Adnoddau Dysgu i Fyfyrwyr Nyrsio yn y Gymraeg
Mae adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr Nyrsio, sydd eisoes wedi ennill Gwobr Addysg, Gwobrau鈥檙 Gymraeg Mewn Gofal Iechyd GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cael eu lansio鈥檔 swyddogol ar stondin Prifysgol 黑料不打烊 ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 11.00 ddydd Gwener, 5 Awst 2011.
Wedi derbyn cefnogaeth a nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu menter, bu t卯m o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol 黑料不打烊 yn arwain project i ddatblygu adnoddau dysgu ar gyfer eu myfyrwyr nyrsio, er mwyn iddynt dderbyn hyfforddiant arbennig mewn nyrsio pobol ag Anableddau Dysgu, a hynny drwy鈥檙 Gymraeg.
Yn ogystal ag ymestyn y ddarpariaeth addysg uwch drwy鈥檙 Gymraeg, bydd y deunyddiau dysgu鈥檔 cyfrannu at y nod o sicrhau bod pobol efo anableddau dysgu yn derbyn yr un safon gofal iechyd 芒 gweddill y gymdeithas, rhywbeth a nodwyd nad yw鈥檔 digwydd ar lefel cenedlaethol ar hyn o bryd.
Bydd yr adnoddau dwyieithog ar gael nid yn unig i hyfforddi myfyrwyr nyrsio ym Mhrifysgol 黑料不打烊, ond hefyd ar gyfer myfyrwyr Nyrsio mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, gan safoni鈥檙 ddarpariaeth drwy Gymru yn y maes pwysig hwn a鈥檌 chynnig yn Gymraeg am y tro cyntaf. Bydd yr adnoddau hefyd ar gael ar gyfer unrhyw staff sy鈥檔 gweithio ym maes gofal pobol efo anableddau dysgu ac sy鈥檔 dymuno gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, neu鈥檔 gwneud hynny eisoes.
Meddai Ruth Wyn Williams, Cymrawd Dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol, a fu鈥檔 arwain y Project a dderbyniodd 拢1,000:
鈥淢ae disgwyl i bob myfyriwr sy鈥檔 graddio fod wedi magu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth sylfaenol o faes nyrsio anabledd dysgu. Rydym hefyd yn ymwybodol o鈥檙 angen i ddarparu staff nyrsio proffesiynol i ymarfer mewn sefyllfa ddwyieithog.鈥
Meddai Dr Dafydd Trystan o鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
鈥楻wy鈥檔 falch iawn fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cefnogi datblygiad adnoddau ym maes Nyrsio. Mae tystiolaeth annibynnol yn dangos fod y gallu i ymarfer yn broffesiynol yn ddwyieithog yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd y claf, ac felly mae鈥檔 bwysig iawn fod y cyfleoedd i fyfyrwyr nyrsio astudio yn Gymraeg yn ehangu鈥檔 sylweddol iawn.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011