Agor y Llen ar Drysor Cudd
Archifydd Elen Simpson gyda rhai dogfennau o gasgliad papurau Stad y Penrhyn.Bydd trysor o adnoddau hanesyddol lleol yn cael eu harddangos i鈥檙 cyhoedd wrth i Adran Archifau Prifysgol 黑料不打烊 gynnal Diwrnod Agored ar Chwefror 26 rhwng 1.00 a 4.30.
Er bod yr archifau ar agor yn ddyddiol i ymchwilwyr, myfyrwyr a haneswyr lleol, ac yn wir i unrhyw un sy鈥檔 ymddiddori mewn hanes, astudio鈥檙 dogfennau sydd ar gadw yno, mae鈥檙 Adran Archifau鈥檔 gwahodd ymwelwyr yno ar y Diwrnod Agored i weld y casgliad o adnoddau hanesyddol, ac i ddysgu sut i鈥檞 defnyddio. Eleni, i gyd-fynd 芒 chanmlwyddiant a hanner yr ymfudo o Gymru i鈥檙 Wladfa ym Mhatagonia, Cymru a鈥檙 Byd yw thema鈥檙 diwrnod.
Bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i weld rhai o brif drysorau鈥檙 Archif yn yr Ystafell Ddarllen. Bydd y rhain yn cynnwys ffotograffau a dogfennau鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 Wladfa yn Chubut a Chwm Hyfryd. O ddiddordeb hefyd fydd dyddiaduron y cenhadon aeth i Fryniau Casia, yr India yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn ogystal 芒 bod yn gyfrifol am storio a diogelu dogfennau archif hanes cynnar y Brifysgol ei hun, mae鈥檙 Archif yn cadw dogfennau a chasgliadau a roddwyd i鈥檞 gofal er mwyn eu cadw鈥檔 ddiogel.
Un ffactor sy鈥檔 gyffredin i鈥檙 holl gasgliadau, sy鈥檔 cynnwys llawysgrifau鈥檔 dyddio yn 么l i鈥檙 deuddegfed ganrif, yw eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffeg Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal 芒 diddordeb lleol.
Llun o grwp o wladfawyr yn adeiladu ffordd yn 鈥楬afn y Mynach鈥 Cwm Hyfryd, 1888.鈥淵mysg y dogfennau sydd ar gael i鈥檞 harchwilio neu eu darllen at ba bynnag bwrpas, mae papurau鈥檔 ymwneud ag unigolion ac archifau teuluol, cofnodion ffermio ac amaeth a chofnodion gwleidyddol. Mae'r rhain i gyd yn rhoi cipolwg hynod ar fywyd beunyddiol pobol yng Nghymru, ac yn adnodd unigryw,鈥 meddai Einion Thomas yr Archifydd.
Mae cofnodion y coleg yn ymestyn dros ganrif rhwng y cyfnod cyn sefydlu鈥檙 brifysgol yn yr 1880au hyd at yr 1980au ac yn cynnwys cofnodion cynharaf y Brifysgol a鈥檌 myfyrwyr a ffotograffau, cardiau post ac effemera printiedig. Maent yn ymwneud 芒 phynciau megis adeiladau鈥檙 Brifysgol, clybiau a chymdeithasau, cyngherddau, streiciau a phrotestiadau.
Hefyd yn yr Archif mae鈥檙 casgliad gorau yng Nghymru o bapurau ystadau a theuluoedd, yn ogystal 芒 chasgliadau o bapurau gan athrawon a darlithwyr y Brifysgol, haneswyr, hynafiaethwyr, ffermwyr, gw欧r busnes a gweinidogion yr efengyl.
Nid oes angen gwneud apwyntiad ymlaen llaw i ymweld 芒鈥檙 Archifdy, ond er mwyn gweld dogfennau gwreiddiol bydd angen i chi ddod 芒 dwy ddogfen gyda chi, un yn dystiolaeth adnabod a鈥檙 llall yn dystiolaeth o鈥檆h cyfeiriad.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2015