Achrediad safon aur i archifau鈥檙 Brifysgol
Sarah Horton o Adain Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r Achrediad I Elen Wyn Simpson, yng nghwmni'r Is-Ganghellor, yr Athro John G Hughes.Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol 黑料不打烊 wedi ennill yr hyn a ystyrir y 鈥榮afon aur鈥 o ran achredu rheolaeth archifau.
Roedd Archifau鈥檙 Brifysgol ymysg 11 o geisiadau newydd a lwyddodd i gael , i ddod yn un o 62 gwasanaeth archifau sydd wedi eu hachredu yn y Deyrnas Unedig.
Meddai Elen Simpson, Pennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol:
鈥淩oeddem yn awyddus i gyrraedd safon yr achrediad gan ei fod yn diffinio ymarfer dda mewn gwasanaethau archifau ar draws y Deyrnas Unedig. Mae鈥檙 achrediad hefyd yn ein galluogi i gymryd rhan mewn cynllun sydd yn cefnogi datblygiad ein gwasanaethau i鈥檙 dyfodol yn erbyn safon y cytunwyd arni鈥檔 genedlaethol.鈥
Meddai Sue Hodges, Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd ac Archifau, Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淩ydym wrth ein boddau bod ein Harchifau wedi ennill y fath gydnabyddiaeth am safon uchel y gwasanaeth sy鈥檔 cael ei ddarparu, drwy ddiogelu ein treftadaeth a thrwy sicrhau bod y cyhoedd, myfyrwyr ac ymchwilwyr yn cael mynediad at gyfoeth y dogfennau sydd o fewn archifau鈥檙 brifysgol. Mae鈥檙 achrediad yn rhan o鈥檔 strategaeth i ymestyn a datblygu ein gwasanaethau er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gwrdd ag anghenion ein defnyddwyr. Llongyfarchiadau gwresog i鈥檙 T卯m Archifau sydd wedi gweithio鈥檔 galed iawn i gael yr achrediad鈥
Mae鈥檙 Parch Ddoethur Dafydd Wyn Wiliam wedi bod yn un o ddarllenwyr selocaf yr Archifdy ers dros hanner canrif, ac meddai:
鈥淟longyfarchiadau mawr i鈥檙 archifdy ar dderbyn yr achrediad yma. Dwi wedi treulio oriau lawer yn pori drwy鈥檙 adnoddau sydd ganddynt ac yn sicr mae鈥檙 adran yn gaffaeliad mawr i鈥檙 brifysgol. Yr archifdy sy鈥檔 gwneud y brifysgol yn sefydliad unigryw i astudio ynddo.鈥
Dywedodd Gareth Evans-Jones, myfyriwr 么l-radd yn yr Ysgol Athroniaeth a Chrefydd:
鈥淗aedd补鈥檙 staff y gydnabyddiaeth loyw a roddwyd iddynt yn ddiweddar am eu gwasanaeth tra effeithiol yn gofalu am y casgliadau archifol unigryw sydd yn eu gofal, ac am y modd y maent yn cyflwyno鈥檙 holl ddefnyddiau i bawb a ddaw ar eu gofyn. Clod haeddiannol yn wir.鈥
Ymysg yr archifau eraill oedd yn derbyn yr achrediad roedd yr Imperial War Museums, y National Meteorological Library and Archive 补鈥檙 Victoria and Albert Museum
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2017