusrwydd emosiynol neu IQ?
A yw llwyddo ym maes caffael yn golygu bod gennych amrywiaeth o sgiliau y gallwch eu datblygu i fynd ymlaen, neu ai eich math o bersonoliaeth sy鈥檔 eich denu i鈥檙 proffesiwn oherwydd bod gennych y nodweddion priodol i lwyddo?
Bydd trawstoriad o brynwyr yn y sector cyhoeddus yn dod at ei gilydd yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol 黑料不打烊 ddydd Gwener, 2 Mawrth i brofi鈥檙 gosodiad hwn gan ddefnyddio profion personoliaeth ysgafn ac offer proffilio cymhwysedd. Y nod yn y pen draw yw gwneud ymchwil, datblygu atebion ymarferol a darparu digwyddiadau hyfforddi i brynwyr a chyflenwyr bach er mwyn gwella鈥檙 profiad caffael.
"Rydym yn gobeithio y bydd cyfranogwyr yn dysgu rhywbeth amdanynt eu hunain a pham y maent yn gwneud eu math o waith. Trwy edrych ar beth yw bod yn brynwr, byddwn yn dangos pa alluoedd caffael hanfodol sydd eu hangen. Bydd hyn yn cyfrannu at ein gwaith ymchwil ac yn dylanwadu ar y pynciau a ddewisir ar gyfer gweithdai yn y dyfodol," eglurodd Kay Smith, Arbenigwr Caffael Cyhoeddus project 鈥楨nnill wrth Dendro鈥 Ysgol y Gyfraith, Prifysgol 黑料不打烊, sydd hefyd yn cyfrannu at ddysgu鈥檙 pwnc yng Nghanolfan Rheolaeth y Brifysgol.
Meddai Kay: 鈥淢ae llawer o gyrsiau ar gael sy鈥檔 darparu hyfforddiant sgiliau traddodiadol. Roeddem ni eisiau dechrau yn y dechrau trwy ystyried pa fath o waith yw prynu, a'r math o berson sy鈥檔 cael ei ddenu at y proffesiwn neu sy鈥檔 llwyddo yn y maes.鈥
Mae angen mwy na sgiliau 鈥榗aled鈥 traddodiadol gan fod angen sgiliau meddal hefyd. Caiff y sgiliau hyn eu hanwybyddu'n aml oherwydd bod y r么l wedi datblygu o fod yn ffordd o feddwl traddodiadol o gyfnewid i broffesiwn sydd 芒 r么l strategol ym mhob sefydliad.
鈥淢ae'r r么l strategol hon yn gofyn am bersbectif gwahanol. Mae prynu yn fwy o gelfyddyd na gwyddoniaeth, yn arbennig yn y sector cyhoeddus lle gellir dadlau mai dylanwadu yw鈥檙 sgil pwysicaf. O weithio yn y sector cyhoeddus, credaf fod deallusrwydd emosiynol yn aml cyn bwysiced ag IQ felly mae angen datblygu sgiliau meddal. Gobeithiaf y bydd y gweithdy cyntaf hwn a鈥檙 rhai eraill at y dyfodol yn delio 芒 deallusrwydd emosiynol a mentora yn gyfle i wella鈥檙 sgiliau hyn.鈥
Meddai鈥檙 Athro Dermot Cahill, Arweinydd y Project Ennill wrth Dendro a Phennaeth Ysgol y Gyfraith, Prifysgol 黑料不打烊: 鈥淕obeithio bydd y gweithdy hwn yn gyflwyniad difyr a llawn gwybodaeth i'r prosiect Ennill wrth Dendro ac yn ein helpu i ddatblygu syniadau ar gyfer fframwaith cymhwysedd caffael. Hon yw鈥檙 gyntaf mewn cyfres o weithdai rydym yn bwriadu eu datblygu ar gyfer prynwyr, i gyflawni nod ein project o gyfrannu at ddatblygiad tymor hir staff caffael ac i fod yn sail wybodaeth i鈥檔 hymchwil. Cynhelir cyfres gyfochrog o weithdai hefyd ar gyfer cyflenwyr bach yng Nghymru ac Iwerddon.鈥
Sefydlwyd y project Ennill wrth Dendro i wneud ymchwil, datblygu atebion ymarferol a darparu digwyddiadau hyfforddi i brynwyr a chyflenwyr bach er mwyn gwella caffael.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2012