Addysg Gyfreithiol Glinigol

Diolch i bartneriaeth newydd cyffrous gyda gwasanaethau Cyngor ar Bopeth a 30 o gwmn茂au cyfreithiol, mae gan fyfyrwyr y Gyfraith 黑料不打烊 gyfle gwerthfawr i ddatblygu a defnyddio eu gwybodaeth gyfreithiol mewn sefyllfa bywyd go iawn, gan wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Mae dros 60 o fyfyrwyr wedi ymuno 芒'r prosiect gyda Chlinig y Gyfraith Gogledd a Chanolbarth Cymru. Fe'u hyfforddir mewn meysydd allweddol fel teulu, gofal cymunedol a chyflogaeth ac mae eu gwaith yn cael ei oruchwylio gan arbenigwyr o gwmn茂au cyfreithiol.
Mae'r profiad hwn nid yn unig yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cyfreithiol a phobol hanfodol, ond hefyd yn rhoi profiad bywyd go iawn amhrisiadwy sy'n gwella eu rhagolygon cyflogadwyedd ar gyfer y dyfodol. Oherwydd y pandemig, rhoddwyd systemau ar waith i sicrhau y gallai'r clinig weithredu fel clinig rhithiol, gan ganiat谩u i fyfyrwyr gymryd rhan waeth ble maen nhw'n byw.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2021