Adnabod Ymlysgiaid dan fygythiad
Llun a hawlfraint A Malhotra Mae Dr Anita Malhotra o Ysgol Gwyddorau Biolegol 黑料不打烊 yn un o 200 o arbenigwyr blaenllaw ar ymlusgiaid sydd wedi cyd-awduro papur sy鈥檔 asesu鈥檙 perygl o ddifodiant i restr o 1,500 o ymlusgiaid a ddewiswyd ar hap o bob cwr o鈥檙 byd.
Mae鈥檙 papur, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas S诺olegol Llundain (The Zoological Society of London neu ZSL) ar y cyd efo鈥檙 Comisiwn Goroesedd Rhywogaethau (IUCN Species Survival Commission) yn adrodd bod 19% o ymlusgiaid y byd yn wynebu difodiant. Mae鈥檙 adroddiad llawn (yn Saesneg) yma:
Arbenigedd penodol Dr Malhotra yw鈥檙 wiber bydew Asiaidd. 鈥淵n ystod fy ngwaith maes mewn sawl rhan o Asia, rwyf wedi cael y cyfle i brofi鈥檔 uniongyrchol y bygythiadau mae ymlusgiaid yn eu hwynebu, o ddinistrio eu cynefinoedd, eu hela ar gyfer bwyd, lledr neu鈥檙 ffaith syml eu bod yn brin. Yn ogystal, fel tacsonomegydd sydd yn ddiweddar wedi canfod rhywogaeth newydd o wiber bydew, rwy鈥檔 ymwybodol y gallai nifer o rywogaethau sydd ar hyn o bryd yn cael eu hystyried yn gyffredin a dim o dan fygythiad, fod yn rhan mewn gwirionedd o rywogaethau tebyg iawn iawn nad ydynt wedi eu hadnabod eto a gall y rhywogaethau unigol hyn fod o dan lawer mwy o fygythiad. Felly mae鈥檙 amcangyfrif yn y papur hwn o鈥檙 niferoedd sydd o dan fygythiad yn debyg o fod yn geidwadol iawn.鈥
Mae鈥檙 ymlusgiad Anolis bimaculatus o鈥檙 Antilles Lleiaf (llun) yn un o鈥檙 rhywogaethau a gynhwyswyd yn yr astudiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2013