Academyddion ym Mangor yn denu grantiau o鈥檙 Academi Brydeinig
Bydd canlyniadau anfwriadol y camau gorfodi i reoleiddio banciau yn cael eu craffu mewn astudiaeth newydd gan Ysgol Busnes 黑料不打烊. Mae Dr Danny McGowan a鈥檙 Athro Klaus Schaeck wedi cael grant o 拢10,000 gan yr Academi Brydeinig i weld a yw鈥檙 rheoliadau sy鈥檔 gorfodi banciau i roi trefn ar eu gweithgareddau yn cael canlyniadau anfwriadol ar ddefnyddwyr a chwmn茂au.
Dywedodd Dr McGowan mewn cyfweliad, 鈥淵n ystod yr argyfwng ariannol diweddar cymrwyd camau sylweddol gan lywodraethau a rheoleiddwyr i orfodi banciau i roi trefn ar eu taenlenni. Yr enghraifft fwyaf eithafol oedd gwladoli Northern Rock ond roedd gorfodi鈥檙 uniad rhwng Lloyds-HBOS yn enghraifft nodedig arall鈥. Er mai bwriad yr ymyriadau hyn oedd adfer sefydlogrwydd mewn banciau oedd wedi mynd yn rhy agored i'r farchnad forgeisi credyd gwael, un o鈥檙 canlyniadau oedd bod y banciau wedi rhoi鈥檙 gorau i fenthyca i ddefnyddwyr ac entrepreneuriaid.
Bydd academyddion 黑料不打烊 yn ystyried yn eu hymchwil a yw sgil effeithiau rheoleiddio'r banciau yn cynnwys cyfangu ar gyfradd twf economaidd a gostyngiad ym maint entrepreneuriaeth. Yn aml nid oes gan ddefnyddwyr a chwmn茂au ddigon o gyllid eu hunain ac felly maent yn ddibynnol iawn ar fanciau i gael cyllid buddsoddi a dechrau busnesau. Mae鈥檔 bwysig astudio'r cyswllt hwn gan ei fod yn gofyn cwestiynau pwysig i lunwyr polis茂au: trwy gymryd camau i achub banciau gallant niweidio sectorau eraill o鈥檙 economi. Mae鈥檙 ymchwil yn mynd i鈥檙 afael 芒 chwestiwn allweddol sef deall beth yw maint yr effeithiau hyn ac a fyddant yn parhau.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2012