Addysg gwyddoniaeth yng Nghymru a’r goblygiadau ar gyfer economi Cymru
Mae Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn dod a’r ŵyl wyddoniaeth bwysig hon, a fydd yn para am wythnos gyfan, i’r ddinas. Cynhelir digwyddiadau a fydd yn apelio at bobol o bob oedran a diddordeb. Bydd yr ŵyl, a gynhelir rhwng 11-20 Mawrth 2011, yn agor gyda Thrafodaeth Banel ar addysg gwyddoniaeth yng Nghymru.
A ydym yn cynhyrchu’r wyddoniaeth a’r gwyddonwyr y mae arnom eu hangen i gynllunio ar gyfer dyfodol Cymru? Sut all gwyddoniaeth ein cynorthwyo i ymateb i sialensiau sy’n wynebu Cymru heddiw ac yn y dyfodol? A all gwyddoniaeth helpu economi Cymru i dyfu? A ydym yn rhoi sylw priodol i’r materion hyn? A ydym yn manteisio’n llawn ar y wybodaeth wyddonol sydd eisoes ar gael i ni? Sut allem ni annog mwy o bobol ifanc i ymddiddori mewn gwyddoniaeth a chael eu hysbrydoli ganddi?
Beth yw eich barn chi?
Gall y cyhoedd, disgyblion ysgol a myfyrwyr ofyn cwestiynau i banel o arbenigwyr mewn Trafodaeth Banel ar Wyddoniaeth ac Addysg a gynhelir am 12.00 ddydd Gwener 11 Mawrth yn Neuadd Prichard Jones y Brifysgol.
Ni chodir tâl mynediad ond gofynnir i chi archebu eich lle ar-lein. Gellwch anfon eich cwestiynau ar-lein hefyd :
Yn cymryd rhan yn y drafodaeth banel bydd John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru, Yr Athro Terry Hewitt, Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ ac arbenigwr ar gyfrifiaduro gwyddonol, Yr Athro Sian Hope, Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, Dr James Ingram, sydd wedi graddio o Fangor ac yn ymgynghorydd i’r diwydiant ynni adnewyddadwy a Mr John Idris-Jones, Pennaeth Economeg-Gymdeithasol yn Magnox North.
Mae digwyddiadau eraill yn ystod yr Ŵyl Gwyddoniaeth yn cynnwys teithiau cerdded gydag arweinydd, sgyrsiau, ‘Gwyddoniaeth Wyllt’ gyda Iolo Williams yng Ngardd Botaneg Treborth a dyddiau Eco-wyddoniaeth i ysgolion - mae pob digwyddiad cyhoeddus am ddim- cofrestrwch i archebu eich lle drwy’r wefan:
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2011