Acol芒d pellach i fardd nodedig
Mae Carol Rumens, Athro Ysgrifennu Creadigolyn yr Ysgol Ieithoedd, llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth wedi ennill gwobr Michael Marks am y bamffled orau o farddoniaeth a gyhoeddwyd rhwng Medi 2017 a Medi 2018. Dyfarnwyd y Wobr ar gyfer Bezdelki/Small Things a lansiwyd yn Pontio yn y gwanwyn.
Yn cael ei chynnal gan Ymddiriedolaeth Wordsworth, mae鈥檙 wobr yn cynnwys cyfnod preswyl yng Ngwlad Groeg y gwanwyn nesaf, a hynny yng Nghanolfan Astudiaethau Helenaidd Prifysgol Harvard.
Meddai鈥檙 Athro Rumens, wedi iddi dderbyn y wobr:
鈥淩oeddwn wedi fy syfrdanu pan glywais fy enw鈥檔 cael ei adrodd, yn anghrediniol hyd yn oed. Mae鈥檔 eich annog ac mae beirdd angen anogaeth ar bob cam o鈥檜 bywyd fel ysgrifenwyr, gyda phobl h欧n fel fi prin yn llai na dechreuwyr rhonc.
Dydw i ddim yn sicr eto beth yn union sydd ynghlwm 芒鈥檙 cyfnod preswyl, ond dywedodd cyn-enillydd, a roddodd darlleniad yn y seremoni Gwobrwyo, ei fod yn brofiad bythgofiadwy: roedd hi wedi ei hamgylchynu gan bobl oedd yn caru barddoniaeth ac eisio trafod y grefft yn ddi-baid. Rwy鈥檔 gobeithio dysgu rhywbeth am farddoniaeth gyfoes Roegaidd, ac efallai cael amser i ysgrifennu. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at y profiad yn fawr, ac yn gobeithio y caf ddod 芒 syniadau ffres i rannu efo鈥檙 beirdd-fyfyrwyr yn fy seminarau.鈥
Cafodd Bezdelki/Small Things ei gyhoeddi er cof am bartner Carol, sef Yuri Drobyshev o Rwsia. Cyhoeddwyd y bamffled gan The Emma Press, a oedd hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori 'cyhoeddwr pamffledi gorau'.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2018