Academydd o Fangor i deithio i Wlad Pwyl
Yr wythnos hon, bydd Dr Aled Llion Jones o Ysgol y Gymraeg, yn teithio i brifysgolion yng Ngwlad Pwyl, yn dilyn gwahoddiadau i ddarlithio ar lenyddiaeth ganoloesol Gymraeg. Hefyd, bydd yn cyfrannu at brosiectau sy鈥檔 ymwneud 芒 chyfieithu llenyddiaeth gyfoes rhwng y ddwy iaith.
Mae dwy brifysgol yng Ngwlad Pwyl yn cynnig rhaglenni i fyfyrwyr sydd 芒 diddordeb yn yr iaith Gymraeg a ll锚n Cymru. Ym Mhrifysgol Gatholig Lublin, yn ne-ddwyrain y wlad, dysgir y Gymraeg ers cyn cwymp Comiwnyddiaeth; yr ail sefydliad yw Prifysgol Adam Mickiewicz ym Mhoznan, yn y gorllewin. Bydd Dr Jones yn ymweld 芒鈥檙 ddwy brifysgol hyn.
鈥淢ae鈥檔 bleser cael dychwelyd i Wlad Pwyl,鈥 meddai Dr Jones, a dreuliodd bum mlynedd yn dysgu yn Lublin cyn iddo ddod i Fangor. 鈥淢ae bob tro鈥檔 werth cofio fod yr iaith Gymraeg yn iaith ryngwladol 鈥 mae鈥檔 cael ei siarad a鈥檌 hastudio ledled Ewrop, yn ogystal ag yn Asia, Awstralasia a chyfandiroedd America.
鈥淯n o鈥檙 prif resymau 鈥檙wy鈥檔 dod i Wlad Pwyl yr wythnos hon yw i ddatblygu cysylltiadau rhwng 黑料不打烊 a鈥檙 sefydliadau yn Lublin a Phoznan sy鈥檔 dysgu Cymraeg. Rwy鈥檔 ddiolchgar i鈥檙 Coleg Cenedlaethol Cymraeg am ddyfarnu imi grant a fydd yn fy nghynorthwyo i ddatblygu鈥檙 gwaith yma dros y flwyddyn sydd i ddod.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2012